Gweddïau ar gyfer Dathlu Jiwbili Platinwm Ei Mawrhydi y Frenhines

Gweler hefyd: Adnoddau HOPE Together i eglwysi ar gyfer y Jiwbilî Platinwm
Gan fod dathliad cenedlaethol Jiwbili’r Frenhines yn digwydd rhwng Dydd Iau’r Dyrchafael a’r Sulgwyn ysbrydolwyd y casgliad hwn o weddïau gan themâu sofraniaeth a dyfodiad yr Ysbryd Glân.
O Dduw,
Goruchel arglwydd tragwyddol yr holl bobloedd,
yr esgynnodd dy Fab atgyfodedig yn frenhinol
a sefydlu ei deyrnasiad o gyfiawnder a gwirionedd, trugaredd a thosturi:
diolchwn yn llawen i ti am wasanaeth ffyddlon Elizabeth ein Brenhines
a gyflawnwyd yn gyson a chariadus.
Caniatâ iddi dy fendithion aneirif
fel y teyrnasa dros dy bobl
yn enw ein gogoneddus Arglwydd, Iesu Grist,
y bo iddo gyda thi a’r Ysbryd Glân
bob mawl ac anrhydedd,
yn awr ac am byth.
Amen.
Frenin y gogoniant,
y mae dy Fab esgynedig yn dwyn archollion ei ddioddefaint i gysegr oleulawn y nef
ac yn eiriol yn wastadol dros ein byd gerbron disgleirdeb dy bresenoldeb:
diolchwn i ti am dystiolaeth ymroddedig dy wasanaethferch, Elizabeth ein Brenhines
ar yr adegau llawen ac yn amser adfyd.
Yn dy drugaredd anffaeledig,
cyfnertha hi a’i chynnal
fel y dyfal-anrhydedda dy fwriadau graslon
gan ysbrydoli dy bobl i gydweithio er dyfodiad dy deyrnas.
Gofynnwn hyn trwy dy Fab,
ein Brenin a’n Gwaredwr, Iesu Grist,
y bo iddo gyda thi, y Tad, a’r Ysbryd Glân,
bob mawl ac arglwyddiaeth,
yn awr, ac am byth.
Amen.
Dduw toreithiol,
ffynhonnell pob bendith,
yr addawodd dy Fab y rhoddai i’w ddisgyblion Ysbryd y gwirionedd
i aros gyda’i Eglwys:
diolchwn i ti am waith dy Ysbryd
yn y gwasanaeth ymroddedig a gyflwynwyd gan Elizabeth ein Brenhines.
Cyfnertha hi oddi uchod i dystiolaethu i’th deyrnasiad di o gyfiawnder a thrugaredd
drwy ein Harglwydd atgyfodedig ac esgynedig, Iesu Grist,
y bo iddo gyda thi a’r Ysbryd Glân
bob mawl ac anrhydedd,
yn awr ac am byth.
Amen.
Dad grasol,
yng Nghrist rhoddaist i’th bobl bob bendith ysbrydol yn y nefol leoedd
a’n heneinio â’th Ysbryd Glân i ddwyn cariad, llawenydd a thangnefedd yn ffrwyth.
Diolchwn i ti am rym cyfnerthol dy Ysbryd
a welwyd yng ngwasanaeth ymroddedig Elizabeth ein Brenhines.
Caniatâ i’r un Ysbryd ein hysbrydoli ni i gyhoeddi’r ffydd a goleddir ganddi hi,
i ddisgwyl gyda hi mewn gobaith am gyflawniad dy fwriadau graslon
ac i wasanaethu dy bobl â chariad.
Gofynnwn hyn yn enw dy annwyl Fab
a eneiniwyd i gyhoeddi blwyddyn dy ffafr
ac sy’n fyw yn awr ac yn teyrnasu mewn gogoniant am byth.
Amen.
Dad cariadus,
a ninnau’n gweddïo dros Elizabeth ein Brenhines
rhoddwn ddiolch i ti am ei gwasanaeth i bobl Cymru.
Bendithia ein cenedl, a’i chyfraniad i fywyd y Deyrnas Unedig hon.
Boed inni gydweithio’n ddi-baid am heddwch, cyfiawnder a goddefgarwch
a boed i’n Gwlad fod yn fangre groesawgar a derbyngar bob amser;
drwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Amen.