To Church in Wales home page

The Church in Wales - Yr Eglwys yng Nghymru

Press Release

Archesgob yn bendithio carped o Afghanistan

Dr Peter Sedgwick, Pennaeth Coleg Mihangel Sant, gyda

Dr Peter Sedgwick, Pennaeth Coleg Mihangel Sant, gyda'r carped ar wal ffreutur Coleg Mihangel Sant

17 Mai 2012

Bydd Archesgob Cymru yn bendithio carped ddydd Llun a gafodd ei wehyddu gan bobl ifanc ac anabl yn Afghanistan.

Bydd Dr Barry Morgan yn bendithio'r carped fydd yn hongian ar wal yng Ngholeg Mihangel Sant, Llandaf. Fe'i comisiynwyd gan Gyfeillion Coleg Mihangel Sant i gefnogi Afghan Action - elusen a sefydlwyd gan glerigwr i wella bywyd i bobl ifanc mewn gwlad a rwygwyd gan wrthdaro.

Mae arfbais y Coleg ar y carped ynghyd â symbolau Cymreig megis croesau a chlymau Celtaidd, telynau a chennin Pedr - blodyn cenedlaethol Cymru a hefyd Afghanistan. Fe'i cynlluniwyd gan y Parch Marianne Osborne, cyn fyfyriwr yn y coleg sydd bellach yn gaplan ieuenctid Esgobaeth Tyddewi. Fe'i gwnaed o wlân Ghazni a ddaeth o ddefaid sy'n pori ar fynyddoedd uchel Afghanistan, a chafodd ei liwio a'i wehyddu mewn tywydd mor oer ag 20 gradd dan y rhewbwynt.

Yn mesur 4.2m wrth 2.3m, fe gostiodd £3,000 i'w wneud a bydd yn cael lle blaenllaw ar wal yn ffreutur y coleg.

Mae Afghan Action yn rhedeg canolfan hyfforddiant a deori busnes ar gyfer dynion a menywod ifanc, rhai ohonynt yn anabl, yn Kabul. Gwnânt garpedi gyda llaw i gynlluniau traddodiadol a modern, a hefyd ddarparu dosbarthiadau llythrennedd a rhifedd, pryd o fwyd am ddim ganol-dydd a gofal iechyd i'r holl staff a'r rhai sy'n derbyn hyfforddiant. Y nod yw helpu pobl ifanc i'w helpu eu hunain drwy hyfforddiant a swyddi.


Dywedodd yr Archesgob fod Afghan Action yn cynnig gobaith i wlad a rwygwyd gan ryfel, llygredd a chyffuriau.

Dywedodd, "Ysywaeth, mae cymaint o'r hyn a glywn am Afghanistan yn negyddol - gwlad sydd wedi'i rhwygo gan wrthdaro, llygredd a chyffuriau. Eto dyma brosiect sy'n ceisio newid hynny drwy gynnig dyfodol amgen i bobl ifanc - un lle gallant ddod yn hunanddigonol drwy adeiladu ar eu treftadaeth a diwylliant gwych. Bydd y carped hwn, a wnaethant hwy, yn atgoffa'r holl fyfyrwyr ac ymwelwyr yn y coleg o'r hyn y gellir ei gyflawni pan ymddengys fod popeth yn eich erbyn."

Dywedodd Carol Cobert, cadeirydd Cyfeillion Coleg Mihangel Sant, "Credwn fod hwn yn ddarn o waith gwirioneddol ryngwladol - un sy'n cynrychioli'r gorau yn niwylliannau Cymru ac Afghanistan, a hefyd rhywbeth sydd yn drawiadol iawn a hirhoedlog. Yn bwysicaf oll, mae wedi helpu mewn rhyw ffordd fach i gynorthwyo i liniaru'r tlodi a'r cylch o fyw cysylltiedig â chyffuriau y mae cynifer o bobl Afghanistan wedi eu dal ynddo."

Yn dilyn y seremoni fendithio, bydd arddangosiad a gwerthu carpedi traddodiadol eraill a wnaed â llaw yn Afghanistan.

Cynhelir y digwyddiad am 7pm ddydd Llun 21 Mai yng Ngholeg Mihangel Sant, Heol Caerdydd, Llandaf. Mae croeso i bawb.

Yn y llun gwelir Dr Peter Sedgwick, Pennaeth Coleg Mihangel Sant, gyda'r carped ar wal ffreutur Coleg Mihangel Sant.

Mae mwy o wybodaeth am Afghan Action ar gael yn: www.afghanaction.co.uk

Anna Morrell
Archbishop's Media Officer / Swyddog y Cyfryngau i'r Archesgob
Tel: 02920 348208; mobile: 07 91 91 587 94
39 Cathedral Rd, Cardiff / 39 Heol y Gadeirlan, Caerdydd
CF11 9XF
http://www.churchinwales.org.uk
http://www.eglwysyngnghymru.org.uk
Twitter: @ChurchinWales

Entered By Anna Morrell - 17.05.12

Anna Morrell, Archbishop’s Media Officer
Church in Wales
39 Cathedral Rd
Cardiff CF11 9XF

Email Address: annamorrell@churchinwales.org.uk
Telephone: Work: 02920 348208 Mobile: 07919 158794

Heading

Dolor sit amet, consectetuer adipiscing elit. Morbi commodo, ipsum sed pharetra gravida, orci magna rhoncus neque, id pulvinar odio lorem non turpis.

Sub-heading

Sed aliquam, nu eget euismod ullamcorper, lectus nunc ullamcorper orci, fermentum bibendum enim nibh eget ipsum. Donec porttitor ligula eu dolor. Maecenas vitae nulla consequat libero cursus venenatis.