Ail Sul yn y Garawys
Gweddi am yr wythnos
Dduw trugarog,
Trwy gydol ein bywydau dynol, rydym yn syrthio i gamgymeriadau a gwallau. Dyro dy ras inni beidio ag osgoi cyfrifoldeb na cheisio beio, fel y gellir goresgyn y brifo trwy onestrwydd a maddeuant. Gwna ni'n barod i edifarhau ac i roi cynnig arall arni; oherwydd gyda thi mae pob peth yn cael ei wneud yn newydd.
Amen.
Canon Carol Wardman
Colect am yr wythnos
Hollalluog Dduw,
rwyt yn dangos i’r sawl sydd ar gyfeiliorn
lewyrch dy wirionedd,
er mwyn iddynt ddychwelyd i ffordd cyfiawnder:
caniatâ i bawb a dderbynnir
i gymdeithas crefydd Crist,
wrthod y pethau hynny
sy’n wrthwyneb i’w bedydd,
a chanlyn yn ffordd Iesu Grist ein Harglwydd;
sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi
a’r Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.
Dydd Sul 8 Mawrth 2020
Prif Wasanaeth:
Gweld yr wythnos lawn:
