To Church in Wales home page

The Church in Wales - Yr Eglwys yng Nghymru

Press Release

Arbenigwyr yn dangos sut i wneud eglwysi'n "wyrdd"

Eglwys Sant Joseff, Cwmafan - paneli solar

Eglwys Sant Joseff, Cwmafan - paneli solar

O baneli solar ar y to i foeleri biomas yn y ficerdy - caiff syniadau ar gyfer gwneud eglwysi yn "wyrdd" eu trafod mewn cynhadledd yr wythnos nesaf.

Bydd plwyfolion yn dysgu sut i wneud eu heglwys yn fwy effeithiol o ran ynni a chynaliadwy yn y digwyddiad a drefnwyd gan yr Eglwys yng Nghymru.

Bydd arbenigwyr ynni yn siarad am dechnolegau megis paneli solar neu ffotofoltaig, tyrbinau gwynt, boeleri sglodion pren a phympiau gwres o'r aer, yn ogystal ag arferion megis ailgylchu, compostio a chynlluniau cadwraeth bywyd gwyllt. Byddant yn gweld sut mae rhai o'r rhain yn gweithio drwy edrych ar astudiaethau achos o eglwysi a chapeli yng Nghymru.

Cynhelir Cynhadledd Mannau Addoli Hanesyddol Cymru yn Eglwys St Giles, Wrecsam. Bydd yn dechrau gydag anerchiad cyweirnod gan Wyn Evans, Esgob Tyddewi, sy'n awdurdod ar adeiladau hanesyddol.

Y siaradwyr yw Keith Jones, cynghorydd arferion amgylcheddol, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, Dr Simone Lowthe-Thomas, pennaeth ynni cymunedol, Asiantaeth Ynni Hafren Gwy, Brian Cuthbertson, pennaeth her amgylcheddol yn yr Eglwys yng Nghymru ac Alex Glanville, pennaeth gwasanaethau eiddo, yr Eglwys yng Nghymru.

Dywedodd yr Esgob Wyn, "Ein nod yw hyrwyddo arferion gwaith cynaliadwy mewn eglwysi ym mhob rhan o Gymru a sicrhau bod ein plwyfi a chynulleidfaoedd yn wybodus am y pwnc pwysig yma. Gobeithiwn y caiff pobl sy'n edrych ar ôl mannau hanesyddol o addoli, yn cynnwys eglwysi, wardeiniaid eglwys, aelodau cynulleidfa a gwirfoddoli, eu hysbrydoli gan y siaradwyr a'r astudiaethau achos y byddwn yn edrych arnynt."

Yr astudiaethau achos yw:
• Eglwys Sant Joseff, Cwmafan - paneli solar ac arferion cynaliadwy (ailgylchu, llwybrau natur/celf, prosiectau cymunedol);
• Eglwys St Giles, Wrecsam - prosiect aildrefnu diweddar (rhesymau cyllid), defnydd yr eglwys gan y gymuned ac fel lleoliad celf/cyngherddau;
• Capel Libanus, Aberhonddu - pwmp gwres ffynhonnell aer a chladin allanol;
• Eglwys Sant Pedr, Rhuthun - paneli ffotofoltaig ar y to.
 

Cynhelir y gynhadledd ddydd Mercher 23 Mai, 11am - 4pm yn Eglwys St Giles, Wrecsam.

Yn y cyfamser, gall eglwysi gynnal "archwiliad gwyrdd" i ganfod pa mor gyfeillgar i'r amgylchedd ydynt.

Gall ymwelwyr i wefan yr Eglwys ac Amgylchedd yr Eglwys yng Nghymru dicio rhestr wirio i weld pa mor dda y maent yn gwneud - o ailgylchu sbwriel i weini coffi Masnach Deg a gwneud y fynwent yn hafan ar gyfer bywyd gwyllt.

Mae hefyd syniadau yno ar sut i wella eu sgôr, cael gwybodaeth am brosiectau a gynhelir mewn plwyfi eraill a lawrlwytho gweddïau ac awgrymiadau ar gyfer gwasanaethau.

Cyfeiriad y wefan yw: www.churchandenvironment.org.uk

Mae'r llun amgaeedig yn dangos paneli solar yn Eglwys Sant Joseff, Cwmaman.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â:


 

Entered By Anna Morrell - 21.05.12

Anna Morrell, Archbishop’s Media Officer
Church in Wales
39 Cathedral Rd
Cardiff CF11 9XF

Email Address: annamorrell@churchinwales.org.uk
Telephone: Work: 02920 348208 Mobile: 07919 158794

Heading

Dolor sit amet, consectetuer adipiscing elit. Morbi commodo, ipsum sed pharetra gravida, orci magna rhoncus neque, id pulvinar odio lorem non turpis.

Sub-heading

Sed aliquam, nu eget euismod ullamcorper, lectus nunc ullamcorper orci, fermentum bibendum enim nibh eget ipsum. Donec porttitor ligula eu dolor. Maecenas vitae nulla consequat libero cursus venenatis.