Canllaw defnydd diogel Zoom
Mae argyfwng Covid-19 wedi arwain at lawer mwy o bobl yn defnyddio adnoddau cyfarfod ar-lein ac un o'r rhai mwyaf poblogaidd o'r rhain yw Zoom. Mae'n rhad ac am ddim i'w ddefnyddio, yn gymharol hawdd i’w ddeall ac yn caniatáu i chi weld nifer fawr o gyfranogwyr. Fe'i mabwysiadwyd yn eang gan grwpiau eglwysig ar gyfer cyfarfodydd, addoliad a sgwrsio fideo. Fodd bynnag, nid yw mor ddiogel â rhai adnoddau sydd ar gael ac mae ganddo beryglon.
Mae Adran TGCh yr Eglwys yng Nghymru yn argymell defnyddio Microsoft Teams ar gyfer cyfarfod ar-lein yn hytrach na Zoom, os yw ar gael i chi. Y rheswm am hyn yw ei fod yn cynnig gwell nodweddion diogelwch na Zoom. Os oes gennych chi Office 365, mae'n rhan o'r pecyn ond gellir ei lawrlwytho am ddim hefyd o: https://www.microsoft.com/en-gb/microsoft-365/microsoft-teams/download-app
Mae yna anfanteision i Teams, a’r un mwyaf yw mai dim ond naw o bobl y gallwch eu gweld ar y sgrin ar unrhyw un adeg. Bydd hyn yn newid gyda fersiwn nesaf y system ym mis Medi 2020 ond, am y tro, mae Zoom yn gweithio'n well ar gyfer cyfarfodydd mwy. Os ydych chi'n defnyddio Zoom, mae yna gamau y gallwch eu cymryd i helpu i'ch cadw chi a mynychwyr cyfarfodydd eraill yn ddiogel ar-lein. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Cynhyrchu ID cyfarfod unigryw a'i rannu gyda chyfranogwyr arfaethedig yn unig
- Gofyn am gyfrinair ac atal rhannu cyfrinair
- Gofyn i gyfranogwyr gofrestru
- Gofyn i gyfranogwyr fewngofnodi i gyfrif Zoom
- Diffodd fideo cyfranogwyr wrth iddynt ymuno
- Diffodd meicroffon cyfranogwyr wrth iddynt ymuno
- Galluogi'r ystafell aros
- Analluogi ymuno cyn y sawl sy’n cynnal y cyfarfod
- Analluogi sgwrs breifat
- Analluogi trosglwyddiadau ffeiliau
- Analluogi rhannu sgrin
- Analluogi anodi
Am ragor o wybodaeth, gweler nodyn ar Breifatrwydd a Diogelwch wrth Gyfathrebu dros Fideo yn defnyddio Zoom.