Dydd y Pasg (B)
Duw cariad,
wrth i ni ddod at y bedd gwag, diolchwn i ti am atgyfodiad gogoneddus Iesu.
Helpa ni i beidio â bod yn swil wrth ddweud wrth eraill am fywyd newydd Iesu, beth mae'n ei olygu i ni a'r llawenydd mae'n ei roi.
Dyma’n gweddi yn nerth yr Ysbryd Glân.
Haleliwia. Amen.
Canon Robert Townsend
Colect am yr wythnos
Arglwydd pob bywyd a nerth,
gorchfygaist hen drefn pechod a marwolaeth drwy atgyfodiad nerthol dy Fab er mwyn gwneud pob peth yn newydd ynddo ef:
caniatâ i ni, sy’n farw i bechod, ac yn fyw i ti yn Iesu Grist, deyrnasu gydag ef mewn gogoniant; bydded iddo gyda thi a’r Ysbryd Glân glod a moliant, gogoniant a gallu, yn awr ac yn dragwyddol.
Dydd Sul 4 Ebrill 2021
Prif Wasanaeth:
Gweld yr wythnos lawn: