Pigion - Tachwedd 2025
Cyfarfu aelodau o’r Corff Llywodraethol ar gyfer cyfarfod arbennig Ddydd Mawrth, 25 Tachwedd 2025 yn Llandudno. Cafodd y cyfarfod ei ffrydio’n fyw, a gallwch ddarllen y crynodeb isod.
Pigion

Mewn cyfarfod arbennig o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru yn Llandudno, cadarnhawyd cynlluniau i benodi Esgob Dros Dro Bangor er mwyn sefydlogi'r esgobaeth cyn gwneud penodiad parhaol.
Dechreuodd Archesgob Cymru, y Parchf. Cherry Vann, drwy ddiolch i'r mwy na 100 o aelodau o'r Corff Llywodraethol a allodd ymuno â'r sesiwn arbennig. Wrth gyflwyno’r cynnig, dywedodd yr Archesgob mai ei bwriad oedd i ddarparu “dyfodol hirdymor, cynaliadwy a gobeithiol i Esgobaeth Bangor”.
Yn gynnar yn yr hydref, roedd y coleg etholiadol ym Mangor wedi penderfynu na allai fynd yn ei flaen â dewis esgob newydd. Roedd y Pyllgor Sefydlog wedi penderfynu peidio gweithredu’r drefn arferol, sef gadael i Fainc yr Esgobion wneud y penodiad, ac roeddent yn ofni y byddai rhedeg y coleg etholiadol arferol am yr ail tro yn golygu'r un canlyniad.
Y trydydd opsiwn oedd edrych y tu allan i Gymru am esgob dros dro i wasanaethu am gyfnod o hyd at ddwy flynedd. “Mae hwn yn dir nas archwiliwyd o'r blaen” meddai’r Archesgob, ond mae yna gynsail mewn mannau eraill, gan gynnwys ar hyn o bryd yn Lerpwl.
Roedd gan esgob dros-dro yr un cyfrifoldebau ag unrhyw esgob, dim ond bod y rôl yn gyfyngedig o ran amser. Meddai’r Archesgob y byddai hi'n croesawu gwelliant arfaethedig i'r cynnig a fyddai'n pennu'r cyfnod i derfynu mis ar ôl cyfarfod y Corff Llywodraethol yn Ebrill 2028.
Byddai'r esgob yn darparu arweiniad i Esgobaeth Bangor ar ôl iddi fynd trwy gymaint o “drawma” yn y blynyddoedd diweddar, meddai wrth derfynu. “Mae gan Esgobaeth Bangor heriau sylweddol i'w hwynebu.” Gydag ysgrifennydd esgobaethol parhaol newydd i'w penodi yn ystod y chwe mis nesaf, byddai'r esgob interim yn gweithredu tryloywder a chyfiawnder ar bob lefel.
Gwrthododd hi welliant arall, a oedd yn ceisio cyfyngu'r penodiad i rywun dan 70 oed, ond croesawodd y trydydd a alwodd am adolygiad o wersi a ddysgwyd.
Cefnogodd y Parch Rhun ap Robert (Bangor) y cynnig. Wrth siarad yn Gymraeg, dywedodd nad dim ond angenrhaid sefydliadol yw'r cynnig hwn, ond hefyd yn ymateb synhwyrol a strategol i'r heriau unigryw y mae’r esgobaeth yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Ychwanegodd, er bod y Coleg Etholiadol wedi gweithio'n ddiwyd, mae'n glir nad yw'r amser wedi dod eto i fynd ymlaen a dewis Esgob Bangor nesaf. Byddai brysio i un Coleg Etholiadol arall ar unwaith yn peryglu ailadrodd yr un heriau a allai arwain at ansicrwydd pellach. Yn lle hynny, mae'r cynnig hwn yn cynnig ffordd well ymlaen, un sy'n rhoi blaenoriaeth i sefydlogrwydd, paratoi ar gyfer y dyfodol a swyddogaeth hirdymor yr esgobaeth. Yn hanfodol, mae'r cynnig yn cydnabod yr angen am amserlen glir, sy'n osgoi'r perygl o beidio â chael esgob am gyfnod amhenodol, ac yn caniatáu hefyd amser digonol i ailgyfarfod, i ystyried a pharatoi ar gyfer y bennod nesaf.
Dywedodd Chris Dearden (Bangor) fod ei esgobaeth bellach yn teimlo fel “teulu trafferthus”, yn gwneud “mwy o benderfyniadau gwael” yn sgîl sylw negyddol yn y cyfryngau. Roedd Bangor angen arweinyddiaeth brofiadol nawr, yn enwedig gan fod cymaint o swyddi clerigol yn wag.
Cefnogodd Barney Hawthorne (Llandaf) y cynnig, gan rybuddio bod dillad budr yn cael eu gwthio o dan y carpedi yn yr Eglwys. Dylem fynd i’r afael â’r mater ehangach o “lygredd” yn yr Eglwys er mwyn ceisio atal problemau pellach rhag codi yn y dyfodol. “Pam nad ydym yn trafod y pethau hyn? Ydym ni'n rhy ymatalgar? A ydym yn amharod i ofyn cwestiynau anodd?”
Cefnogodd Canon Emlyn Cadwaladr Williams (Bangor) y cynnig. Wrth siarad yn Gymraeg, rhybuddiodd y gallai gwneud y Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y benodiad interim greu perygl o wneud y pwll o ymgeiswyr posibl yn rhy fach. Roedd hefyd am bwysleisio bod llawer o waith da yn mynd rhagddo yn y eglwysi ar Ynys Môn, fel y bu am flynyddoedd lawer, yno ac yn yr esgobaeth gyfan.
Gofynnodd y Parch Ruth Coombs (cyfetholwyd) a fyddai gan yr esgob interim awdurdod llawn gan eu bod ond yn cael eu hystyried yn esgob cynorthwyol o dan y Cyfansoddiad.
Sicrhaodd Y Parchg Kevin Ellis (Bangor) y Corff Llywodraethol fod bara yn dal yn cael ei dorri a gwin yn dal yn cael ei dywallt yn Esgobaeth Bangor. “Mae pethau da yn digwydd, rydym yn gwneud yr hyn y buom wastad yn ei wneud,” meddai, er iddo dal gefnogi'r cynnig. Roedd esgob dros dro yn “ryseit ar gyfer newyddion da, ac wedi cael ei groesawu yn eang ledled yr esgobaeth,” meddai.

Dywedodd y Parchg Dr Mark Clavier (Abertawe a Brycheiniog) fod yr angen i'r Eglwys fod yn “ddinas ddisglair a osodir ar fryn” erioed wedi bod yn fwy pwysig mewn oes bryderus a thywyll. Ond i ddisgleirio'n fwy llachar, “rhaid i ni gael ein gweld yn ffyddlon, yn ddibynadwy”. Cefnogodd y cynnig er mwyn dangos arwydd i'r byd fod yr Eglwys yn cymryd pethau o ddifrif ac yn newid. Roedd y bleidlais yn ymwneud â mwy na Bangor, ac yn ymwneud â “hygrededd ein tystiolaeth yng Nghymru”.
Dywedodd Archddiacon Ynys Môn, yr Hybarch John Harvey (Bangor), fod ei esgobaeth yn parhau i fod yn le “croesawgar” i weinyddu ynddo ac adroddodd fod apwyntiadau i'r swyddi gwag yn cael eu gwneud. Canmolodd y cynnig.
Cefnogodd Y Parchg Dr Sue Hurrell (cyfetholwyd) y cynnig, ond cwestiynodd pam roedd y penderfyniad penodi yn newid o fod yn un ar y cyd gan y Coleg i un uniongyrchol gan yr Archesgob.
Dywedodd Archddiacon Meirionnydd, y Parchg Robert Townsend (Bangor), fod yr eglwys angen “amser i anadlu” ar ôl i Andy John ymddeol fel Esgob Bangor. Ond ni chaniataodd y cyfansoddiad hyn, gan orfodi proses bron ar unwaith i benodi esgob newydd. Dywedodd fod gweddill yr eglwys wedi edrych ar y straeon newyddion sy’n dod o’r gadeirlan gydag arswyd gan fod un person wedi ceisio rheoli popeth yn Bangor, gan ganiatáu i “anrhefn” reoli. Creodd penodi’r is-ddeon yn 2021 nifer o engrheifftiau o wrthdaro buddiannau a ffiniau annelwig. Ceisiodd pobl gwestiynu hyn, ond dim ond ymatebion “economaidd gyda’r gwirionedd” a gafwyd, meddai. Roedd y rheini oedd yn gwrthwynebu’r arferion hyn yn cael eu hunain yn amhoblogaidd iawn yn yr esgobaeth. Collwyd gafael ar lywodraethiant da yn y broses, meddai Archddiacon Townsend. Ond roedd ffigyrau hŷn yn awr yn “benderfynol o unioni’r sefyllfa”. Croesawodd y cynnig.
Dywedodd y Parchedig Richard Wood (Bangor) y byddai'n atal ei bleidlais ar y cynnig. Roedd yr Eglwys yng Nghymru, nid Bangor yn unig, mewn mesurau arbennig i bob pwrpas: “Nid ydym yn Eglwys iach a ffyniannus.” Roedd yn bryderus na fyddai gan yr esgob dros dro yr amser i wneud y newidiadau “radical” angenrheidiol, ond byddai'n golygu gohirio pethau angenrheidiol. Dywedodd y gallai ail ymgais wrth broses Coleg Etholiadol traddodiadol weithio'n dda nawr, ond dywedodd ei fod yn cydnabod bod ei farn yn un lleiafrifol.
Yna symudodd Mr Dearden welliant a fyddai'n ailosod y cyfyngiad oedran cyfansoddiadol arferol o 70 ar yr esgob dros dro, gan ddweud fod hyn yn angenrheidiol er mwyn osgoi gosod cynsail.
Roedd Deon Casnewydd, y Parchedig Ian Black (Mynwy), yn gyntaf yn cydymdeimlo â’r gwelliant ond nid oedd eisiau i’r Eglwys gael ei ‘chau mewn’ rhag penodi'r person gorau, hyd yn oed os oedden nhw'n 71 oed.

Cafodd y gwelliant ei roi i'r bleidlais a'i wrthod.
Cefnogodd Bob Evans (Mynwy) y cynnig, ond gofynnodd am eglurder mwy am broses penodi'r esgob dros dro – a fyddai'r Archesgob yn ymgynghori gyda’r Coleg Etholiadol?
Gwrthwynebodd Sue Henley (Tyddewi) y cynnig, a gymerodd y penderfyniad oddi ar y Coleg Etholiadol gan ei roi i'r Archesgob yn unig. Pam na allai'r Fainc wneud y penodiad eu hunain, yn unol â'r Cyfansoddiad? Roedd hi hefyd am eglurder ar statws yr esgob interim, na fydd yn eistedd ar y Fainc ond a fyddai’n gomisiynydd i’r Archesgob. Roedd Bangor angen ei amgylchynu â chariad gan weddill ei 'deulu' eglwysig, nid cael ei farnu; gellir darganfod llawer o fethiannau tebyg mewn esgobaethau eraill. Gallai cyflwyno person allanol fel esgob interim darfu ar y gwaith sydd eisoes ar y gweill i gywiro'r problemau, rhybuddiodd.
Symudodd Robert Charlton (Abertawe a Brecon) ei gwelliant 'bach ond pwysig', a fyddai'n gwthio'r dyddiad terfynol ar gyfer y swydd interim i fis wedi cyfarfod y Corff Llywodraethol ym mis Ebrill 2028. Byddai hyn yn osgoi gorfod galw cyfarfod newydd o'r Corff Llywodraethol os oedd angen ymestyn terfyn tymor o dan yr amserlen flaenorol ar 1 Ionawr 2028.
Yna pasiwyd y gwelliant gan y GB.
Penderfynodd Mr Dearden dynnu yr ail welliant a gynigiwyd.
Wrth ymateb, sicrhaodd yr Archesgob yr aelodau na fyddai'r esgob dros dro ond yn esgob cynorthwyol yn Esgobaeth Mynwy ar gyfer pwrpas pleidleisio yn y Corff Llywodraethol a derbyn cyflog. Ac na fyddai'n penodi'r esgob heb ymgynghoriad â'r Coleg Etholaethol ym Mangor. Byddai'r broses yn dechrau'r diwrnod canlynol os pasiwyd y cynnig gan aelodau. “Bydd gan yr esgob dros dro bwerau i wneud unrhyw waith radical yr oedd ei angen – nid ydynt yn dod dim ond i gynnal y sefyllfa bresennol tra byddwn yn rhoi trefnu ar bethau,” meddai hi wrth derfynu.
Cafodd y cynnig ei basio 75-4, gydag 7 yn ymatal.