To Church in Wales home page

The Church in Wales - Yr Eglwys yng Nghymru

Press Release

Archesgob i gysegru Canolfan Addysg Grefyddol £500,000 yn Wrecsam

Bydd Dr Barry Morgan, Archesgob Cymru, yn ymweld â Wrecsam y penwythnos hwn i gysegru canolfan addysg a ddefnyddir i helpu codi safonau addysgu mewn Addysg Grefyddol ar draws Cymru.
 

Cynhelir gwasanaeth arbennig yng Nghanolfan Addysg Grefyddol a Datblygu Ffydd St Giles yn Eglwys St Giles, Wrecsam ddydd Sadwrn 14 Ionawr. Bydd Esgob Llanelwy, y Gwir Barchedig Dr Gregory K Cameron hefyd yn bresennol ynghyd â swyddogion lleol.
 

Cynlluniwyd y ganolfan £500,000 sydd tu mewn i'r eglwys hanesyddol gyda thair nod. Yn gyntaf i hyrwyddo Addysg Grefyddol safon uchel mewn ysgolion yn ail i helpu'r Eglwys  fod yn effeithiol yn ei gwaith gyda phobl ifanc ac yn drydydd i helpu'r adeilad hanesyddol yn St Giles i addysgu pobl ifanc am Gristnogaeth.


Mae ysgolion eisoes yn ymweld â'r ganolfan ac mae'r tîm addysg wedi datblygu 21 gweithdy i addysgu pobl ifanc drwy ymweliadau ysgol.


Gavin Craigen yw Cyfarwyddwr Gweithredol Canolfan Addysg Grefyddol a Datblygiad Ffydd St Giles.
 

Dywedodd:
"Mae'r prosiect wedi ei sefydlu mewn cysylltiad gyda Chanolfan y Santes Fair yn Abergwyngregyn, Sefydliad Addysg Blwyfol Wrecsam ac Eglwys St Giles.
“Ein nod yw gweld  Addysg Grefyddol yn cael ei haddysgu’n fwy effeithiol i blant a phobl ifanc - yn Wrecsam a hefyd ledled Cymru, ac i ennyn cyffro ymysg pobl ifanc fel eu bod yn gadarnhaol em eu ffydd."


Wrth siarad am y cyfleuster newydd, dywedodd yr Archesgob Dr Barry Morgan a fydd yn ei gysegru:


"Mae dysgu am wahanol grefyddau a'r hyn a allai olygu i gymryd crefydd o ddifrif yn ogystal â gweld bywyd o safbwyntiau eraill yn bwysicach nag erioed i bobl ifanc heddiw.
 

“Mae'n eu haddysgu am werthoedd megis parch, goddefgarwch a chyfrifoldeb ac yn codi ymwybyddiaeth am ein hunaniaeth gyffredin.


"Yr her i'r ganolfan newydd hon fydd darparu deunyddiau safon uchel ar gyfer athrawon fydd yn ennyn diddordeb ac ysbrydoli plant a phobl ifanc. Rwy'n hynod falch i'w chysegru a dymuno pob llwyddiant iddi."
 

NODYN I'R GOLYGYDD
Yn y llun gwelir Gavin Craigen, y Cyfarwyddwr Gweithredol, yn y gegin newydd yng Nghanolfan St Giles ar gyfer Addysg Grefyddol a Datblygu Ffydd.


Cynhelir y gwasanaeth cysegru am 3 p.m. ddydd Sadwrn 14 Ionawr.
 
 

Entered By Anna Morrell - 11.01.12

Anna Morrell, Archbishop’s Media Officer
Church in Wales
39 Cathedral Rd
Cardiff CF11 9XF

Email Address: annamorrell@churchinwales.org.uk
Telephone: Work: 02920 348208 Mobile: 07919 158794

Heading

Dolor sit amet, consectetuer adipiscing elit. Morbi commodo, ipsum sed pharetra gravida, orci magna rhoncus neque, id pulvinar odio lorem non turpis.

Sub-heading

Sed aliquam, nu eget euismod ullamcorper, lectus nunc ullamcorper orci, fermentum bibendum enim nibh eget ipsum. Donec porttitor ligula eu dolor. Maecenas vitae nulla consequat libero cursus venenatis.