Mae bywyd ysbrydol ein haelodau o’r pwys mwyaf
Mae gweddi, addoliad a chymdeithas yn uno ein haelodau ledled y ddaear. Bob dydd yn y ‘Don Weddi’ mae aelodau yn gweddïo dros eu cyd-aelodau mewn esgobaethau ar draws y byd. Rydym yn darparu adnoddau i aelodau unigol, canghennau ac esgobaethau ar gyfer gwyliau, dyddiau tawel a grwpiau astudio’r Beibl.
Aelodau sydd ddim yn medru cymryd rhan yng ngweithgareddau Undeb y Mamau am wahanol resymau ond sydd yn gweddïo dros waith Undeb y Mamau yw’r Aelodau yn y Cartref.
Yn yr esgobaeth hon mae Pwyllgor yr Uned yn:
- helpu i lunio gwasanaethau ar gyfer achlysuron arbennig megis gwyliau esgobaethol, deoniaethol neu'r Don Weddi flynyddol
- trefnu Prynhawn Tawel blynyddol
- llunio rhestr o siaradwyr sy'n fodlon mynd i annerch canghennau
- trefnu cyrsiau hyfforddi yn ôl y galw
- dosbarthu’r llenyddiaeth a’r wybodaeth sy’n dod o Lundain
- llunio calendr o ymbiliau misol i ganghennau’r esgobaeth
- trefnu’r Cylch Gweddi Argyfwng
- trefnu bod canghennau’r esgobaeth wedi eu gefeillio fel eu bod yn medru gweddïo dros ei gilydd.
- tynnu sylw at yr adnoddau sydd ar gael ar wefan Undeb y Mamau, fel gweddïau ar gyfer pob mis, astudiaethau Beiblaidd ac ati
- mynd i siarad â changhennau, arwain prynhawn tawel ac ati
Mae un aelod yn cadw mewn cysylltiad â’r Aelodau yn y Cartref trwy anfon llythyr a Dyddiadur Gweddi atynt ddwywaith y flwyddyn.
|
The spiritual life of our members is an important concern
Members worldwide are united in prayer, worship and fellowship. Every day in the Wave of Prayer, members pray for their fellow members in dioceses across the globe. We provide resources for individual members, branches and dioceses on festivals, quiet days and Bible Study Courses.
The Indoor Members Prayer Circle (IMPC) is made up of members who cannot take part in MU activities for various reasons, but pray for the work of the Mothers’ Union.
In this diocese the Unit Committee:
- helps to prepare services for special occasions such as diocesan or deanery festivals and the annual Wave of Prayer service
- arranges an annual Quiet Afternoon.
- prepares a list of speakers who are willing to address branches.
- distributes the literature and information, which comes from London.
- prepares a monthly intercession calendar for the diocesan branches.
- arranges an Emergency Prayer Chain.
- twins branches with other branches in the diocese so that they can pray for each other.
- reminds members that useful material can be obtained from the MU web site, e.g. Monthly prayers, Bible Study material, etc.
- members go to speak at branches, Quiet Afternoons etc.
One member keeps in touch with the indoor members by sending them a letter and Prayer Diary twice a year. |