Hafan Amdanom ni Gweithio gyda ni Gweithiwr Cadw Tŷ

Gweithiwr Cadw Tŷ

Teitl y Swydd: Gweithiwr Cadw Tŷ
Cyflog:
£21,684 (pro rata)
Lleoliad:
Athrofa Padarn Sant, Caerdydd
Math o Gontract:
Parhaol
Yn adrodd i:
Rheolwr Cyfleusterau
Oriau Gwaith: 6 awr yr wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener

Mae natur y rôl hon yn galw am hyblygrwydd yn nhermau oriau gweithio. Bydd angen rhywfaint o waith ar benwythnosau er mwyn cyflawni anghenion busnes. Yn ystod wythnosau prysurach (tua 20 wythnos o’r contract) bydd oriau gweithio ychwanegol yn ofynnol. Felly, byddai angen i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio hyd at 9-12 awr yr wythnos.

Mae Athrofa Padarn Sant yn chwilio am wethiwr cadw tŷ profiadol fydd yn medru darparu safon uchel o lanhau a gwasanaethau hylendid drwy gydol ein hadeiladau. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn adrodd Rheolwr Cyfleusterau yr Athrofa, ac y gweithio 6 awr yr wythnos.

Bydd gofyn i weithio ar benwythnosau a gweithio oriau ychwanegol ar adegau, er mwyn ateb gofynion y busnes, ac yn ystod wythnosau prysur. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus i weithio 9-12 awr yr wythnos am tua 20 wythnos yn ystod y flwyddyn.

Os oes gennych wybodaeth eang o lanhau a sgiliau cadw tŷ ac wedi gweithio mewn swydd debyg, hoffem glywed gennych.

Byddwch yn gweithio mewn tîm cyfeillgar a chefnogol ac mi fyddwch yn chwarae rhan allweddol mewn sicrhau bod myfyrwyr sy’n astudio ym Mhadarn Sant ac yn byw ar ein safle unigryw yn cael y profiad gorau posib.

Gwybodaeth, Sgiliau, Cymwysterau a Phrofiad

Hanfodol:

  • Profiad blaenorol o gadw tŷ mewn lleoliad tebyg.
  • Gwybodaeth ymarferol dda am ddulliau ac offer glanhau a chadw tŷ, neu barodrwydd i ddysgu.
  • Sgiliau trefnu da a’r gallu i dalu sylw i fanylion wrth lanhau ardaloedd.
  • Gallu i weithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm.
  • Gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol ac ymddygiad cyfeillgar, parchus.
  • Gallu i fod yn flaengar a chyflawni tasgau rheolaidd heb oruchwyliaeth agos.
  • Dealltwriaeth dda o Iechyd a Diogelwch a’i gymhwysiad i gyfrifoldebau cadw tŷ.
  • Empathi gyda chenhadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru.

Cais

Gwahoddir ymgeiswyr addas i gysylltu â’r Adran Adnoddau Dynol i fynegi diddordeb yn y swydd ar HR@cinw.org.uk

Lawrlwytho