Angladdau – awgrymiadau ar gyfer darlleniadau ac emynau
Darlleniadau
Mae’r canlynol ymhlith y Darlleniadau o’r Beibl a awgrymir yn nhrefn y gwasanaeth:
- Mathew 5:1-12a (Y Gwynfydau)
- Ioan 5:24-29; 6:37-40 (Gweld y Mab a chredu ynddo)
- Ioan 11:21-27 (Myfi yw’r atgyfodiad a’r bywyd)
- Rhufeiniaid 8:31b-39 (Ni fydd dim yn ein gwahanu o gariad Duw yng Nghrist)
- I Corinthiaid 15:20-26,35-58 (Marwolaeth, pa le mae dy fuddugoliaeth?)
- Datguddiad 7:9-17 (Duw a sych ymaith pob deigryn)
- Eseia 61:1-3 (Newyddion da i’r galarus)
- Doethineb Solomon 3:1-9 (Ni fydd unrhyw boenedigaeth yn eu cyffwrdd).
Emynau
Mae llawer o emynau addas. Dyma ddetholiad bach.
- Ar fôr tymhestlog teithio’r wyf
- Arglwydd, gad im dawel orffwys
- Cyduned seintiau daear lawr
- Dal fi’n agos at yr Iesu
- Mae ’nghyfeillion adre’n myned
- Mae ffrydiau ’ngorfoledd yn tarddu
- Mae’n hyfryd meddwl ambell dro
- Mi glywaf dyner lais
- Nac wyled teulu Duw
- Trwy ddirgel ffyrdd mae’r uchel Iôr