Ail Sul Cyn Garawys: Sul y Greadigaeth
Gweddi am yr wythnos
Dduw’r Gogoniant:
Na foed i ni dy ddychmygu di fel ni ein hunain er mwyn cydnabod dy lun a’th ddelw mewn eraill. Boed i harddwch syfrdanol natur ein dysgu ni i garu a gwerthfawrogi amrywiaeth, ac i ni gael ein synnu gan ddatguddiadau o’th hunan mewn pobl, llefydd a syniadau sy’n wahanol i’n rhai ni; oherwydd ni ellir gwneud unrhyw beth yn newydd heb wahaniaeth ac amrywiaeth.
Amen.
Canon Carol Wardman
Colect am yr wythnos
Hollalluog Dduw,
creaist y nefoedd a’r ddaear
a’n creu ni ar dy ddelw dy hun:
dysg ni i ddirnad ôl dy law
yn dy holl waith
a’th lun yn dy holl blant;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
yr hwn gyda thi a’r Ysbryd Glân
sy’n teyrnasu goruwch pob peth,
yn awr a hyd byth.
Dydd Sul 16 Chwefror 2020
Prif Wasanaeth:
Gweld yr wythnos lawn:
