Press Release
“Credu yng Nghymru” - Esgobion yn cynnal derbyniad yn y Senedd
Mae Esgobion yn cynnal derbyniad yn y Senedd
Yr her i’r Gymru ddatganoledig yw creu cenedl fwy hyderus a thosturiol a thrugarog – dyna fydd neges Archesgob Cymru i Aelodau’r Cynulliad ac arweinwyr o bob sector ym mywyd Cymru mewn digwyddiad unigryw yr wythnos nesaf.
Mae Esgobion yr Eglwys yng Nghymru yn cynnal derbyniad yn y Senedd, cartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru, i hyrwyddo gweithio mewn partneriaeth at ddyfodol gwell a dathlu “credu yng Nghymru”.
Caiff y derbyniad ei noddi gan Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, a'i arwain gan Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan. Hwn yw'r tro cyntaf i'r Eglwys yng Nghymru gynnal y math hwn o ddigwyddiad a disgwylir i bron 200 o wahoddedigion fynychu. Maent yn cynnwys Aelodau Cynulliad ac arweinwyr sefydliadau o'r sectorau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector o bob rhan o Gymru, y mae'r rhan fwyaf ohonynt yn gweithio mewn mentrau partneriaeth gyda'r Eglwys.
Dywedodd Dr Barry Morgan, “Mewn Cymru ddatganoledig yr her a wynebwn gyda'n gilydd yw: sut allwn greu cenedl fwy hyderus, fwy trugarog a mwy gofalgar? Ni all un corff gyflawni hynny ar ei ben ei hun a dyna pam mae'r Eglwys, fel un o'r sefydliadau Cymru gyfan hynaf, yn awyddus i weithio mewn partneriaeth gyda'r Cynulliad ac eraill. Credwn yng Nghymru a chredwn y gallwn, dwy weithio gyda'n gilydd, drawsnewid y ffordd yr ydym yn byw.”
Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, “Datgysylltu'r Eglwys i greu'r Eglwys yng Nghymru oedd y mesur datganoli mawr cyntaf yn y ganrif ddiwethaf. Yr ail oedd Deddf Llywodraeth Cymru a sefydlodd y Cynulliad Cenedlaethol ddeng mlynedd yn ôl. Fel cymunwr yn yr Eglwys yng Nghymru yr wyf wedi gwerthfawrogi'r gefnogaeth y mae'n ei rhoi i bawb ohonom sy'n ymgysylltu mewn bywyd cyhoeddus, a'i chyfranogiad gweithredol yn y dadleuon cyhoeddus ar faterion moesegol a democrataidd ynghyd â'r cymunedau ffydd eraill i gyd. Rwyf yn arbennig o falch i groesawu Mainc yr Esgobion yn gyfan i'r Cynulliad Cenedlaethol.”
Cynhelir y derbyniad yn y Senedd ddydd Mawrth, Ionawr 26, rhwng 12-2pm.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag: Anna Morrell Swyddog y Cyfryngau i'r Archesgob / Archbishop's Media Officer Tel: 02920 348208; mobeil: 07 91 91 587 94 39 Heol y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9XF / 39 Cathedral Rd, Cardiff CF11 9XF http://www.churchinwales.org.uk http://www.eglwysyngnghymru.org.uk
NODIADAU
Y mae a wnelo eglwysi ledled Cymru â llawer o brosiectau ar y cyd â mudiadau cymunedol eraill. Ar lefel daleithiol, y mae cyd-gynlluniau yr Eglwys yng Nghymru yn cynnwys:
• Symposiwm Cymru ar Addysg, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cynulliad Cymru http://www.churchinwales.org.uk/press/display_press_release.php?prid=4887 • “Finding a Common Voice” – cyfres o ymgynghoriadau mewn partneriaeth gyda Chyngor Mwslemiaid Cymru a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru http://www.churchinwales.org.uk/press/display_press_release.php?prid=4882 • Ymgyrch Digon yw Digon yn erbyn yfed sbri gyda Phrif Gwnstabl Cymru http://www.churchinwales.org.uk/press/display_press_release.php?prid=4700 • Symposiwm Cymru ar Drawsnewid Ymddysgiad, Trawsnewid Cymunedau - mewn partneriaeth gyda Heddlu De Cymru Symposiwm Cymru ar Drawsnewid Ymddygiad, Trawsnewid Cymunedau - mewn partneriaeth gyda Heddlu De Cymru <http://www.churchinwales.org.uk/press/display_press_release.php?prid=4695> • Cynhadledd Mannau Addoli Hanesyddol http://www.churchinwales.org.uk/press/display_press_release.php?prid=4880 • Cynhadledd “Shrinking the Footprints” http://www.churchinwales.org.uk/press/display_press_release.php?prid=4702
Entered By Anna Morrell - 28.01.10
Anna Morrell, Archbishop’s Media OfficerChurch in Wales
39 Cathedral Rd
Cardiff CF11 9XF
Email Address: annamorrell@churchinwales.org.uk
Telephone: Work: 02920 348208 Mobile: 07919 158794

