Gweddiau
Ffurfiau syml ar gyfer y Foreol a’r Hwyrol Weddi
Yn ystod y dyddiau heriol hyn, tra bo’n heglwysi ar gau, bydd rhai am weddïo adref gan ddefnyddio litwrgi’r gwasanaethau dyddiol. Dyma fersiynau syml o’r Foreol a’r Hwyrol Weddi, yn seiliedig ar lyfr Gweddi Ddyddiol yr Eglwys yng Nghymru.
Lawrlwytho:
Ymbiliau myfyrdodol i’w harfer yn ystod y pandemig Coronafeirws
Fel Cristnogion, mae gennym ddyletswydd i weddïo dros y rhai a effeithir mewn ffyrdd penodol amrywiol yn ystod y pandemig hwn. Hefyd, mae’n dda i gysylltu ein gweddi â’r Ysgrythur. Felly, mae pob un o’r ymbiliau a gyflwynir yn y ddogfen hon yn dechrau â darlleniad byr o un o’r Salmau a gweddi seml am ryw agwedd o’r argyfwng yn dilyn. Awgrymir cynnwys ychydig o dawelwch rhwng darllen yr adnod o’r Salm a’r weddi er mwyn myfyrio ar ystyr ac arwyddocâd ffydd y Salmydd i ni heddiw ac i’r rhai sy’n dioddef.
Lawrlwytho:
Os byddwch angen siarad â’n clerigion gallwch barhau i gysylltu â hwy ar y ffôn, ar yr e-bost, drwy’r post neu ar y cyfryngau cymdeithasol.
A fyddech cystal â pharhau i weddïo dros bawb sy’n dioddef o ganlyniad i’r pandemig Coronafeirws, y rhai sy’n gofalu am eraill, y rhai sy’n teimlo’n ynysig, a’n harweinwyr sydd â’r cyfrifoldeb i wneud penderfyniadau allweddol.
O Dduw, gwyddost ein bod wedi’n gosod yng nghanol cymaint o beryglon mawr a dwys, a’n bod weithiau, oherwydd gwendid ein natur, yn methu sefyll yn gadarn: dyro i ni y nerth a’r diogelwch a fydd yn ein cynnal ym mhob perygl ac yn ein cario drwy bob temtasiwn, trwy Iesu Grist dy Fab ein Harglwydd, sydd yn fyw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân, un Duw, yn awr ac am byth. Amen.Mainc yr Esgobion Yr Eglwys yng Nghymru
Gweddïo gartref
Mae Esgobaeth Bangor wedi lansio ‘rheol bywyd’ newydd i’n helpu pan fyddwn yn aros gartref. Mae wedi’i galw yn ‘Dilyn Ffordd Sant Deiniol’ a’r saith elfen allweddol ynddi yw gweddi, dysgu, gwerthfawrogi, gofalu, tystiolaethu, ymarfer a myfyrio. Gallwch fapio’ch llwybr personol ac amlinellu diwrnod nodweddiadol/arferol.
Mae Eglwys Sant Martin, Llai wedi creu pecyn gweddi i’w ddefnyddio gartref.
Gweler hefyd y canllaw hwn i addoli gartref gan Esgobaeth Mynwy:
Mae darlleniadau a homilïau wedi eu haddasu gan Esgobaeth Tyddewi o Gweddïau Dyddiol 2009 yr Eglwys yng Nghymru, yn cael eu cyhoeddi bob wythnos. Gweler hafan yr esgobaeth:
Mae Ardal Genhadu ‘Pool’ yn y Trallwng wedi creu gwasanaeth o weddïau boreol gartref, Morning Prayer at Home, ac wedi rhestru’r darlleniadau o fis Mawrth i fis Mai, Readings from March to May.
Cerdyn gweddi
Dyma gerdyn gweddi y gellir ei argraffu a’i adael mewn eglwysi ar gyfer gweddi breifat – diolch i Ysgol Syr Richard Gwyn yn y Fflint
Radio a Theledu
Gallwch ymuno mewn gwasanaethau i addoli gydag eraill trwy wrando ar y radio neu wylio’r teledu.
Rhaglenni teledu (hefyd i’w cael ar iPlayer)
- Sunday Worship: Dydd Sul am 11.45am ar BBC1
Mae hon yn gyfres newydd ac mae’r rhaglen gyntaf, ar Sul y Mamau, yn dod o Gadeirlan Tyddewi, ac yn cael ei harwain gan y Deon, Dr Sarah Rowland Jones. Bydd yn dychwelyd i Dyddewi ar Sul y Pasg 2, Sul y Pasg 6 a Sul y Drindod. Bydd rhaglenni eraill yn dod o Gadeirlan Bangor ac yn cael eu harwain gan Esgob Bangor, Andy John, a’r Deon, Kathy Jones.
- Songs of Praise: Dydd Sul am 1.15pm ar BBC 1
Rhaglenni Radio (hefyd i’w cael ar BBC Sounds)
- Prayer for the Day: bob dydd am 5.43am ar Radio 4
- Sunday Worship: bob dydd Sul am 8.10am ar Radio 4
- Daily Service: Dydd Llun i Ddydd Gwerer am 9.45am ar donfedd hir Radio 4 a DAB yn unig (gweler y cyfarwyddiadau isod ar sut i gael gafael arni ar DAB)
- Lent Talks: bob Dydd Mercher am 8.45pm ar Radio 4 yn ystod y Grawys
- Celebration: (Gwasanaeth o addoliad) bob dydd Sul am 7.30am a 6.30pm ar BBC Radio Wales
- Yr Oedfa (Gwasanaeth o addoli yn y Gymraeg): bob dydd Sul am 5.30am ar BBC Radio Cymru
- Choral evensong: bob Dydd Mercher am 3.30pm a’r un gwasanaeth yn cael ei ailddarlledu bob dydd Sul am 3pm ar Radio 3
(Mae’r Daily Service i’w gael ar sianel ochr Radio 4 DAB, ac mae ar gael yn awtomatig tua munud cyn i’r rhaglen ddechrau. Ar ôl i chi diwnio i Radio 4 DAB, dewiswch “Daily Service” o’ch dewislen gyda’r olwyn droi a phwyswch y botwm i’w ddewis.)