Press Release
Ymgyrch mamau i ddiogelu plant rhag rhyw ar deledu
Janice Gregory, AC, gyda Tyann Leonard, Archesgob Barry Morgan a Raye Saunders
Caiff rhieni eu hannog i brotestio yn erbyn rhaglenni anaddas cyn naw o'r gloch y nos mewn ymgyrch a lansir yng Nghymru yfory (DYDD MERCHER 24/10).
Gofynnir iddynt anfon cardiau post dwyieithog at Ofcom, corff gwarchod darlledu, i gwyno am gynnwys rhywiol, trais a rhegi ar raglenni teledu a radio y mae plant ifanc yn edrych a gwrando arnynt.
Arweinir yr ymgyrch gan gangen Cymru Undeb y Mamau a chynhelir y lansiad yn adeilad y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'n rhan o ymgyrch 'Bye Buy Childhood' a gynhelir gan Undeb y Mamau ar draws y Deyrnas Unedig.
Dywedodd Sheila Jones, swyddog polisi cymdeithasol yr elusen, "Ar ôl mynd o amgylch Cymru yn siarad gyda phobl am ymgyrch Bye Buy Childhood, fe wnaethom gyfarfod â llawer o bobl oedd yn gresynu at faint o ddeunydd ar y teledu cyn 9am a deimlent oedd yn anaddas ar gyfer plant. Roeddent yn anhapus gyda symudiadau a chaneuon awgrymog mewn dawnsfeydd a lwyfannwyd, er enghraifft, gwisg rhai cyflwynwyr ifanc a faint o iaith wael sydd ar raglenni. Roedd llawer ohonynt yn bobl na fyddai'n naturiol yn mynd ar-lein i leisio eu consyrn felly teimlem mai cerdyn post dwyieithog y medrent ei lenwi fyddai’r ffordd fwyaf effeithiol iddynt brotestio."
Caiff y lansiad ei noddi gan Janice Gregory AC. Dywedodd, "Rwy'n noddi digwyddiad Undeb y Mamau yn y Cynulliad yfory i dynnu sylw at eu hymgyrch Bye Buy Childhood. Fel y mae'r teitl yn awgrymu, mae hon yn ymgyrch eang yn erbyn masnacheiddio a rhywioleiddio plentyndod a bydd aelodau Undeb y Mamau yn rhoi gwybodaeth i Aelodau Cynulliad ar hyn. Fel mam a mam-gu, fy mlaenoriaethau ymysg amcanion yr ymgyrch fyddai gweithredu ar hysbysebion sydd wedi eu hanelu at blant ac ymgais rhai manwerthwyr i wthio dillad anaddas ar gyfer plant. Rwy'n hapus i roi cyfle i Undeb y Myfyrwyr ac Aelodau Cynulliad i drafod yr holl faterion a godir gan yr ymgyrch."
Caiff yr ymgyrch ei lansio yn yr Oriel rhwng 12.30-1.20pm. Dosberthir mwy na 10,000 o gardiau post at aelodau Undeb y Mamau yng Nghymru i ddechrau'r ymgyrch.
Entered By Anna Morrell - 07.11.12
Anna Morrell, Archbishop’s Media OfficerChurch in Wales
39 Cathedral Rd
Cardiff CF11 9XF
Email Address: annamorrell@churchinwales.org.uk
Telephone: Work: 02920 348208 Mobile: 07919 158794

