Buddsoddi moesegol
Fel Eglwys Gristnogol gelwir ni i gydweithio â phresenoldeb gweithredol Duw yn y byd a chyhoeddi gwerthoedd ei deyrnas. Golyga hyn fod gan yr Eglwys ddiddordeb arbennig mewn hyrwyddo popeth sy’n hybu cyfiawnder a heddwch, yn galluogi ffyniant dynol, yn anrhydeddu’r greadigaeth ac yn adeiladu cymunedau creadigol.
Dymuna’r Eglwys yng Nghymru fod â pholisi buddsoddi sy’n foesegol ac yn gyson â hybu ei nodau a’i hamcanion. Credwn ei bod yn gwbl briodol a phosibl gweithredu polisi o’r fath ynghyd â’r gofyn i sicrhau’r elw mwyaf posibl o’n buddsoddiadau, a defnyddio’n buddsoddiadau fel dull moesegol o gyfrannu at gost gweinidogaethu a chenhadu yn y Dalaith.
Ein nod yw buddsoddi mewn cwmnïau llwyddiannus sydd wedi ymrwymo i ddatblygu eu busnesau er budd eu cyfranddalwyr, eu cwsmeriaid, eu cymunedau lleol a’u gweithwyr, trwy weithredu:
- Dulliau cyfrifol o gyflogi.
- Llywodraethu corfforaethol cydwybodol.
- Polisïau ac arferion sy’n dangos gofal am yr amgylchedd ac am les y greadigaeth.
- Polisïau sy’n sensitif i hawliau dynol a lles unigolion a chymunedau y gweithredant ynddynt.
- Arferion masnachu teg.
Yn ei pholisi buddsoddi, fe wna’r Eglwys yng Nghymru ei gorau i beidio â dal cysylltiad â chwmnïau y mae eu cynnyrch neu eu polisïau’n gwrthdaro â’r amcanion hyn, nac i fuddsoddi mewn cwmnïau sydd:
- Yn gyfrifol am ddifwyno’r amgylchfyd yn ddifeddwl.
- Yn gyfrifol am unrhyw beth sy’n bygwth heddwch, diogelwch a lles cymunedau.
- Yn ymelwa ar ddynolryw na’i diraddio na’i llygru na’i darostwng, yn enwedig yn achos tlodion neu bobl sy’n ariannol fregus.
- Yn ddi-hid o les anifeiliaid.
Cydnabyddwn fod cymhlethdodau ynglŷn â gweithgareddau cwmnïau y gallwn fuddsoddi ynddynt, ac yr ydym yn cadw’r hawl i wneud penderfyniadau fesul achos. Byddwn yn ceisio cysylltu â chwmnïau sy’n torri’r polisi hwn, neu mewn perygl o’i dorri, neu y mae pryderon am eu llywodraethiant neu eu cyfrifoldeb cymdeithasol, cyn ystyried dadfuddsoddi.
Polisi’r Eglwys yng Nghymru yw na fydd fel rheol na thrwy wybod yn buddsoddi mewn unrhyw gwmni:
- y deillia mwy nag 20% o’i drosiant o ymwneud yn bennaf â hapchwarae, neu â chynhyrchu neu werthu diodydd alcoholaidd neu gynnyrch tybaco;
- y deillia mwy na 5% o’i drosiant o bornograffi neu o fenthyca rheibus, neu o amlhau arfau y tu hwnt i feysydd cyfreithlon amddiffyn a chadw heddwch rhyngwladol;
- y deillia mwy na 10% o’i drosiant o echdynnu glo thermol neu gynhyrchu olew o dywod tar.
Dymuna’r Eglwys yng Nghymru fod yn fuddsoddwr gwybodus a chyfrifol, ac i’r perwyl hwn mae ganddi gynrychiolaeth ar Grŵp Buddsoddwyr yr Eglwys, sy’n ddull o ddod o hyd i ganlyniadau ymchwil a gwybodaeth ddibynadwy, rhannu arferion gorau â’r mudiadau eraill sy’n aelodau, ac ymarfer dylanwad ar y cyd fel cyfranddalwyr.
Mae perthynas werthfawr yn bodoli rhwng y Pwyllgor Buddsoddi a Grŵp Buddsoddi Moesegol yr Eglwys yng Nghymru y bydd y Pwyllgor yn cyfeirio achosion anodd ato ac yn derbyn adroddiad blynyddol oddi wrtho.