Press Release
‘Bugeiliad’ yn cynnig cefnogaeth yn y Sioe
Caplaniaid ar y maes
Am y tro cyntaf, bydd caplaniaid wrth law i gefnogi pobl sy’n ymweld â Sioe Frenhinol Cymru wythnos nesaf. Fel rhan o gynllun newydd, bydd tîm o fugeiliaid proffesiynol yn darparu gofal a chefnogaeth ar ac o amgylch maes y sioe. Byddant hefyd yn cynnal llinell ffôn argyfwng ddydd a nos. Sefydlwyd y Gaplaniaeth newydd mewn ymateb i angen dirfawr sydd wedi dod yn amlwg ar Faes y Sioe dros y blynyddoedd diwethaf. Chris Coe, Swyddog Bywyd Gwledig yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig, sy’n cydlynu Tîm y Gaplaniaeth o dan faner y corff ecwmenaidd Cymraeg, CYTÛN. “Mae’r sioe’n denu pobl o bob math o bob cwr o Gymru,” meddai Chris. “Maent yn dod â’u hanghenion, eu pryderon, eu gobeithion a’u hofnau gyda nhw. Mae’r ochr arall hefyd – yn anffodus, pan fo cymaint o bobl yn dod at ei gilydd, mae marwolaeth, salwch neu drychineb ac ati bob amser yn bosibl. “Byddwn yn darparu Caplaniaeth mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, bydd caplan argyfwng ar ddylestwydd drwy gydol y Sioe. Bydd y caplan hwn yn gyfrifol am dderbyn galwadau i’r llinell argyfwng ac ymateb mewn ffordd fugeiliol. Gan weithio gydag asiantaethau eraill lle bo hynny’n briodol, byddant yn ceisio cyfarfod ag anghenion y galwr a chynnig gofal iddynt, nid yn unig ar Faes y Sioe ond hefyd yn y dyddiau, wythnosau a’r misoedd sydd i ddod. “Yn ail, bydd dau gaplan ar ddylestwydd ym Mhabell CYTÛN bob dydd. Bydd y caplaniaid yma yn gyfrifol am gyfarfod a chroesawu pobl. Byddant yn darparu gofal bugeiliol lle bo angen ac yn pasio pryderon difrifol i’r caplan argyfwng. Byddant hefyd yn sicrhau fod yr addoliad dyddiol a’r siaradwyr bob prynhawn yn brydlon ac ar gael i bawb.” Mae’r Gaplaniaeth newydd yn cael ei lansio yn dilyn cyfnod prawf yn 2009, pryd y llwyddodd y tîm i helpu mewn llawer o sefyllfaoedd. Daethant i’r casgliad fod crwydro ymysg y tyrfaoedd ar y Maes yn cynnig llawer o gyfleon i sgwrsio a chynnig gofal. Eleni, bydd y caplaniaid yn amlwg iawn, yn gwisgo siacedi melyn llachar gyda’r gair “Caplan” ar y tu ôl. Mae Tîm y Gaplaniaeth yn cynnwys bugeiliaid profiadol o’r prif enwadau Cymraeg. Mae sawl un o’r aelodau yn Swyddogion Gwledig o fewn eu heglwysi eu hunain ac mae’r Sioe yn gyfle gwych iddynt fanteisio ar eu doniau a’u profiad a chynnig gwasanaeth cwbl broffesiynol ac ymroddedig. Dylai pobl sy’n dymuno siarad â Chaplan yn ystod y Sioe ymweld â Phabell CYTÛN ar Rodfa D neu ffonio 078 7631 7778 unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Mae amryw o’r tîm yn siarad Cymraeg. Mae gan Dîm y Gaplaniaeth sêl bendith David Walters OBE, Prif Weithredwr y Sioe. Dywedodd Mr Walters: “Rydym wedi cael amryw o geisiadau yn y gorffennol am ryw fath o ofal bugeiliol neu efallai ganolfan weddi ar faes y sioe lle gall ymwelwyr dreulio amser yn myfyrio a gweddïo mewn tawelwch. Mae’r gwasanaeth newydd hwn yn gam cadarnhol yn y cyfeiriad yma ac rwy’n siwr y bydd ymwelwyr yn ei werthfawrogi’n fawr, yn enwedig y rheiny sydd efallai angen cefnogaeth a chymorth yn ystod cyfnod a allai fod yn anodd.” “Rydym yn llawenhau fod y Gaplaniaeth yma’n cael ei darparu ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio fel eglwysi,” ychwanegodd y Parchedig Aled Edwards, Prif Weithredwr CYTÛN. “Rwy’n hyderus y bydd y Gaplaniaeth o fudd mawr i’r Sioe.” Mae’r Tîm yn gobeithio datblygu’r gwaith yn y dyfodol, ac wedi dechrau trafod y posibilrwydd o gael Bugeiliaid Stryd ac o ymestyn y rôl i ddigwyddiadau eraill ar Faes y Sioe megis y Ffair Aeaf a’r Ŵyl Tyddyn a Gardd. ##DIWEDD## Am wybodaeth bellach neu i drefnu cyfweliad, cysylltwch â Mari Fflur, Swyddog Cyfathrebu Eglwys Bresbyteraidd Cymru: 02920 627465 / 07917 422541 / mari@ebcpcw.org.uk.
Entered By Anna Morrell - 23.07.10
Anna Morrell, Archbishop’s Media OfficerChurch in Wales
39 Cathedral Rd
Cardiff CF11 9XF
Email Address: annamorrell@churchinwales.org.uk
Telephone: Work: 02920 348208 Mobile: 07919 158794

