Priodasau
Yn seiliedig ar ddysgeidiaeth y Beibl a’r Eglwys drwy’r canrifoedd, mae Gwasanaeth Priodas yr Eglwys yng Nghymru yn sôn am briodas fel rhodd oddi wrth Dduw. Datgenir bod priodas yn uniad ffyddlon, gydol oes rhwng dyn a menyw, a chyffelybir cariad priodasol i gariad Crist at ei bobl – cariad a fynegwyd gan ei barodrwydd i aberthu ei hun ar y groes.

Rhodd oddi wrth Dduw yw priodas. Trwyddi gall gŵr a gwraig gyd-dyfu yn eu hadnabyddiaeth o Dduw, eu cariad ato a’u gwasanaeth iddo. Fe’i rhoddir fel y gallant, a hwythau’n un â’i gilydd o galon a meddwl a chorff, gynyddu mewn cariad ac ymddiriedaeth.Y mae Duw yn uno gŵr a gwraig mewn uniad am oes sy’n sylfaen i fywyd teuluol, lle (y genir ac y megir plant ac) y gall pob aelod o’r teulu, mewn amseroedd da ac amseroedd drwg, gael cysur, cwmnïaeth a nerth a thyfu i aeddfedrwydd mewn cariad. Y mae priodas yn cyfoethogi’r gymdeithas ac yn cryfhau’r gymuned.O drefn Glân Briodas yr Eglwys yng Nghymru
Iesu yw’r esiampl orau o gariad diamod, hunanaberthol; ef yw’r un y gall gŵr a gwraig ei ddilyn yn y ffordd maen nhw’n caru ei gilydd, wrth i’r naill roi anghenion y llall yn gyntaf. Mae gwneud addunedau yn ganolog i’r seremoni briodasol, lle mae pâr yn rhoi a derbyn modrwyau ac yn gwneud datganiad cyhoeddus o’u hymrwymiad i garu ei gilydd am weddill eu hoes, ‘er gwell, er gwaeth, er cyfoethocach, er tlotach’.
Cred Cristnogion mai priodas gariadus yw’r lle cywir ar gyfer cyfathrach rywiol a’r amgylchedd diogel i fagu plant ynddo. Mae priodas hefyd yn cynnig sefydlogrwydd pwysig o fewn y gymuned ehangach.
Mae gennych hawl i briodi yn eich eglwys blwyf leol. Yn ogystal, mae’n bosibl y bydd gennych hawl i briodi mewn plwyfi eraill lle mae gennych chi neu eich teulu gysylltiad.
Mae’r gyfraith yn mynnu bod o leiaf un o’r rhai sy’n priodi:
- yn byw yn y plwyf lle cynhelir y briodas; neu
- wedi ei gofrestru ar rôl etholwyr yr eglwys (sef rhestr aelodaeth y bobl sy’n addoli’n gyson yn y plwyf); neu
- â ‘chysylltiad cymwys’.
Yn ôl Deddf Priodas (Cymru) 2010 mae’n rhaid sicrhau un (neu fwy) o’r canlynol er mwyn dangos ‘cysylltiad cymwys’:
- eich bod wedi cael eich bedyddio neu eich conffyrmio yn y plwyf;
- eich bod chi wedi byw yn y plwyf am o leiaf chwe mis ar unrhyw adeg;
- bod un o’ch rhieni wedi byw yn y plwyf am o leiaf chwe mis ar unrhyw adeg yn ystod eich bywyd chi;
- eich bod chi wedi mynychu addoliad yr Eglwys yng Nghymru yn y plwyf am o leiaf chwe mis ar unrhyw adeg yn ystod eich bywyd chi;
- bod un o’ch rhieni chi wedi mynychu addoliad yr Eglwys yng Nghymru yn y plwyf am o leiaf chwe mis ar unrhyw adeg yn ystod eich bywyd chi;
- bod un o’ch rhieni neu dad-cu neu fam-gu wedi priodi yn y plwyf.
Mae’n rhaid bod o leiaf yn un deg chwe mlwydd oed er mwyn priodi. Os ydych chi’n iau na deunaw oed, mae’n rhaid i chi gael caniatâd eich rhieni.
Mae canllawiau arbennig ar briodi mewn eglwys os ydych chi wedi ysgaru a’ch cyn-briod yn fyw o hyd.
Yn achos y rhan fwyaf o barau sydd am briodi yn yr Eglwys yng Nghymru darllenir eu gostegion ychydig amser cyn i’r seremoni ddigwydd. Mae hon yn broses seml pan fydd yr offeiriad yn gwneud datganiad cyhoeddus am eich bwriad i briodi mewn gwasanaethau ar dri Sul canlynol. Fodd bynnag, gall fod amgylchiadau sy’n golygu bod rhyw fath o drwydded, fel Trwydded Gyffredin neu Drwydded Arbennig, yn fwy addas. Bydd eich offeiriad lleol yn eich cynghori ar hyn. Ceir rhagor o wybodaeth am y camau cyfreithiol ynghylch priodas ar wefan y Swyddfa Hawlebau.
Os ydych chi’n ystyried priodi mewn eglwys, dylech gysylltu â’ch offeiriad plwyf yn y lle cyntaf. Fel rheol mae manylion cyswllt yr offeiriad ar hysbysfwrdd yr eglwys. Gallwch hefyd ddod o hyd i’r manylion hyn drwy’r teclyn ‘Dod o hyd i Eglwys’.