To Church in Wales home page

The Church in Wales - Yr Eglwys yng Nghymru

Press Release

Archesgob yn lansio cwrs Ffydd Byw

Yr Archesgob Barry a David Wilbourne, Esgob Cynorthwyol Llandaf, gyda grwp Ffydd Byw o Eglwys Crist Radyr

Yr Archesgob Barry a David Wilbourne, Esgob Cynorthwyol Llandaf, gyda grwp Ffydd Byw o Eglwys Crist Radyr

25 Mehefin 2012
 
 
Mae Archesgob Cymru yn gwahodd pobl i gymryd rhan mewn cwrs sy'n anelu i helpu ymchwilio ysbrydolrwydd a ffydd ym myd heddiw.
 
Lansiodd Dr Barry Morgan y cwrs Ffydd Byw heddiw (25 Mehefin) a chaiff ei ymestyn i eglwysi ar draws De Cymru - yn Esgobaeth Llandaf. Cynlluniwyd y cwrs i unrhyw un gymryd rhan ynddo: aelodau eglwys a rhai nad ydynt yn mynychu eglwys.
 
Bydd y rhai sy'n ymrestru yn astudio mewn grwpiau ac yn edrych ar bynciau megis ysbrydolrwydd, cwestiynau ffydd ac ymchwilio dewisiadau mewn bywyd; y meysydd eraill a gaiff eu trafod yw gweddi, y Beibl, ffydd a'r eglwys. Ar gyfer y rhai sy'n dymuno hynny bydd opsiwn o wneud aseiniadau yn ystod pob modiwl. Bydd pawb sy'n cwblhau'r cwrs yn cael tystysgrif. Mae Ffydd Byw yn hyblyg iawn a bydd grwpiau'n symud ymlaen drwy'r modiwlau ar eu cyflymder eu hunain.
 
Dywedodd yr Archesgob Barry, "Fy ngweledigaeth ar gyfer yr holl Eglwys yng Nghymru yw ceisio rhoi ffordd y gallwn ddyfnhau ein hymdeimlad o'r hyn yw bod yn ddilynwyr yr Iesu. Cynlluniwyd cwrs Ffydd Byw i wneud yn union hynny. Fe'i hanelwyd at unrhyw un sydd â diddordeb mewn bod yn ddisgybl gwell (ac rydym i gyd yn dod o fewn y categori hwnnw) a gwneud hynny wrth ochr eraill mewn grwpiau."
 
Pwysleisiodd y Parch Ganon Richard Lowndes, swyddog hyfforddiant lleyg Esgobaeth Llandaf, fod y cwrs yn un ymarferol yn hytrach nag un academaidd. Dywedodd, "Cynlluniwyd y rhaglen yma o ddysgu ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymchwilio ffydd. Bydd hefyd yn eich galluogi i dyfu eich ffydd, dyfnhau eich profiad fel disgybl neu efallai baratoi am rôl neilltuol ym mywyd eich eglwys. Mae'n seiliedig ar brofiad ac adfyfyrio. Nid yw'n academaidd fel cwrs coleg. Bydd yn eich helpu i sicrhau dealltwriaeth ddyfnach o berthynas Duw gyda chi, ei Eglwys a'r byd ac yn eich helpu i dyfu ac aeddfedu fel disgybl. Bydd rhai pobl yn ymrwymo'n ddwfn gyda'r cwrs, bydd eraill yn ymchwilio'r materion hyn ar lefel wahanol - mae wirioneddol yn addas i bawb."
 
Roedd pobl o eglwysi lle cafodd ei dreialu eisoes yn helpu i lansio'r cwrs Ffydd Byw. Mae Debs Redwood-Knight yn rhan o grwp o Eglwys Crist, Radur, a ddechreuodd y cwrs yn 2010. Dywedodd, "Yn ogystal â bod yn gwrs diddorol iawn, mae hefyd wedi rhoi hyder i mi wneud mwy yn yr eglwys ac i drafod fy ffydd gydag eraill."
 
Dywedodd Sheila Jones, o Benygraig, "Mae'r cwrs wedi fy helpu i ddarganfod ychydig mwy am bwy ydwyf, ychydig mwy am Dduw ac wedi ehangu llawer ar fy ffydd. Roedd yn her ond yn werth chweil iawn ac yn hwyl."
 
Agorwyd tudalen Facebook ar gyfer Ffydd Byw i bobl roi eu sylwadau. Cyfeiriad y dudalen yw  
 facebook.com/people/Living-Faith-Llandaff/100003902636811
 
Cafodd cwrs Ffydd Byw ei greu'n wreiddiol gan Esgobaeth Caerfaddon a Wells mewn partneriaeth gyda Choleg y Drindod, Bryste dan deitl 'Ymchwilio Cristnogaeth'. Profodd yn boblogaidd iawn mewn rhannau eraill o Gymru lle cafodd ei lansio eisoes.
 
Yn y lluniau gwelir:
 
* Yr Archesgob Barry gyda Angela Dart (chwith) a Jean Gardner o'r grwp Ffydd Byw yn Eglwys Crist, Radur;
* Yr Archesgob Barry a David Wilbourne, Esgob Cynorthwyol Llandaf, gyda grwp Ffydd Byw o Eglwys Crist Radyr. O'r chwith: Debs Redwood-Knight, Parch Jenny Wigley; Angela Dart, Archesgob Barry, Jean Gardener, Judy Hollings, Angela Cooper a'r Esgob David.
 
 
 
I gael mwy o wybodaeth am y cwrs Ffydd Byw, cysylltwch â:
 
Briony Davies
Cefnogaeth Weinyddol y Weinidogaeth a Chenhadaeth
Esgobaeth Llandaf
Y Cwrt
Llangrallo
Pen-y-bont ar Ogwr
CF35 5FG
 
Ffôn: 01656 868868
 

Entered By Anna Morrell - 25.06.12

Anna Morrell, Archbishop’s Media Officer
Church in Wales
39 Cathedral Rd
Cardiff CF11 9XF

Email Address: annamorrell@churchinwales.org.uk
Telephone: Work: 02920 348208 Mobile: 07919 158794

Heading

Dolor sit amet, consectetuer adipiscing elit. Morbi commodo, ipsum sed pharetra gravida, orci magna rhoncus neque, id pulvinar odio lorem non turpis.

Sub-heading

Sed aliquam, nu eget euismod ullamcorper, lectus nunc ullamcorper orci, fermentum bibendum enim nibh eget ipsum. Donec porttitor ligula eu dolor. Maecenas vitae nulla consequat libero cursus venenatis.