Canllawiau ar Coronavirus (Covid-19)
Diweddariad: 14 Ebrill 2022
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd cyfyngiadau cyfreithiol o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif. 5) (Cymru) 2020 yn cael eu dileu o 18 Ebrill 2022 (ac eithrio'r gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal).
Prif effaith hyn i eglwysi lleol yw na fydd asesiad risg Covid yn ofyniad cyfreithiol penodol mwyach. Fodd bynnag, bydd angen ystyried y risg o drosglwyddo Coronafeirws fel rhan o broses iechyd a diogelwch ac asesu risg gyffredinol eich eglwys. Mae'n ddyletswydd gyfreithiol ar bob sefydliad i gynllunio ei weithgareddau a rheoli peryglon drwy eu risg o achosi niwed. Felly, argymhellir eich bod yn cynnal asesiad risg i reoli trosglwyddiad Coronafeirws (fel perygl amlwg ar hyn o bryd) fel rhan o'ch trefniadau rheoli Iechyd a Diogelwch.
Nid yw'n ddyletswydd gyfreithiol mwyach i gofnodi pobl sy'n mynychu gwasanaethau a gweithgareddau eraill, ond gall sefydliadau ystyried gwneud hynny i helpu i olrhain cysylltiadau (sy'n parhau tan fis Mehefin).
Byddwn yn cyhoeddi canllawiau diwygiedig yng ngoleuni'r newidiadau deddfwriaethol hyn yn fuan i'ch helpu i ystyried y mesurau priodol i gadw pobl yn ddiogel. Awyru da, hylendid da, glanhau a, lle y bo'n bosibl, cadw pellter cymdeithasol yw'r ffyrdd mwyaf effeithiol o reoli lledaeniad Coronafeirws (ac, yn wir, rhai clefydau trosglwyddadwy eraill).
Diweddariad: 2 Mawrth 2022
Rydym wedi diweddaru ein canllawiau i adlewyrchu’r rheoliadau diweddaraf ar Covid-19. Mae’n dal i fod yn ofyniad cyfreithiol i baratoi asesiad risg ysgrifenedig i reoli’r risg o ledaenu Covid ac mae’r canllawiau’n ceisio helpu cynghorau eglwysig lleol i ystyried beth fyddai’n briodol yn eu hamgylchiadau nhw.
Yn ogystal â dileu’r gofyniad am orchudd wyneb (ac eithrio mewn mannau manwerthu, ar drafnidiaeth gyhoeddus neu mewn lleoliadau iechyd), nid yw’r codau QR ar yr ap Covid-19 ar gyfer Cymru a Lloegr yn weithredol fel dull o gofnodi presenoldeb mwyach.
Mae Mainc yr Esgobion wedi dweud y gallai’r cwpan cyffredin gael ei adfer erbyn Sul y Pasg, yn amodol ar asesiad risg lleol. Nid oes gofyniad i wneud hynny ac mae cymundeb o dderbyn y bara’n unig yn parhau i fod yn ddilys. Ni ddylai unrhyw gymunwr deimlo gorfodaeth i gymryd y cwpan cyffredin. Mae canllawiau wedi’u diweddaru ar gyfer gweinyddu’r cymun bendigaid wedi’u darparu i’ch helpu chi i feddwl am sut i gynnal y cymun yn ddiogel ac i ystyried risgiau cymharol y gwahanol ddulliau. Dylech ystyried eich dull yn ofalus a chyfathrebu hyn i’ch cynulleidfa.
- Covid 19 Canllawiau Asesu Risg Eglwysi Lefel Rhybudd 0 Mawrth 22 (Word) (fersiwn Saesneg yn unig)
- Covid 19 Canllawiau Asesu Risg Neuaddau Eglwys Lefel Rhybudd 0 Mawrth 22 (Word) (fersiwn Saesneg yn unig)
- Covid 19 Canllawiau Priodasau ac Angladdau Lefel Rhybudd 0 Mawrth 22 (Word) (fersiwn Saesneg yn unig)
- Covid 19 Canllawiau ar Ddathlu’r Cymun Bendigaid Lefel Rhybudd 0 Mawrth 22 (Word) (fersiwn Saesneg yn unig)
- Covid 19 Canllawiau ar Gynnal Bedyddiadau Lefel Rhybudd 0 Mawrth 22 (Word) (fersiwn Saesneg yn unig)
Diweddariad: 25 Chwefror 2022
O 28 Chwefror 2022 dim ond mewn mannau manwerthu, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn lleoliadau iechyd a gofal y mae’n rhaid gwisgo gorchudd wyneb yn ôl y gyfraith. Nid yw’r gyfraith yn ei gwneud hi’n ofynnol i wisgo gorchudd wyneb mewn mannau addoli, canolfannau cymunedol neu neuaddau eglwys mwyach.
Fodd bynnag, mae gwisgo gorchudd wyneb yn parhau i fod yn fesur lliniaru risg effeithiol felly efallai yr hoffech ystyried eu cadw fel rhan o’ch asesiad risg. Yn sicr, argymhellir eu gwisgo ar gyfer gweithgareddau cyswllt agos e.e. wrth osod lludw.
Yn bendant, ni ddylai unrhyw un deimlo’n lletchwith neu’n chwithig am ddewis gwisgo gorchudd wyneb.
Pan fydd gan fannau addoli siopau manwerthu dylid atgoffa pobl o’r gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb yn y mannau hynny.
Mae ein canllawiau manwl yn cael eu diweddaru a byddant yn cael eu cyflwyno yma cyn gynted â phosibl.
Diweddariad: 23 Chwefror 2022
Mae Mainc yr Esgobion wedi cymeradwyo’r canllawiau ar osod lludw o dan Lefel Rhybudd Sero. O 28 Chwefror, dim ond mewn lleoliadau manwerthu, trafnidiaeth gyhoeddus ac iechyd a gofal y bydd angen gorchuddion wyneb yn gyfreithiol. Ni fydd yn rhaid gwisgo gorchuddion wyneb mewn addoldai neu adeiladau cymunedol o’r dyddiad hwnnw ond gall fod yn fesur defnyddiol o hyd i leihau’r risg o drosglwyddo Covid-19 fel rhan o fesurau rheoli risg lleol. Nodir yr argymhellir gorchuddion wyneb wrth osod lludw o ystyried pa mor agos yw pobl.
Diweddariad: 22 Chwefror 2022
- Canllawiau ar gyrddau festri, cyfarrodydd cyngor plwyf eglwysig a chofrestr yr etholwyr (Word) diweddarwyd Chwefror 2022
Mae'r canllawiau hyn (Chwefror 2022) yn disodli'r canllawiau blaenorol, dyddiedig Medi 2020.