Press Release
Dylid gwahardd cosbi plant yn gorfforol - Archesgob
Mae Dr Morgan yn golchi traed o Enya Evans
19 Tachwedd 2012
Mewn gwasanaeth gwylnos yfory (dydd Mawrth 20 Tachwedd), bydd Archesgob Cymru yn dweud fod cosbi plant yn gorfforol yn eu difrïo ac yn eu dibrisio.
Bydd Dr Barry Morgan yn dweud fod plant yn haeddu cymaint o barch a gofal ag oedolion ac na ddylent gael eu cosbi'n gorfforol.
Bydd yr Archesgob yn siarad mewn gwasanaeth gwylnos mewn eglwys yng Nghaerdydd i nodi Diwrnod Byd-eang Plant, diwrnod o weddi a gweithredu dros blant.
Yn ystod y gwasanaeth, a gefnogir hefyd gan yr elusen Plant yng Nghymru a 'Sdim Curo Plant! Cymru, bydd Dr Morgan yn golchi traed plant a bydd arweinwyr eglwys yn goleuo canhwyllau mewn gweddi fel gweithred o goffâd dros blant a ddioddefodd drais. Caiff negeseuon o gefnogaeth eu darllen gan Aelodau Cynulliad a gan Peter Newell, cydlynydd y Fenter Fyd-eang i Ddiweddu Pob Cosb Gorfforol ar Blant.
Bydd yr Archesgob yn dweud "Credai Iesu fod plant yn fwy nag ased ar gyfer y dyfodol neu ymrwymiad i'w wneud er budd cymdeithas. Roeddent o werth anhraethol fel plant. Haeddent gymaint o barch a gofal ag unrhyw fod dynol arall.
“Dywedodd yr Adroddiad Plentyndod Da a gynhyrchwyd gan Gymdeithas y Plant yn 2009 pan ofynnwyd i blant beth sy'n gwneud bywyd da, mai'r hyn a ddymunent yn fwy na dim arall oedd cariad. Ac os yw hynny i gyd yn wir, sut gallwn ni feddwl fod cosbi plant yn gorfforol neu ddefnyddio grym corfforol byth yn iawn. Ni fyddai neb ohonom byth yn breuddwydio taro oedolyn, felly pam ddylem ni feddwl fod taro plentyn yn fwy derbyniol mewn unrhyw ffordd. Cawsant hwythau eu gwneud ar lun Duw, a'u gwerthfawrogi fel unigolion. Nid yw hynny'n golygu fod rhwydd hynt i unrhyw beth yng nghyswllt magu plant - ond mae yn golygu fod cosb gorfforol yn annerbyniol."
Cynhelir yr Wylnos yn Eglwys Dewi Sant, Cilgant Sant Andreas, Caerdydd, yfory am 6.30pm. Fe'i harweinir gan y ficer, y Parch Dyfrig Lloyd ac fe'i cefnogir gan yr elusen Plant yng Nghymru.
Mae datganiad ar y cyd gan arweinwyr Cristnogion Cymru yn cefnogi dileu amddiffyniad "cosb resymol" yn dilyn.
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â:
Anna Morrell
Archbishop's Media Officer / Swyddog y Cyfryngau i'r Archesgob
Tel: 02920 348208; mobile: 07 91 91 587 94
39 Cathedral Rd, Cardiff / 39 Heol y Gadeirlan, Caerdydd
CF11 9XF
http://www.churchinwales.org.uk
http://www.eglwysyngnghymru.org.uk
NODYN ESBONIADOL
Cynhelir yr Wylnos hon ar Ddiwrnod Gweddi a Gweithredu dros Blant y Byd a gynhelir bob blwyddyn ar Ddiwrnod Plant Byd-eang. Thema tair blynedd (2011-13) Diwrnod y Byd yw "Atal Trais yn erbyn Plant". Cynhelir yr Wylnos i fynegi parch at blant ac undod a chefnogaeth dros atal trais a ganiateir gan y gyfraith yn erbyn plant.
Mae 33 o wledydd y byd wedi pasio cyfraith yn rhoi hawl i blant gael amddiffyniad llawn rhag cosb gorfforol; mae 23 o'r gwledydd hyn yn Ewrop. O fewn yr Undeb Ewropeaidd, mae'r Deyrnas Unedig yn un o ddim ond pedair gwlad nad ydynt wedi gwahardd cosb gorfforol.
Yn y degawd diwethaf mae Cymru wedi arwain y ffordd wrth hyrwyddo hybu hawliau plant ac mae Llywodraeth Cymru wedi datgan ei gwrthwynebiad i gosb gorfforol. Yn 2009 dywedodd Llywodraeth Cymru: "Derbyniwn argymhelliad Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig y dylid dileu amddiffyniad cosb resymol fel y gall plant a phobl ifanc fwynhau'r un lefel o amddiffyniad yn y gyfraith ag sydd gan oedolion."
Datganiad Cristnogol yn cefnogi dileu'r amddiffyniad "cosb resymol"
Credwn fod deddfwriaeth i ddileu amddiffyniad "cosb resymol" yn hollbwysig oherwydd ei fod yn adlewyrchu’r gymdeithas drugarog a di-drais a fynnwn i bob plentyn.
Bu cosbi plant yn gorfforol yn rhan gyffredin o'n diwylliant ers gormod o amser. Ond mae cosb gorfforol fel ffurf o ddisgyblaeth yn anghydnaws â gwerthoedd crefyddol craidd parch at urddas dynol plant, cyfiawnder a didreisedd. Nid oes unrhyw amgylchiadau lle medrir cyfiawnhau'r ymarfer poenus ac iselhaol hwn.
Mae rhai grwpiau Cristnogol yn defnyddio eu crefydd i gyfiawnhau cosb gorfforol a gallant ddadlau y cymeradwyir hynny mewn rhannau o'r ysgrythur megis Diarhebion 13:24. Casáu ei fab a wna'r un sy'n arbed y wialen, ond ei garu y mae'r sawl a rydd gerydd cyson. Ond nid yw'n briodol cymryd testunau o'r fath allan o'u cyd-destun diwylliannol hynafol i gyfiawnhau trais tuag at blant. Fel Cristnogion, darllenwn y Beibl drwy lens dysg ac esiampl Iesu. Roedd Iesu'n trin plant gyda pharch ac yn eu rhoi ynghanol y grŵp, fel ym Marc 9:37:
Pwy bynnag sy'n derbyn un plentyn fel hwn yn fy enw i, y mae'n fy nerbyn i.
Rydym eisiau pwysleisio fod yn rhaid i ddiwygio'r gyfraith fynd law yn llaw gyda chefnogaeth i rieni, addysg eang i'r cyhoedd a hyrwyddo disgyblaeth gadarnhaol a di-drais. Ond ni ddylai plant orfod aros i'r farn gyhoeddus newid, neu ar gyfer darpariaeth gwasanaethau gwell i deuluoedd. Tra bod y gyfraith yn anfon y neges fod amddiffyniad dros daro plentyn, bydd plant yn parhau i gael eu taro. Ac mewn teuluoedd "mewn risg", gall plant fod yn agored i ymosodiadau difrifol yn enw disgyblaeth.
I lawer o bobl mae'r gair "disgyblaeth" yn gyfystyr â chosb gorfforol. Ond addysgu yw ystyr gwraidd y gair " ac mae disgyblaeth gadarnhaol a di-drais yn ymwneud ag addysgu plant drwy esiampl oedolion. Mae'n seiliedig ar gydymdeimlad, trugaredd a dealltwriaeth o ddatblygiad plentyn ac yn dangos parch a charedigrwydd. Mae'n ymwneud â chefnogi a llywio plant a dyma'r ffordd orau i hyrwyddo hunanddisgyblaeth.
Mae pobl yn aml yn mynegi consyrn y bydd gwahardd taro plant yn golygu y caiff llawer o rieni da a chariadus eu herlyn am daro "ysgafn". Ond fel mewn llawer o wledydd Ewrop lle mae gan blant amddiffyniad cyfartal dan y gyfraith, ni chaiff rhieni eu cyhuddo a'u herlyn os nad oes angen gwneud hynny i ddiogelu'r plentyn rhag niwed sylweddol. Mae llawer o dystiolaeth o'r niwed a achosir gan gosb gorfforol yn y tymor byr a'r hirdymor ac oherwydd fod hynny'n gyfreithlon gwyddom fod hynny'n parhau i danseilio gwaith amddiffyn plant ac addysgwyr rhieni.
Mae hwn yn gyfle i ni anrhydeddu hawl dynol plant i amddiffyniad cyfartal a gwneud cynnydd sylweddol tuag at gymdeithas gyfiawn a heddychlon.
Llofnodwyd
Y Parchedicaf Barry Morgan, Archesgob Cymru
Yr Hybarch Geoffrey Marshall, Deon Aberhonddu
Y Gwir Barchedig (John) Wyn Evans, Esgob Tyddewi, Yr Eglwys yng Nghymru
Y Parchedig Ddr Michael N. Jagessar, Ysgrifennydd - Gweinidogaeth Cyfiawnder Hiliol ac Amlddiwylliannol (Adran Cenhadaeth), Yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig
Y Parchedig Peter C Noble, Caplan Arweiniol Partneriaeth Eciwmenaidd Leol Bae Caerdydd, Goleulong 2000, Bae Caerdydd
Y Parch Simon Walkling, Darpar Lywydd Synod Genedlaethol Cymru yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig
Entered By Anna Morrell - 21.11.12
Anna Morrell, Archbishop’s Media OfficerChurch in Wales
39 Cathedral Rd
Cardiff CF11 9XF
Email Address: annamorrell@churchinwales.org.uk
Telephone: Work: 02920 348208 Mobile: 07919 158794

