Pigion – Ebrill 2025

Cyfarfu aelodau o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru yn Venue Cymru yn Llandudno ddydd Mercher 30 Ebrill a dydd Iau 1 Mai 2025. Cafodd y cyfarfod ei ffrydio’n fyw, a gallwch ddarllen y crynodeb a gwylio pob sesiwn isod.
Sesiynau dyddiol
- Croeso i ymwelwyr
- Anerchiad y Llywydd
- Rhyngweithio â’r Llywydd am ei Anerchiad
- Ap Aelodaeth yr Eglwys yng Nghymru
- Cymuned Ddysgu’r Esgobaethau
- Cynigion Aelodau Preifat
- Anerchiad gan Dr Monica Attias
- Adroddiad Corff y Cynrychiolwyr
- Adroddiad y Pwyllgor Sefydlog
- Hawl i Holi
- Adroddiad Mainc yr Esgobion
- Adroddiad Portffolio yr Esgobion
- Dyddiad y cyfarfod nesaf
Sesiwn 1
Croeso i ymwelwyr
Dechreuodd Archesgob Cymru, Andrew John, y cyfarfod drwy groesawu gwesteion eciwmenaidd ac ymwelwyr eraill i’r Corff Llywodraethol o nifer o sefydliadau eglwysig ledled Cymru a thu hwnt. Yna pleidleisiodd yr aelodau i dderbyn cofnodion y cyfarfod blaenorol fel cofnod cywir.
Anerchiad y Llywydd

Dechreuodd yr Archesgob ei anerchiad trwy sôn am y slogan enwog “Cofiwch Dryweryn” - galwad amlwg o brotest yn erbyn dinistrio pentref Cymraeg ei iaith i greu cronfa ddŵr i Lerpwl ym 1965. Yn union fel yr oedd angen i Gymru gofio pwy ydoedd, wedi’i siapio gan fuddugoliaethau a thrasiedïau fel ei gilydd, felly hefyd yr Eglwys yng Nghymru, a oedd yn cael ei hail-lunio yn barhaus gydol ei hanes. Dywedodd yr Archesgob Andrew fod yn rhaid i’r Eglwys addasu i set newydd o heriau gyda “dewrder”, a dod yn fwy proffesiynol, cadarn, tosturiol, cysylltiedig a chreadigol.
Roedd diogelu cadarn ac o ansawdd uchel, dan arweiniad cnewyllyn o swyddogion diogelu a oedd yn meithrin diwylliant lleol o ragoriaeth ym maes diogelu, yn ganolog i Eglwys fwy proffesiynol. Ond roedd proffesiynoldeb hefyd yn mynd y tu hwnt i ddiogelu, meddai’r Archesgob. Roedd yr esgobion wedi dechrau ymgynghoriadau ar ddarpariaeth litwrgaidd i’r rhai mewn uniadau o’r un rhyw. Roedd yr ymarferion gwrando hyn yn digwydd nid oherwydd bod cytundeb wedi’i warantu neu’n hawdd, “ond oherwydd bod gwrando parchus ynddo’i hun yn weithred drawsnewidiol”.
Yna soniodd yr Archesgob Andrew am uwchgynhadledd ar afonydd Cymru a gynhaliwyd gan yr Eglwys yn ystod y misoedd diwethaf, a oedd wedi tanlinellu’r rôl bwysig yr oedd gan yr Eglwys i’w chwarae o hyd, nid fel arbenigwyr, ond fel cynullwyr. “Gallwn ddod â phobl at ei gilydd, helpu i alinio gwerthoedd ac ymdrechion, ac annog cydweithredu lle gallai fod dameidiog,” meddai. Ni ddylai’r uwchgynhadledd fod yn ddigwyddiad untro, meddai, ac mae’n rhaid i’r Eglwys barhau i fod yn rhan greiddiol o’r fforwm cyhoeddus. Yn 2026 byddai uwchgynhadledd gyhoeddus arall yn cael ei chynnal.
Mae deallusrwydd artiffisial (AI) yn her arall y mae’n rhaid i’r Eglwys ei hwynebu, meddai’r Archesgob Andrew, wrth siarad am gynhadledd a fynychodd ym Mharis ar y pwnc. Gallai deallusrwydd artiffisial helpu i ddod o hyd i atebion ym meysydd gofal iechyd, addysg, newid hinsawdd a mwy, ond roedd angen rheoleiddio cadarn a fframwaith moesegol rhyngwladol. Anogodd aelodau i ddarllen dogfen ddiweddar yr Eglwys Gatholig Rufeinig ar ddeallusrwydd artiffisial ‘Antiqua et nova’; rhaid i ffydd lywio agwedd cymdeithas at bŵer a thechnoleg.
Rhaid i’r Eglwys hefyd nodweddu tosturi, ychwanegodd, gan gydbwyso gweddi a phrotest, llonyddwch ac undod. Ac roedd math newydd o eciwmeniaeth yn datblygu yng Nghymru, ym marn yr Archesgob Andrew. Canmolodd weinidogaeth Archesgob Catholig Caerdydd, y Parch Mark O’Toole, a fu’n pregethu yng ngwasanaeth Cymun Sanctaidd y Corff Llywodraethol yn gynharach yn y dydd. Roedd gwahanol enwadau bellach yn dysgu gwrando’n dda ar ei gilydd a charu ei gilydd – gan “anrhydeddu ein traddodiadau a dod o hyd i le newydd ar gyfer gweinidogaeth a sgwrs”.
Yn olaf, dywedodd yr Archesgob ei fod wedi’i galonogi gan yr egni a welodd ledled y dalaith, arwydd bod yr Eglwys yn dysgu ymestyn ffiniau ei gweinidogaeth, yn enwedig trwy Gronfa Twf yr Eglwys. Roedd yna waith plannu eglwysi, prosiectau gweinidogaeth wledig, gwaith ysgolion a mwy. “Ond peidiwch â gosod arloeswyr yn erbyn gweinidogaeth blwyfol” anogodd yr aelodau - roedd llawer o’r weinidogaeth ar sail gadarn ac yn arbrofol.
I gloi, dywedodd fod yr Eglwys yn ystod oes aur Dewi hefyd wedi wynebu heriau, ond na wnaethant ildio. Mae gan heddiw ei heriau ei hun, ond “mae ein gobaith yr un fath â’u gobaith nhw – sef y gall grym Duw ein tywys a’n cynnal”.
Sesiwn 2
Rhyngweithio â’r Llywydd am ei Anerchiad
Ar ôl seibiant byr, daeth yr aelodau ynghyd mewn grwpiau bach i drafod Anerchiad y Llywydd yr Archesgob Andrew ac yna i ofyn cwestiynau.
Dywedodd Tony Mullins (Llandaf), swyddog diogelu plwyf, ei fod wedi teimlo’n siomedig yn ddiweddar ar ôl ceisio amddiffyn record yr Eglwys ar gam-drin un diwrnod, dim ond i’r newyddion dorri drannoeth am euogfarn cyn-Esgob Abertawe ac Aberhonddu, Anthony Pierce, am gam-drin plentyn yn rhywiol. Rhaid i unrhyw droseddwyr eraill sy’n hysbys yn yr Eglwys gael eu datgelu a’u riportio, meddai. “Mae’n rhaid i ni sicrhau bod ein cynulleidfaoedd yn teimlo’n ddiogel.” Mewn ymateb, dywedodd yr Archesgob Andrew y gallai’r Eglwys sefydlu hygrededd trwy fod yn glir am broblemau’r gorffennol: “Mae’n beth poenus, ond mae’n angenrheidiol.” Roedd mwy i’w wneud, yn enwedig o ran galluogi goroeswyr i lunio gweithdrefnau diogelu’r Eglwys, ac i feithrin “chwilfrydedd proffesiynol” heb droi’n “heddlu meddwl”.
Canmolodd Robert Charlton (Abertawe ac Aberhonddu) yr uwchgynhadledd ar afonydd a dywedodd fod dod â gwahanol grwpiau at ei gilydd eisoes yn meithrin perthnasoedd buddiol ac yn datgloi cyllid newydd.
Gofynnodd Archddiacon Llanelwy, yr Hybarch Andy Grimwood, sut yr oedd y pum maes yr oedd yr Archesgob Andrew wedi eu crybwyll yn gysylltiedig â blaenoriaeth rhif un yr Eglwys – efengylu. Dywedodd yr Archesgob Andrew fod y ceisiadau i Gronfa Twf yr Eglwys wedi bod yn amrywiol iawn, sy’n arwydd o allu’r Eglwys i feddwl y tu allan i’r bocs. Roedd gwaith efengylu yn cael ei normaleiddio, ac yn symud o’r esgobion i’r Corff Llywodraethol a’r eglwys ehangach, a oedd yn hynod gyffrous.
Diolchodd Gareth Jones (Bangor) i’r Archesgob Andrew am godi Tryweryn a’r hunaniaeth Gymreig, a chanmolodd yr ymgysylltiad â deallusrwydd artiffisial, gan awgrymu ei fod yn ymwneud yn y bôn â materion oesol ynghylch gwir a gau. Dywedodd yr Archesgob Andrew ei bod yn amlwg bod deallusrwydd artiffisial wedi chwarae ei rhan wrth greu newyddion ffug, a’i fod ef yn aelod o grŵp moeseg ar ddeallusrwydd artiffisial o dan arweiniad Esgob Rhydychen. Nid oedd gan uwchgynhadledd 2026 ddyddiad, teitl nac agenda eto, ond byddai’n canolbwyntio ar hanfod cymdeithas dda yng Nghymru.
Roedd y Parch Rebecca Sparey (Llanelwy) yn pryderu am effaith ecolegol deallusrwydd artiffisial, gan nodi bod un cais i ChatGPT yn costio’r un faint o ran ynni â deg chwiliad Google. Sut y gellid cysoni hyn ag ymrwymiadau gwyrdd yr Eglwys, gofynnodd. Dywedodd yr Archesgob Andrew nad oedd unrhyw reswm pam na allai cwtogi allyriadau fynd law yn llaw â datblygu technolegau newydd i liniaru llygredd. Rhaid i aelodau gyfyngu ar y defnydd o danwydd ffosil a pharhau i fod yn barod i fentro.
Gofynnodd y Parch Ruth Coombs (Llandaf) am eglurder ynglŷn â’r hyn y mae’n ei olygu i fod â “chwilfrydedd proffesiynol” o ran diogelu. Gofynnodd hefyd sut y gall prosesau da raeadru i lawr a dechrau symud diwylliant o barchedig ofn. Dywedodd yr Archesgob Andrew fod diwylliant yn cymryd mwy o amser i’w sefydlu a’i fod yn fwy na dim ond ysgrifennu’r polisïau cywir. Nawr, roedd angen datblygu dull anfygythiol i ofyn cwestiynau chwilfrydig am bethau nad oeddent o bosib yn edrych yn iawn. Nid chwilfrydedd y gweithwyr proffesiynol ydyw, ond chwilfrydedd i bawb ei fabwysiadu.
Roedd Archddiacon Margam, yr Hybarch Mark Preece (Llandaf), yn meddwl tybed a oedd yr Eglwys yn rhoi eciwmeniaeth ar waith go iawn yn hytrach na siarad amdano yn unig. Roedd wedi clywed rhai yn dweud bod gweithio mewn ardal weinidogaeth gydag eglwysi Anglicanaidd eraill yn ddigon eciwmenaidd. Dywedodd yr Archesgob Andrew fod yr heriau enfawr sy’n wynebu Cymru yn gofyn am gydweithio rhwng eglwysi. Roedd eciwmeniaeth yn fwy na chyd-weddïo yn unig, roedd yn golygu bod yn fyw i’r problemau yr oedd Cymru’n eu hwynebu.
Gofynnodd y Canon Richard Wood (Bangor) am sylwadau ar gamddefnyddio awdurdod yng ngoleuni’r adroddiad diweddar gan y Comisiwn Athrawiaethol Sefydlog – Cerdded mewn Didwylledd. Gofynnodd hefyd a oedd canllawiau ar gyfer Ardaloedd Gweinidogaeth a oedd yn cael trafferth recriwtio swyddogion diogelu. Dywedodd yr Archesgob Andrew fod adroddiad Cerdded mewn Didwylledd wedi mynd i wraidd un o’r agweddau mwyaf anodd ar ddiogelu, materion pŵer a rheolaeth mewn gweinidogaeth fugeiliol. Roedd mwy o waith ar hyn ar y gweill, meddai. Mynegodd hefyd bryder am swyddogion diogelu yn cael eu rhannu ar draws sawl Ardal Genhadaeth neu Weinidogaeth.
Awgrymodd y Parch Dr Kevin Ellis (Bangor) y gallai’r Eglwys fodelu i gymdeithas ehangach, gan fynd i’r afael â materion fel gofal diwedd oes, sut i ddangos undod pan fo gan bobl safbwyntiau amrywiol a gwrando’n astud. Dywedodd yr Archesgob Andrew fod yr esgobion wedi ymrwymo i ddirnad y ffordd ymlaen ar berthynas o’r un rhyw, law yn llaw â’r Eglwys ehangach, a’u bod wedi cael eu plesio’n fawr iawn hyd yma gan y ffaith fod gwahanol garfannau yn fodlon gwrando’n raslon ar ei gilydd.
Gofynnodd Chris Dearden (Bangor) sut y gallai cynulleidfaoedd weld yr Eglwys yn ymddwyn a gweithredu’n fwy proffesiynol, cadarn, creadigol, cysylltiedig a thosturiol. Dywedodd yr Archesgob Andrew ei bod yn hanfodol bod penderfyniadau a wnaed gan y Corff Llywodraethol yn treiddio i lawr i Ardaloedd Cenhadaeth a Gweinidogaeth. Elfen hanfodol o hyn yw ysgolion yr Eglwys, a oedd yn dod â’r Eglwys i fywydau pobl ifanc o bob oed. Dywedodd hefyd y dylai’r Eglwys gael ei hadnabod yn eang am ei “llawenydd” wrth “raeadru’r newyddion da”.
Sesiwn 3
Ap aelodaeth yr Eglwys yng Nghymru

Rhoddodd Mike Wakeman, Cyfarwyddwr TG, gyflwyniad ar Ap Aelodaeth yr Eglwys yng Nghymru, sy’n caniatáu i eglwysi gofnodi eu data ar bresenoldeb a gwasanaethau. Roedd tua 30% o eglwysi yn defnyddio’r ap ar hyn o bryd, sy’n golygu bod ystadegau ledled y dalaith yn fwy cywir, ond byddai mwy o ddefnydd yn gwella hyn ymhellach.
Roedd presenoldeb ar y Sul yn y dalaith yn 29,301 ar gyfartaledd, a oedd ychydig yn llai na chyn y pandemig covid ac yn awgrymu y gallai presenoldeb “fod yn sefydlogi”. Tynnwyd sylw at y ffaith fod yr ap nid yn unig ar gyfer ystadegau ar lefel y dalaith, ond ei fod hefyd yn helpu eglwysi lleol i olrhain eu gweithgareddau eu hunain.
Dywedodd y Parch Rebecca Sparey (Llanelwy) fod ei Hardal Genhadaeth wedi dechrau defnyddio’r ap yn 2023, ond canfu ei fod yn lletchwith ac yn anodd ei ddefnyddio, ac nad oedd yn darparu data cynhwysfawr.
Adleisiodd y Parch James Henley (Trefynwy) rai o bryderon y Parch Rebecca Sparey ynglŷn â dadansoddi’r data a chymharu tueddiadau, ond canmolodd dîm ei esgobaeth am helpu eglwysi llai i ddefnyddio’r system newydd.
Gofynnodd Cenhadwr yr Archddiacon yn Esgobaeth Tyddewi, yr Hybarch Mones Farah, a oedd unrhyw ddealltwriaeth ynglŷn â’r cynnydd mewn niferoedd ar ôl y pandemig – ai addolwyr newydd oeddent yn bennaf neu aelodau blaenorol a oedd bellach wedi dychwelyd ar ôl covid?
Wrth ymateb i’r cwestiynau, dywedodd Mr Wakeman nad oedd dadansoddiad eto ai eglwyswyr newydd a oedd yn y cynulleidfaoedd neu ai eglwyswyr a oedd yn dychwelyd ar ôl Covid. Diolchodd i Ms Sparey am ei “adborth cadarn a gonest” a nododd fod angen gwaith i wella’r ap a’i nodweddion adrodd.
Cymuned Ddysgu’r Esgobaethau

Cyflwynodd Esgob Abertawe ac Aberhonddu, y Gwir Barch John Lomas, adroddiad i’r aelodau ar y Gymuned Ddysgu a gyfarfu ym mis Tachwedd. Dywedodd fod pob un o sesiynau’r Gymuned yn ymwneud ag agweddau penodol ar y weinidogaeth, gan gwmpasu gweinyddiaeth, diwylliant, hunaniaeth, galwedigaethau a lles. Roedd yn hanfodol bod y gwersi a ddysgwyd yn y Gymuned yn cael eu bwydo yn ôl i’r Eglwys ehangach, ychwanegodd. Roedd y trafodaethau hefyd yn ddefnyddiol iawn i’r esgobion, yn enwedig wrth dynnu sylw at “undod cynyddol o bwrpas rhwng yr ardaloedd gweinidogaeth”.
Yna siaradodd James Laing, ysgrifennydd yr esgobaeth yn Llandaf, am arolwg cysylltiedig yr Ardaloedd Gweinidogaeth, y gofynnwyd amdano gyntaf gan y Corff Llywodraethol yn 2023. Roedd yr arolwg yn cwmpasu cyllid, llywodraethu a strwythurau, a’r gobaith oedd nodi pa feysydd oedd yn gyffredin a’r gwahaniaethau. Cafwyd 109 o ymatebion gan Ardaloedd Gweinidogaeth, gyda thua 80% o’r holl ardaloedd yn cymryd rhan.
Mae’r canfyddiadau yn awgrymu bod estyn allan yn digwydd yn gyffredinol yn y rhan fwyaf o ardaloedd, tra bod efengylu yn fwy amrywiol ac anghyson. Roedd cyfranogiad lleyg yn fwy cyffredin, gyda grwpiau bach yn fwy cyffredin mewn trefi nag mewn ardaloedd gwledig. Roedd mathau newydd o weinidogaeth yn digwydd yn gyffredinol, ond roeddent ar eu gorau pan oeddent yn ategu addoli traddodiadol. Roedd y rhan fwyaf o ardaloedd yn hyderus am eu trefniadau llywodraethu, ond roeddent yn llai siŵr am rôl ymddiriedolwyr a rheoliadau elusennau. Roedd pryderon ynghylch cyllid, gyda llawer o ardaloedd yn adrodd bod y trafodaethau am gyllid yn tueddu i ddominyddu trafodaethau am genhadaeth. O ran cyfraniadau, roedd pob ardal fwy neu lai yn gytûn nad oedd rhoddion lleol yn ddigonol i dalu cost y weinidogaeth. Cafwyd safbwyntiau cyffredinol gadarnhaol ynglŷn ag adeiladau ac effeithiolrwydd diogelu. Roedd yna safbwyntiau cymysg iawn ynghylch a oedd ardaloedd yn teimlo’n hyderus am y dyfodol.
Dywedodd Mr Laing fod newid tuag at weithio fel tîm mewn ardaloedd gweinidogaeth i ffwrdd o eglwysi unigol yn dechrau digwydd. Roedd twf yn digwydd, hyd yn oed os oedd yn dameidiog ac yn anodd ei fesur ar adegau. Roedd adeiladau yn cael eu gwerthfawrogi am eu rôl o safbwynt cenhadaeth ac fel asedau cymunedol. Roedd yna hefyd rai pryderon yn codi droeon: hyder cymysg o ran efengylu, diffyg adnoddau dynol ac ariannol, ofnau am y beichiau gweinyddol, y meddylfryd plwyfol parhaus, a’r angen am fwy o hyfforddiant.
Nododd Archddiacon Llanelwy, yr Hybarch Andy Grimwood, ymchwil diweddar gan Gymdeithas y Beibl a awgrymodd fod “adfywiad tawel” o’r ffydd Gristnogol ar droed ym Mhrydain. Gofynnodd y cwestiwn “A oedd unrhyw dystiolaeth bod hyn yn digwydd yng Nghymru, ac os felly, ymhle?”
Gofynnodd Bob Evans (Trefynwy) am i’r holl wybodaeth a ddaeth o’r Gymuned Ddysgu a’r arolwg gael ei rhannu ar lawr gwlad gydag Ardaloedd Gweinidogaeth i’w helpu i ddysgu beth oedd yn gweithio mewn mannau eraill.
Rhybuddiodd Hannah Rowan (Trefynwy) fod llawer o’r cwestiynau yn dibynnu ar dybiaethau eithaf goddrychol.
Ymatebodd yr Esgob John trwy nodi bod lleygion wedi cymryd cyfrifoldeb enfawr yn yr 11 mlynedd diwethaf ers cyflwyno’r Ardaloedd Gweinidogaeth. Dylai’r Eglwys dynnu ar eu harbenigedd sylweddol mewn gwahanol feysydd. Wrth ymateb i’r Archddiacon Grimwood, dywedodd mai dim ond tystiolaeth anecdotaidd a oedd ganddo o rai eglwysi yn ei esgobaeth a oedd yn ffynnu.
Ychwanegodd Mr Laing fod tystiolaeth anecdotaidd gan ei esgobaeth o bresenoldeb uwch nag erioed yng ngwasanaethau’r Pasg, ond roedd angen gwneud mwy o waith. Cydnabu bod yr arolwg yn gymysgedd, gyda chwestiynau argraffiadol am sut yr oedd pobl yn teimlo yn gymysg â chwestiynau ffeithiol, caletach.
Cynigion Aelodau Preifat

Cynigiodd Archddiacon Llandaf, yr Hybarch Rhod Green, gynnig i ymestyn y cyfnod swydd ar gyfer y rhai sy’n gwasanaethu ar gynghorau Ardaloedd Gweinidogaeth o flwyddyn i dair blynedd. Roedd hyn yn hanfodol ar gyfer llywodraethu da, dadleuodd, a byddai’n dod â pharhad a sefydlogrwydd wrth i aelodau aeddfedu i’w rolau. Byddai hefyd yn golygu y byddai Arweinwyr Ardaloedd Gweinidogaeth yn cael eu rhyddhau o’r straen o recriwtio cynghorau newydd bob blwyddyn.
Dywedodd Michael Dean (Bangor) na allai gefnogi’r cynnig, a oedd yn syniad da mewn theori ond yn ddiffygiol iawn yn ymarferol. Dim ond ar ôl i’r cysyniad o ardaloedd gweinidogaeth gael ei ysgrifennu yn y Cyfansoddiad yn y lle cyntaf y dylid ei ailystyried.
Cefnogodd Archddiacon Wrecsam, yr Hybarch Dr Hayley Matthews (Llanelwy) y cynnig, gan nodi’r baich o ethol aelodau newydd yn flynyddol.
Gofynnodd Tony Mullins (Llandaf) a ddylid pennu oedran ymddeol gorfodol i aelodau’r cyngor. Nid oedd terfyn oedran ar gyfer aelodau etholedig, ar wahân i wardeiniaid eglwys, esboniodd y cadeirydd.
Cefnogodd y Parch James Henley (Trefynwy) ysbryd y cynnig ond cododd i awgrymu ei welliant hyd yn oed mwy hyblyg ei hun. Byddai’n caniatáu i bob cwrdd festri gytuno ar ei gyfnod swydd ei hun o rhwng un a phedair blynedd, trwy ei reolau sefydlog, gyda phob cwrdd festri yn addasu’r rheolau ar gyfer ei amgylchiadau penodol ei hun.
Roedd yr Archddiacon Green yn gwrthwynebu’r gwelliant, gan bryderu ei fod yn rhy gymhleth yn weinyddol ac y gallai ysgogi cynghorau Ardaloedd Gweinidogaeth i gadw’r etholiadau blynyddol symlach.
Awgrymodd Hannah Oxenham (Trefynwy) y gellid cael amrywiaeth o reolau sefydlog templed i ddewis ohonynt er mwyn lleihau’r cymhlethdod gweinyddol.
Roedd Archddiacon Caerfyrddin, yr Hybarch Matthew Hill (Tyddewi), yn ffafrio’r cynnig gwreiddiol, a oedd yn cloi rheolau clir yn y Cyfansoddiad ac yn osgoi dryswch ynghylch rheolau sefydlog.
Roedd Archddiacon Cymoedd Gwent, yr Hybarch Stella Bailey (Trefynwy), yn gwrthwynebu’r gwelliant oherwydd y byddai’n creu mwy o wahaniaethau a llai o undod rhwng ardaloedd gweinidogaeth (a gallai hyd yn oed lusgo archddiaconiaid fel hi i ddrama ynghylch terfynau cyfnodau mewn swydd).
Roedd y Cenhadwr Archddiacon yn Esgobaeth Tyddewi, yr Hybarch Mones Farah, yn gwrthwynebu’r gwelliant, gan ddadlau y byddai’n arwain at strwythurau a oedd yn gwrthdaro. Adleisiwyd hyn gan Hannah Wilkinson (Tyddewi) ac yn ddiweddarach gan y Canon Richard Wood (Bangor).
Nododd Sue Henley (Tyddewi) fod ei hesgobaeth eisoes wedi creu rheolau sefydlog templed ar gyfer pob ardal weinidogaeth, a oedd yn dal i greu lle ar gyfer hyblygrwydd lleol. Roedd y gorchmynion hyn yn rhoi eglurder a strwythur i gyfarfodydd.
Wrth ymateb i’r ddadl, dywedodd Mr Henley nad oedd yn credu y byddai ei welliant yn creu “anhrefn trefniadol”, ac y byddai gwahaniaethau mewn ymarfer rhwng Ardaloedd Gweinidogaeth yn anochel o dan y cynnig heb ei ddiwygio hefyd.
Yna, pleidleisiwyd ar y gwelliant ac fe’i trechwyd, cyn i gynnig gwreiddiol yr Archddiacon Green gael ei roi i’r bleidlais a’i basio.
Sesiwn 4
Anerchiad Dr Monica Attias

Cyflwynodd yr Archesgob Andrew Monica Attias i’r Corff Llywodraethol. Mae Monica’n gweithio gyda mudwyr a ffoaduriaid ar ran Cymuned Sant’Egidio, mudiad gweithredu cymdeithasol Catholig. Mae Dr Attias wedi bod yn rhan o’r gymuned ers 1978 ac wedi canolbwyntio ar loches a mudo ers 2000. Dywedodd yr Archesgob Andrew, pan gyfarfu â Dr Attias ddiwethaf yn y Fatican ei fod wedi ei daro gan ba mor annwyl oedd hi yng ngolwg y bobl yr oedd hi wedi eu gwasanaethu a’u dwyn i Rufain.
Dechreuodd Dr Attias drwy esbonio bod y Gymuned wedi’i sefydlu ym 1968 gan grŵp o fyfyrwyr a oedd yn ceisio byw yr efengyl gyda’i gilydd, gyda gweddi gyffredin feunyddiol yn flaenoriaeth iddynt. Thema graidd Sant’Egidio oedd cyfeillgarwch – cyfeillgarwch â’r tlawd a chyfeillgarwch â’r rhai sy’n wahanol. Roedd aelodau’r Gymuned – 70,000 bellach ym mron pob cyfandir ar y Ddaear – yn bobl normal â swyddi cyflog a oedd yn ceisio gwneud lle yn eu bywydau i’r rhai a oedd yn ddifreintiedig. Crynhodd y diweddar Pab Ffransis y Gymuned gyda thair P – prayer, peace a poor, meddai Dr Attias, a dyma oedd eu nod o hyd.
Roedd y ffocws heddiw ar fudwyr, y digartref a’r henoed, ychwanegodd, a oedd hefyd yn broblem gynyddol yng Nghymru. Roedd digartrefedd i fyny 8% yn 2024, gydag arwyddion pryderus hefyd o gynnydd mewn tlodi plant.
Mae’r byd yn wynebu heriau nas gwelwyd ers yr Ail Ryfel Byd ac mae’n rhaid i’r Eglwys wrthsefyll y demtasiwn i edrych i mewn a chau ei llygaid ar y byd. Roedd yr angerdd dros eciwmeniaeth a chyfarfyddiad rhyngwladol wedi pylu ers yr optimistiaeth a ddilynodd diwedd y Rhyfel Oer, meddai, ac roedd rhyfela fel modd o ddatrys gwrthdaro bellach yn ddigwyddiad rheolaidd. Roedd yna lawer o amheuaeth ynglŷn â deialog, ond “beth fyddai’r byd heb weddi a brawdoliaeth?”
Mae pobl ein hoes yn ddryslyd, yn brwydro i ddod o hyd i’w hunaniaeth, “yn cerdded yn eu cwsg – yn byw ond heb fod eisiau gweld beth sy’n digwydd o’u hamgylch”. Roedd Ewropeaid ofnus yn ceisio troi eu cyfandir yn gaer, ond roedd Sant’Egidio wedi helpu i sefydlu llwybrau diogel i ffoaduriaid, fel y gallent osgoi peryglon masnachwyr pobl a chroesfannau môr peryglus. Mae tua 80,000 o bobl bellach wedi cyrraedd Ewrop trwy’r rhaglen hon, adroddodd Dr Attias.
“Mae’n rhaid i ni greu chwyldro o dynerwch,” meddai, gan ddyfynnu’r diweddar Bab Ffransis. Roedd Cristnogion yn cael eu galw i fod yn deilwyr, gan drwsio ffabrig carpiog ein cymdeithasau. “Gall gweddi barhaus symud mynyddoedd, ac mae hanes yn llawn o’r annisgwyl - mae yna obaith o hyd!”
Yna gofynnodd yr aelodau gwestiynau i Dr Attias, gan ddechrau gyda’r Parch Andrew Lightbown (Trefynwy) a oedd yn gresynu’r “cywilydd diwinyddol ac ysbrydol” fod niferoedd mor uchel o bobl ddigartref yn ei ddinas yng Nghasnewydd. Roedd hyn yn her i bob Eglwys, gan gynnwys yr Eglwys yng Nghymru: i feithrin cyfeillgarwch â’r rhai digariad. Diolchodd i Dr Attias am atgoffa’r Corff Llywodraethol am gyfeillgarwch anfeirniadol Crist, a’r angen i “gael rhywfaint o fwd dwyfol o dan ein hewinedd”.
Cofiodd y Canon Richard Wood (Bangor) nad oedd tosturi yn golygu “teimlo’n ddrwg am rywbeth” ond “dioddef ochr yn ochr” â rhywun. A oedd unrhyw beth y gallai Dr Attias ei rannu am sut y gall Cristnogion wneud y daith honno tuag at gyfeillgarwch ac i ffwrdd o deimlo piti?
Dywedodd Dr Attias fod rhaid gwneud unrhyw symudiad gyda’n gilydd, fel cymuned. Mae gwasanaethu’r tlawd yn gofyn am ymrwymiad ac amser, ond mae’n ffrwyth llawenydd mawr. A pheidiwch â throsglwyddo popeth i law’r gweithwyr proffesiynol neu’r elusennau, anogodd. “Gadewch i ni fod yn llai proffesiynol, gan gynnig cyfleoedd i bobl ifanc yn ein plwyfi a hyd yn oed y tu allan i’r Eglwys” i gamu i wasanaeth.
Sesiwn 5
Adroddiad Corff y Cynrychiolwyr

Cyflwynodd yr Athro Medwin Hughes yr adroddiad gan Gorff y Cynrychiolwyr, y mae’n ei gadeirio. Mae’r Corff wedi parhau i stiwardio cronfeydd yr Eglwys yn ofalus trwy hinsawdd economaidd heriol, a dywedodd wrth yr aelodau am bolisi buddsoddi moesegol newydd a fyddai’n cael ei gyflwyno i’w gymeradwyo ym mis Medi.
Mewn ymateb i’r cynnydd o 300% yng ngwaith achos diogelu dros y tair blynedd diwethaf, roedd penodiadau newydd yn cael eu gwneud ym maes AD a diogelu. Roedd nifer uwch yr achosion mewn gwirionedd yn arwydd da o gynnydd, gan fod dioddefwyr yn teimlo y byddai rhywun yn gwrando arnynt. Yn ogystal â’r ymddiheuriadau angenrheidiol i oroeswyr, roedd yn rhaid cael seilwaith priodol hefyd i ddelio â materion.
Roedd adroddiad Corff y Cynrychiolwyr yn cynnwys disgrifiad o’r prosiectau a ariannwyd gan Gronfa Twf yr Eglwys a oedd yn werth £100m, a oedd yn cynnwys saith grant Haen Un. Roedd pedwar grant Haen Dau costus arall hefyd wedi’u cymeradwyo, gyda chefnogaeth tri rheolwr prosiect, adroddodd. “Rwy’n synnu at ehangder yr ymgysylltiad a’r creadigrwydd go iawn sy’n digwydd yn y dalaith,” meddai. Ond yn ogystal â dathlu’r “straeon mawr”, dywedodd yr Athro Hughes fod yna lawer o eglwysi llai cyhoeddus a oedd wedi bod yn dal ati gyda dycnwch diflino. Felly, byddai’r Corff yn archwilio pa adnoddau y gellid eu rhyddhau i gefnogi’r gweinidogaethau mwy traddodiadol hyn.
Gofynnodd y Parch Ruth Rowan (Trefynwy) a fyddai’r Gronfa yn ystyried ceisiadau gan fentrau eciwmenaidd.
Gofynnodd y Parch Mark Thomas (Abertawe ac Aberhonddu) ynghylch hyd a lled yr ymdrechion i eithrio cwmnïau sy’n ymwneud ag arfau, pornograffi a benthyca rheibus o fuddsoddiadau Corff y Cynrychiolwyr.
Gofynnodd y Parch Ruth Coombs (Llandaf) am ragor o fanylion am yr arian sy’n gysylltiedig â rheolwyr prosiect Haen Dau.
Wrth ymateb, dywedodd yr Athro Hughes y byddai’r cwestiwn o brosiectau eciwmenaidd yn cael ei ystyried gan y pwyllgor ac nad oedd am wneud rhagdybiaethau am eu trafodaethau. Dywedodd hefyd fod y pwyllgor moesegol yn anelu at leihau buddsoddiadau o’r fath i 0%. Roedd gan reolwyr y prosiect swm penodol wedi’i neilltuo i gwmpasu pob esgobaeth am bum mlynedd.
Yna rhoddwyd yr adroddiad i bleidlais a chafodd ei gymeradwyo gan aelodau.
Adroddiad y Pwyllgor Sefydlog

Cyflwynodd Tim Llewelyn (Tyddewi), cadeirydd y Pwyllgor Sefydlog, eu hadroddiad. Ymhlith y pynciau i’w trafod mewn sesiwn breswyl yn y dyfodol mae terfynau oedran, y Siarter Urddas a chofrestr risg ar gyfer risgiau anariannol, a bydd adroddiad dilynol ar y materion hyn yn cael ei gyflwyno i’r Corff Llywodraethol ym mis Medi, meddai.
Gofynnodd y Parch Dominic Cawdell (Llanelwy) sut yr oedd agenda y Corff Llywodraethol yn cael ei gosod, gan nodi nad oedd y cyfarfod presennol wedi mynd i’r afael â llawer iawn o “faterion pwysig” sy’n wynebu’r Eglwys yng Nghymru.
Wrth ymateb, dywedodd Mr Llewelyn fod yr agenda yn cael ei gosod gan y pwyllgor busnes a phenodiadau, cyn cael ei chymeradwyo gan y pwyllgor sefydlog. Roedd amryw o eitemau angenrheidiol bob tro, ond byddai’r pwyllgor yn hoffi i’r agenda fod yn fwy cynrychioliadol o flaenoriaethau aelodau a’r hyn a oedd yn digwydd yn y “byd y tu allan”.
Yna rhoddwyd yr adroddiad i bleidlais a chafodd ei gymeradwyo gan aelodau.
Yna cyflwynodd Mr Llewelyn adroddiad y pwyllgor ar faterion llywodraethu a chyfreithiol, a chynigiodd bedwar cynnig. Byddai’r cyntaf yn creu pwyllgor dethol arbennig o aelodau’r Corff Llywodraethol i ddiwygio’r Cyfansoddiad fel ei fod yn cynnwys y cysyniad o ardaloedd gweinidogaeth. Byddai angen newidiadau i bron pob pennod a byddai’n “dasg sylweddol”, meddai, ond byddai gwneud hynny mewn pwyllgor yn golygu na fyddai angen gwneud gwaith drafftio hir a chymhleth o fewn gweithdrefnau cymhleth y Corff Llywodraethol. Ni chafwyd unrhyw drafodaeth cyn i’r cynnig gael ei roi i bleidlais a’i basio.
Yna cynigiodd Mr Llewelyn ei ail gynnig, a fyddai’n newid y diffiniad o “gymunwr wedi ei gonffyrmio” (“confirmed communicant”). Sawl blwyddyn ynghynt roedd mainc yr esgobion wedi caniatáu i aelodau’r eglwys dderbyn Cymun cyn cael conffyrmasiwn, ond roedd y Cyfansoddiad yn dal i gadw rhai rolau i gymunwyr a oedd wedi eu conffyrmio hefyd, eglurodd. Ond roedd gwall drafftio wedi’i nodi yn y diffiniad, a byddai’r cynnig hwn yn ei gywiro.
Gofynnodd y Parch Andrew Lightbown (Trefynwy) pam oedd y gwelliant yn disgrifio Defod y Conffyrmasiwn fel “sacramentaidd”, pan nad oedd Anglicaniaeth yn draddodiadol yn cydnabod conffyrmasiwn fel sacrament. Yna cynigiwyd hyn fel gwelliant, a chafwyd trafodaeth.
Esboniodd Archddiacon Tyddewi, yr Hybarch Paul Mackness, fod catecism yr Eglwys yng Nghymru yn nodi bod yna ddau sacrament, ond disgrifiodd hefyd gonffyrmasiwn neu fedydd esgob fel “defod sacramentaidd”, ac felly byddai’n gwrthwynebu’r gwelliant.
Yna tynnodd Mr Lightbown ei welliant yn ôl, cyn i’r aelodau bleidleisio i gymeradwyo’r cynnig gwreiddiol.
Cynigiodd Mr Llewelyn ei drydydd cynnig, a fyddai’n dileu rhai darpariaethau mwy diangen yn y Cyfansoddiad, yn ymwneud â diaconesau, gweithwyr lleyg, a darllenwyr â thâl. Ni chafwyd unrhyw ddadl, a phasiwyd y cynnig, ynghyd â’r argymhelliad terfynol yn cymeradwyo’r adroddiad cyfan yn ei gyfanrwydd.
Hawl i holi
Gofynnodd y cwestiwn cyntaf gan y Parch Matt Davis (Trefynwy) pa ystyriaeth yr oedd yr Eglwys wedi’i rhoi i ymateb yn foesegol, yn ddiwinyddol ac yn ymarferol i’r “defnydd anochel o ddeallusrwydd artiffisial ym mhopeth o negeseuon e-bost i bregethau a gweddïau”.
Wrth ymateb, dywedodd yr Archesgob Andrew fod ymateb yr Eglwys i ddeallusrwydd artiffisial yn “gadarn yn ddiwinyddol, yn foesol gyfrifol ac yn ymarferol ymgysylltiedig”. Roedd deallusrwydd artiffisial yn ysgogi Cristnogion i fyfyrio ar yr hyn a olyga i fod yn ddynol, ac er y gallai efelychu tasgau dynol fel cyfansoddi cerddoriaeth neu gynhyrchu testun, nid oedd ganddo hunanymwybyddiaeth, ymwybyddiaeth ysbrydol na chyfrifoldeb moesol. “Nid yw’n profi cariad, dioddefaint na phrynedigaeth” ac ni all ailadrodd dyfnder ysbrydol gwirioneddol. Ni all yr Eglwys ddarostwng ei hun i “allbwn algorithmig” a rhaid iddi ystyried a yw deallusrwydd artiffisial yn meithrin cyfarfyddiad ysbrydol neu’n pellhau addolwyr oddi wrth Dduw, dadleuodd. A allai adlewyrchu delwedd greadigol Duw ar waith, neu fod yn Dŵr Babel ein hoes? Heb sôn am ystyried defnydd helaeth deallusrwydd artiffisial o ynni a’i hôl troed carbon, neu bryderon am dorri hawlfraint. Roedd angen datblygu canllawiau ar gyfer defnyddio deallusrwydd artiffisial mewn pregethau, gweddïau a litwrgi, ac efallai y gallai Padarn Sant gynnwys hyfforddiant ar foeseg a thechnoleg ddigidol, awgrymodd yr Archesgob Andrew: “Mae’r Eglwys yng Nghymru yn cael ei galw i lwybr o ymgysylltu gyda dirnadaeth, yn hytrach na chofleidio neu wrthod deallusrwydd artiffisial yn ddi-gwestiwn.”
Mewn ymateb gofynnodd Mr Davis pa amserlen a oedd yn ei lle ar gyfer sefydlu gweithgorau neu ysgrifennu canllawiau.
Dywedodd yr Archesgob Andrew nad oedd amserlen wedi’i phennu eto ond y byddai’n cyfeirio hynny at y pwyllgor sefydlog.
Yna gofynnodd Archddiacon Meirionnydd, yr Hybarch Robert Townsend (Bangor), a ddylid cynnwys swyddogion diogelu ardaloedd gweinidogaeth (MASOs) yn y cyfansoddiad ac a ddylent dderbyn lle ex officio ar gynghorau ardaloedd gweinidogaeth.
Atebodd yr Archesgob Andrew y gall un person neu dîm sy’n cwmpasu ardal ehangach gyflawni rôl MASO, ac felly byddai’n anodd creu lle ex officio ar gynghorau iddynt. Roedd tîm diogelu’r dalaith hefyd yn teimlo y gallai rôl ymddiriedolwr awtomatig ar gyngor fod yn wrthgynhyrchiol pe bai’n dychryn ymgeiswyr addas. Ond gallai MASOs gael yr hawl i fynychu cyngor ardal heb ddod yn aelod, daeth i’r casgliad.
Gofynnodd Robert Charlton (Abertawe ac Aberhonddu) pa amserlen oedd yna ar gyfer yr ymchwiliadau i gyn-Esgob Abertawe ac Aberhonddu, Anthony Pierce, a gafwyd yn euog yn ddiweddar o droseddau rhywiol yn erbyn plant, yn ogystal â’r methiant gan unigolion yn yr Eglwys a oedd yn ymwybodol o’r cam-drin i drosglwyddo’r wybodaeth i’r awdurdodau ym 1993. “Mae amser yn hanfodol ac ymddengys bod angen casgliadau buan i ennyn hyder y cyhoedd,” rhybuddiodd.
Mewn ymateb, rhoddodd yr Archesgob Andrew sicrwydd i’r aelodau y byddai’r broses ddisgyblu gyfansoddiadol yn cael ei dilyn i lythyren y ddeddf. Byddai hyn yn cael ei gyflymu oherwydd nad oedd angen tribiwnlys i sefydlu’r ffeithiau ar ôl ei euogfarn droseddol, ond roedd rhaid iddo aros hyd nes y byddai Mr Pierce wedi penderfynu a fyddai’n apelio ai peidio. Fel arfer, unwaith y bydd atgyfeiriad tribiwnlys yn cael ei wneud, bydd yn cymryd rhwng tri a phum mis i gyd.
Roedd yr adolygiad allanol o sut y gwnaeth yr Eglwys ymdrin ag adroddiad 1993 eisoes ar y gweill, ac roedd yr adolygwr yn gwbl annibynnol wrth ymgymryd â’r gwaith, meddai’r Archesgob Andrew. Y gobaith oedd y byddai adroddiad drafft yn cael ei gwblhau ym mis Mai, er efallai na chaiff ei gyhoeddi tan yn ddiweddarach yn yr haf.
Gofynnodd Mr Charlton a ellid cael diweddariad ar y sefyllfa os oedd unrhyw faterion heb eu datrys erbyn cyfarfod nesaf y Corff Llywodraethol ym mis Medi.
Yna gofynnodd Cathryn Brooker (Trefynwy) beth oedd strategaeth yr Eglwys ar gyfer cau eglwysi ac ar gyfer eglwysi a oedd wedi cau, a phwy oedd yn gyfrifol am fynwentydd a oedd ar agor mewn eglwysi caeedig.
Mewn ymateb, dywedodd Archddiacon Tyddewi, yr Hybarch Paul Mackness, mai’r ardaloedd gweinidogaeth, mewn ymgynghoriad â’u hesgobaeth, eu harchddiacon â’u hesgob oedd yn gyfrifol am gau eglwysi. Roedd gan bob esgobaeth weithdrefnau lleol ac nid oedd un strategaeth genedlaethol. Unwaith y bydd esgob wedi datgan bod eglwys yn ddiangen, mae’r cyfrifoldeb am yr adeilad yn trosglwyddo i Gorff y Cynrychiolwyr. Erbyn hyn mae yna bortffolio o tua 100 o adeiladau sy’n cael eu rheoli felly, ac mae Corff y Cynrychiolwyr yn ymdrechu i ddod o hyd i ddefnyddiau newydd ar gyfer pob un ohonynt. Nid oes polisi cenedlaethol ar gyfer cau eglwysi, ond serch hynny mae disgwyl y bydd yna rai yn cau yn y dyfodol agos ac y gellid symleiddio’r broses. Nid yw cau eglwys yn effeithio ar y fynwent, sy’n parhau’n gyfrifoldeb i’r ardal weinidogaeth. Dim ond pan nad oes mwy o le ar gyfer claddedigaethau y gellir cau mynwent eglwys, ac mae mynwent gaeedig fel arfer yn parhau i fod yn gyfrifoldeb i’r ardal weinidogaeth.
Wrth ymateb, dywedodd Ms Brooker ei bod yn anochel y byddai llawer o eglwysi yn cau yn y degawd nesaf, gan gynnwys yn ei Hardal Weinidogaeth ei hun. Roedd hi’n anodd dod o hyd i bobl i ofalu am fynwentydd agored eglwysi caeedig, ac roedd angen dod o hyd i fwy o arian ar gyfer hyn, meddai, neu fel arall byddai’r neges yn cael ei hanfon i’r byd sy’n gwylio bod “crefydd yng Nghymru wedi marw”.
Sesiwn 6
Adroddiad Mainc yr Esgobion

Cyflwynodd Esgob Trefynwy, Cherry Vann, adroddiad Mainc yr Esgobion am eu gwaith dros y chwe mis diwethaf. Tynnodd sylw at yr ymarfer gwrando ynghylch uniadau pobl o’r un rhyw, a ddechreuwyd oherwydd y byddai’r bendithion arbrofol ar gyfer cyplau o’r un rhyw a gyflwynwyd yn 2021 yn dod i ben y flwyddyn nesaf.
Roedd y sesiynau hyn bellach wedi eu cynnal ym mhob un o’r chwe esgobaeth. Dywedodd hefyd fod y fainc wedi cyflwyno bil i greu defod gonffyrmasiwn newydd, a fyddai’n cael ei thrafod yn y Corff Llywodraethol ym mis Medi.
Canmolodd Archddiacon Cymoedd Gwent, yr Hybarch Stella Bailey (Trefynwy), yr adroddiad Cerdded mewn Didwylledd, a oedd yn archwilio’r defnydd o bŵer a cham-drin ysbrydol. “Dylem fod yn falch o’r ystyriaeth hon a gellid ei gynnig i’r Eglwys yn ehangach,” meddai, ac efallai hyd yn oed i gymdeithas seciwlar hefyd.
Croesawodd Hannah Rowan (Trefynwy) yr adroddiad Cerdded mewn Didwylledd hefyd, ond dywedodd ei bod yn bwysig bod yn onest ynglŷn â’r ffaith bod yr Eglwys ei hun yn dal ar daith tuag at wella ei defnydd o bŵer.
Dywedodd yr Esgob Cherry y gellid rhannu’r adroddiad yn ehangach, a bod yr esgobion eisoes wedi elwa ar hyfforddiant ar ddefnyddio a chamddefnyddio pŵer. Roedd gwaith pellach ar y gweill gydag ymgeiswyr am y weinidogaeth hefyd.
Adroddiad portffolio yr esgobion
Cyflwynodd yr Esgob Cherry adroddiad o’i phortffolio gweinidogaeth bersonol, a mynnodd ei fod yn llawer mwy na dim ond gwaith clerigion a gweinidogion lleyg. “Gweinidogaeth yw gwaith holl bobl Dduw - rydym yn cael ein comisiynu yn ein bedydd i lewyrchu fel goleuni yn y byd a pharhau yng ngwaith Crist,” meddai wrth yr aelodau. Ac os oedd yr Eglwys eisiau carfan fwy amrywiol o weinidogion, roedd angen iddi yn gyntaf ddod yn fwy amrywiol. “Mae gan bob agwedd ar weinidogaeth oblygiadau i efengylu a bod yn ddisgyblion – mae’n waith i bob un ohonom, nid dim ond y clerigion.”
Yna gwyliodd aelodau fideo am y gynhadledd weinidogaeth ddiweddaraf ym mis Mawrth, a oedd yn canolbwyntio ar les. Dywedodd y Canon Dr Trystan Owain Hughes, Cyfarwyddwr Datblygu Gweinidogaeth yr Eglwys, fod yr Eglwys yn gwybod bod cerdded ochr yn ochr â phobl mewn gwaith bugeiliol yn waith gwerth chweil ond hefyd yn faich ar weinidogion. Gall pwysau a disgwyliadau gronni, gan adael clerigion “yn flinedig a drylliedig”; mae rhai wedi gorfod mynd ar absenoldeb salwch neu hyd yn oed wedi rhoi’r gorau i’w galwad yn sgil y baich hwn. “Ydyn ni’n cynnig y strwythurau sydd eu hangen i ofalu am y rhai sy’n gofalu am eraill?” gofynnodd.
Roedd cynlluniau ar y gweill ar gyfer cwrs hyfforddiant canol gweinidogaeth ym Mhadarn Sant, yn ogystal â phrosiectau gydag elusennau allanol i helpu i ddarparu cwnsela a chymorth lles i glerigion, meddai Dr Hughes. Roedd yr Eglwys hefyd yn lansio menter gydag elusen St Luke’s i ddarparu lle diogel i weinidogion fyfyrio ar eu gwaith mewn sesiynau goruchwylio bugeiliol un-i-un misol.
Roedd y broses ddirnadaeth hefyd yn cael ei diwygio, gyda’r meini prawf yn newid i fod yn “rhinweddau i’w meddu” ac mae yna bellach, am y tro cyntaf, gyfeiriadau at ddiogelu, diwylliant Cymru a’r Gymraeg, a gweinidogaeth ieuenctid. Byddai hon bellach yn broses dau gam taleithiol, a byddai’n ceisio magu hyder ymgeiswyr ac ymwreiddio mwy o ofal bugeiliol.
Rhoddodd y Parch Athro Jeremy Duff, prifathro Padarn Sant, ddiweddariad i’r Corff Llywodraethol am yr Athrofa. Roedd nifer y myfyrwyr yn parhau’n gryf, meddai, gyda nifer cyson o ymgeiswyr am y weinidogaeth gyflogedig (y mae traean ohonynt o dan 30 oed ac wedi’u rhannu’n gyfartal yn ôl rhywedd). Roedd hyn yn nodedig oherwydd bod niferoedd yr ymgeiswyr am y weinidogaeth ledled y DU yn gostwng, gydag Eglwys Loegr wedi gweld gostyngiad o 44% mewn ymgeiswyr amser llawn. “Mae hyn yn tystio i’r gwaith cydgysylltiedig sy’n cael ei wneud yma yng Nghymru,” meddai.
Roedd y patrwm o hyfforddiant ar gyfer myfyrwyr amser llawn a rhan-amser yn cael ei addasu i leihau’r teithio i Gaerdydd. Ond roedd astudiaethau diwinyddol ym mhrifysgolion Cymru yn edwino, ac felly roedd hi i fyny i’r Eglwysi gynnal diwinyddiaeth yng Nghymru, ac yn enwedig y gallu i gyfieithu o destunau hynafol i’r Gymraeg, rhybuddiodd yr Athro Duff.
Roedd Padarn Sant hefyd yn canolbwyntio ar les gweinidogion drwy gydol eu gyrfaoedd, trwy feithrin rhwydweithiau ar draws esgobaethau, ac adeiladu diwylliant o bositifrwydd, gobaith a ffyniant o fewn yr Eglwys yng Nghymru. Oes, mae yna heriau ac mae optimistiaeth afresymol yn ddi-fudd, ond mae sinigiaeth yn “lladd lles”, meddai.
Gofynnodd y Parch Ruth Rowan (Trefynwy) a allai Padarn Sant agor ei rhaglen hyfforddiant arweinyddiaeth y tu hwnt i glerigion cyflogedig yn unig, gan fod llawer o arweinwyr pwysig yn yr Eglwys yn rhai di-dâl.
Gofynnodd Archddiacon Wrecsam, yr Hybarch Dr Hayley Matthews (Llanelwy), am fwy o ofal bugeiliol a chefnogaeth i’r rhai nad oeddent wedi’u dewis ar gyfer y weinidogaeth, i’w helpu i ddod o hyd i ddyfodol ffrwythlon newydd yn hytrach na’u bod yn cario “clwyf agored” o gael eu gwrthod am flynyddoedd i ddod.
Gofynnodd Tony Mullins (Llandaf) a ellid addysgu aelodau’r cynulleidfaoedd ar sut i amddiffyn lles eu clerigion, gan feithrin diwylliant o beidio â thrafferthu gweinidogion ar adegau anarferol.
Gofynnodd Bex Bristowe (Llanelwy) a oedd y broses ddirnadaeth newydd yn hygyrch i’r rhai nad oeddent wedi mynd trwy addysg uwch a’r rhai a oedd yn niwroamrywiol. Adleisiodd y Parch Geraint John (Llandaf) y pryder hwn.
Yn ystod ei yrfa gyfan ar draws tair talaith, dywedodd y Canon Ddr Mark Clavier (Abertawe ac Aberhonddu) nad oedd erioed wedi gweld clerigion mor ddigalon. Roedd y naratif o ddirywiad yn hollbresennol, a rhoddir rolau a disgwyliadau bron yn amhosibl i glerigion gwledig yn arbennig. Mae’n rhaid ailstrwythuro’r weinidogaeth i ganiatáu i glerigion ffynnu, yn hytrach na dim ond rhoi haen denau o wasanaethau lles iddynt. Mae angen i gynulleidfaoedd ddysgu bod gofalu am eu clerigion yn rhan o’u gorchwyl, ychwanegodd, pwynt yr oedd Moira Randall (Llandaf) yn cytuno ag ef.
Gofynnodd Archddiacon Llanelwy, yr Hybarch Andy Grimwood, a oedd yna ddadansoddiad economaidd-gymdeithasol o’r rhai sy’n hyfforddi i gael eu hordeinio ym Mhadarn Sant, oherwydd ei bod yn bwysig bod cyfleoedd hyfforddi i’r rhai na allent gael cymwysterau Safon Uwch neu raddau.
Dywedodd Esgob Tyddewi, Dorrien Davies, fod yn rhaid i’r clerigion gymryd cyfrifoldeb am gymryd eu gwyliau, ymlacio a bod gyda’u teuluoedd. Ni all offeiriaid fforddio peidio â rhoi sylw i hunanofal: “Nid yw lludded yn opsiwn - mae’n rhaid i ni fod yn wydn, wedi’n hadfywio ac wedi bwrw’n blinder er mwyn mynd i’r afael â’r dasg sydd o’n blaenau,” meddai.
Atebodd yr Esgob Cherry fod y fainc yn ymwybodol y gallai cael eich gwrthod i gael eich ordeinio fod yn ergyd ofnadwy, ond mai cyfrifoldeb yr esgob noddi yn bennaf oedd ymdrin â hynny. Cytunodd fod yn rhaid i’r lleygion ofalu am eu clerigion, ond hefyd fod yn rhaid i glerigion osod blaenoriaethau realistig: “Dim ond gofyn i ni wneud yr hyn sy’n bosibl mae Duw.” Gallai gweithio mewn tîm ar draws ardal weinidogaeth helpu llawer gyda hyn, ychwanegodd.
Dywedodd Dr Hughes y byddai’r cam cyntaf newydd o ddirnadaeth heb gyfweliad dros Zoom yn unig yn helpu i annog y rhai o gefndiroedd heb addysg neu y rhai oedd yn niwroamrywiol, ac ychwanegodd fod hyfforddiant ar niwroamrywiaeth, gan ddefnyddio deunydd gan Eglwys Loegr, eisoes ar gael.
Dywedodd yr Athro Duff y gallai gweinidogion di-dâl fynychu cam arweinyddiaeth bwriadol yr hyfforddiant Datblygiad Gweinidogaethol Parhaus pe bai eu hesgobion yn cytuno (er y byddai hyn yn anodd i’r rhai sydd â swyddi seciwlar). Dangosodd adborth fod myfyrwyr dosbarth gweithiol ar hyn o bryd yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi’n dda, a rhybuddiwyd yn erbyn y rhagdybiaeth na ddylai pobl o’r fath geisio ennill cymwysterau ffurfiol. “Mae’n ymwneud â sut i gael ffyrdd da i mewn i hyfforddiant, nid ei osgoi,” esboniodd. Roedd tua 15% o fyfyrwyr yn niwroamrywiol, ychwanegodd, a oedd ychydig yn uwch na’r gyfradd mewn cymdeithas ehangach, er bod yna her o hyd i’w cefnogi y tu hwnt i’w hyfforddiant i fod yn guradiaid.
Dyddiad y cyfarfod nesaf
Mae'r Corff Llywodraethol wedi penderfynu y cynhelir y Cyfarfod Cyffredin nesaf Dydd Iau, 18 Medi 2025 a Dydd Gwener, 19 Medi 2025 yn Casnewydd.