Gall y Nadolig fod yn rhy berffaith i fod yn wir, meddai’r Archesgob

Anrhegion perffaith, twrci wedi’i goginio’n berffaith – does a wnelo’r pethau hyn ddim â realiti’r Nadolig, yn ôl Archesgob Cymru heddiw.
Yn ei bregeth Nadolig yng Nghadeirlan Llandaf, dywedodd y Dr Barry Morgan ein bod, oherwydd y pwysau enfawr a roddir arnom i fod yn berffaith ym mhopeth a wnawn, yn colli gwir ystyr y Nadolig, sef y llanast yr ydym ynddo.
Meddai: ‘Does a wnelo’r Nadolig, o safbwynt dynol na dwyfol, ddim â pherffeithrwydd. Does a wnelo’r ŵyl ddim oll â geni baban perffaith i fyd perffaith. Y mae a wnelo â Duw yng Nghrist yn dod i fyd llawn cythrwfl, ac yn dod am yr union reswm mai byd cythryblus ydyw. A’n drwg ni yw ein bod ni mor benderfynol o geisio perffeithrwydd fel ein bod mewn perygl o fethu deall gwir arwyddocâd yr ŵyl’.
Gwthir y syniad o berffeithrwydd arnom o bob cyfeiriad, o olygfeydd eira ar gardiau Nadolig a charolau sentimental i raglenni teledu poblogaidd fel ‘X-Factor’ a ‘Strictly Come Dancing’, yn ôl yr Archesgob.
Yn groes i hyn oll, canolbwyntiodd Iesu ar ein hamherffeithrwydd. Treuliodd ei amser gyda phobl yr oedd eu bywydau’n llawn poen a dioddefaint, amheuon a galar. Y mae Duw yn dal gyda phobl o’r fath heddiw – o wledydd lle y mae rhyfel i’r ciwiau dôl sy’n cyson gynyddu.
Dywedodd yr Archesgob: ‘Does a wnelo’r Nadolig ddim oll â dianc i ryw fyd perffaith. Y mae a wnelo â’r byd real – Duw yn delio â’r byd fel y mae, y byd lle y mae cymaint o anghyfiawnder, cymaint o boen a dioddefaint a gofid.
‘Mae Duw’n caru’r byd fel y mae, yn ei friwiau ei gyd – enbydrwydd y gwrthdaro nas datryswyd yn Iraq ac Affganistan; sefyllfa ddybryd pobl Zimbabwe wrth iddynt ymlafnio yn erbyn gorthrymwr o Arlywydd; trawma pawb yr effeithiwyd arnynt gan yr erchyllterau yn Mumbai, anobaith y Congo ar fin rhyfel cartref; y caledi y bydd llawer o bobl dlawd yn ei wynebu oherwydd y wasgfa arian.
‘Ni fedr Duw, wrth gwrs, chwifio ei hudlath a pheri i’r cwbl ddiflannu, ond yr hyn y mae yn ei wneud yw dod i’n plith, fel y daeth yn Iesu a’n sicrhau ei fod yn ysgwyddo’r baich gyda ni. Fe’i ceir ymhlith y tlawd, y sawl sydd ar ymylon cymdeithas, y sawl sydd mewn gofid, yn eu cynnal â’i gariad. Trwy Iesu y mae’n dangos inni beth yw gwir ystyr bod yn aelod o ddynolryw, yn byw bywyd o drugaredd a chydymdeimlad a chariad a gwrthod defnyddio arfau dialedd a thrais. A thrwy Iesu hefyd y mae’n dangos inni beth yw cariad dwyfol, y cariad sy’n ymrwymedig i’r byd amherffaith hwn ac yn ymdrechu i’w iacháu. Dyna ystyr yr ymgnawdoliad.’
Atodir testun llawn pregeth yr Archesgob. Am wybodaeth bellach, cysylltwch ag: Anna Morrell (07919 158794)
Pregeth Dydd Nadolig 2008
Cadeirlan Llandaf
Y mis hwn yr oedd gan un o’r papurau dyddiol erthygl ar bum ffordd i goginio dofednod. Ei theitl oedd ‘Pump aderyn gan bum cogydd’. Rhaid imi gyfaddef nad oeddwn erioed wedi clywed am dri o’r cogyddion, ond mae hynny’n dweud mwy amdanaf fi nag amdanynt hwy. Y bwriad, wrth gwrs, oedd ‘coginio’n berffaith at y Nadolig’. Ac wrth gwrs yr oedd a wnelo’r holl gyhoeddusrwydd a fu’n arwain at heddiw â sut i gael Nadolig perffaith – cardiau wedi’u postio at bawb o’ch cydnabod mewn pryd, y tŷ wedi’u addurno’n hardd ac yn chwaethus, yr union anrhegion iawn i bawb, a’r rheini wedi’u lapio’n brydferth ychydig ddyddiau cyn y wledd. Dengys hysbysebion teledu deuluoedd perffaith yn berffaith fodlon eu byd o gwmpas tân braf a choeden Nadolig yn y cefndir.
Mae hyd yn oed rai o’r carolau y byddwn yn eu canu yn portreadu perffeithrwydd. ‘I Orwedd mewn Preseb’, er enghraifft: suo-gân yw hon, a’r bardd yn darlunio’r baban Iesu wedi’i amgylchynu gan anifeiliaid mewn stabl. Mewn gwirionedd, mae’r olygfa mor berffaith fel nad yw’r bardd am weld dim byd cyffredin yn amharu arni. Felly, mae ef, neu hi (nage, erbyn meddwl, mae’n rhaid mai dyn ydyw) yn ysgrifennu: ‘Mae’r gwartheg yn brefu, a’r baban ddeffroes, Ond i’r baban Iesu, un wylo nid oes’. Baban nad yw’n crio! Mae rhywbeth o’i le ynglŷn â hynny, a byddai’n achos pryder i unrhyw fam. Dyna pam fy mod yn meddwl mai dyn oedd y bardd. A dyna ‘O dawel ddinas Bethlehem’ wedyn. Mae’r bardd yn darlunio dinas dawel a heddychlon. Ac eto fe wyddom nad yw Bethlehem erioed wedi mwynhau tawelwch a heddwch. Adeg geni Iesu roedd hi’n ddinas wedi’i meddiannu gan elynion, ac fe ddywedir wrthym ei bod hi mor llawn a phrysur fel na fedrodd Mair a Joseff gael gwely ynddi am y nos. Heddiw y mae’n ddinas a rwygwyd gan drais ac ansicrwydd, a chan y wal ofnadwy yna. Dyw Bethlehem ddim yn dref berffaith a dyw hi erioed wedi bod yn dref berffaith.
Ar un ystyr, wrth gwrs, mae’n ddealladwy ein bod ni am greu llun perffaith o’r Nadolig. Dyna pam bod cân Bing Crosby, ‘I’m dreaming of a white Christmas’, mor boblogaidd. Mae’n darlunio rhyw fyd delfrydol lle y mae popeth yn ei le a phopeth yn iawn – tywydd perffaith at dymor perffaith pan fyddwn i gyd yn mwynhau bwyd perffaith, wedi derbyn yr anrhegion yr oedd arnom eu heisiau, a’r cyfan ar gefndir teulu sanctaidd perffaith yn eistedd yn llwyr fodlon mewn stabl nad yw’n ddim byd tebyg i unrhyw stabl a welais i erioed.
Ac yna mae’n rhaid i Nigella Lawson, y ‘dduwies ddomestig’ enwog, ddifetha’r cwbl. Dywed hi y byddai’n gwbl fodlon ar tships a saws cyrri dros yr ŵyl, oherwydd, meddai hi, bod llawer o ferched yn teimlo dan bwysau i baratoi Nadolig perffaith. ‘Does dim byd o’i le,’ meddai, ‘ar osod rhyw ychydig o oleuadau Nadolig ar y silff ben tân ac archebu pizza – peidiwch ag ildio i bwysau ceisio perffeithrwydd’.
Hwyrach ei bod hi’n rhy hwyr i chwi eleni fabwysiadu ateb Nigella Lawson. Ond y mae hi, yn ddiarwybod iddi’i hun, efallai, wedi tanlinellu gwirionedd diwinyddol pwysig. Does a wnelo’r Nadolig, o safbwynt dynol na dwyfol, ddim â pherffeithrwydd. Does a wnelo’r ŵyl ddim oll â geni baban perffaith i fyd perffaith. Y mae a wnelo â Duw yng Nghrist yn dod i fyd llawn cythrwfl, ac yn dod am yr union reswm mai byd cythryblus ydyw. A’n drwg ni yw ein bod ni mor benderfynol o geisio perffeithrwydd fel ein bod mewn perygl o fethu deall gwir arwyddocâd yr ŵyl.
Felly, y mae’r beirniaid ar y rhaglen ‘X Factor’ yn ystyried yn sbwriel bawb sy’n llai na pherffaith yn eu barn wrth iddynt chwilio am berfformiad di-fefl. Doedd beirniaid ‘Strictly Come Dancing’ ddim yn gallu gwneud dim â John Sargeant am na allai ddawnsio’n berffaith, ac nad oedd erioed wedi honni ei fod yn gallu; ac y mae ‘I’m a Celebrity, Get Me Out of Here’ yn chwilio am rywun enwog a fedr oddef gyda pherffeithrwydd bob math o waradwydd. Mae sioeau teledu yn cadarnhau’r ddelwedd o’r perffeithrwydd yr ydym oll yn ei geisio.
Ond y mae a wnelo’r ŵyl hon â chariad Duw at y byd fel y mae mewn gwirionedd, nid fel yr hoffai ef na ninnau iddo fod. Ganwyd Iesu ym Mhalesteina, gwlad a gafodd ei gormesu gan lawer gelyn ac a oedd yn awr wedi’i meddiannu gan y Rhufeiniaid; a meistri caled oedd y rheini. Fe’i ganwyd i rieni tlawd ar ymylon eithaf Ymerodraeth fawr Rhufain. Treuliodd ei amser nid mewn lleoedd prydferth gyda phobl brydferth ond gyda phobl yr oedd eu bywydau’n llawn poen a dioddefaint, amheuon a galar. Ei arbenigrwydd oedd iddo gymysgu â phobl amherffaith, a fernid yn amherffaith oherwydd eu hil, eu rhyw, eu hiechyd, eu crefydd – oherwydd, fel y dywedodd ei hun, does ar y sawl sy’n iach ddim angen meddyg. Fe ddaeth i ddangos cariad Duw at ei fyd ac at y rhai hynny yr oedd eraill yn gwrthod eu caru. Fe ddaeth i gwrdd ag ofnau dyfnaf y byd ac i ateb ei anghenion dyfnaf. Ac fe ddechreuodd y cwbl yn y stabl hwnnw ym Methlehem lle y ganed ef, fel y genir pawb ohonom, gyda’r holl ddagrau a chwerthin, y boen a’r llawenydd, y gobaith a’r ansicrwydd sydd ynglŷn â geni unrhyw faban. Does a wnelo’r Nadolig ddim oll â dianc i ryw fyd perffaith. Y mae a wnelo â’r byd real – Duw yn delio â’r byd fel y mae, y byd lle y mae cymaint o anghyfiawnder, cymaint o boen a dioddefaint a gofid.
Ac fel yr oedd, felly y mae. Mae Duw’n caru’r byd fel y mae, yn ei friwiau ei gyd – enbydrwydd y gwrthdaro nas datryswyd yn Iraq ac Affganistan; sefyllfa ddybryd pobl Zimbabwe wrth iddynt ymlafnio yn erbyn gorthrymwr o Arlywydd; trawma pawb yr effeithiwyd arnynt gan yr erchyllterau yn Mumbai, anobaith y Congo ar fin rhyfel cartref; y caledi y bydd llawer o bobl dlawd yn ei wynebu oherwydd y wasgfa arian.
Ni fedr Duw, wrth gwrs, chwifio ei hudlath a pheri i’r cwbl ddiflannu – dim ond mewn storïau tylwyth teg y digwydd hynny – ond yr hyn y mae yn ei wneud yw dod i’n plith, fel y daeth yn Iesu a’n sicrhau ei fod yn ysgwyddo’r baich gyda ni. Fe’i ceir ymhlith y tlawd, y sawl sydd ar ymylon cymdeithas, y sawl sydd mewn gofid, yn eu cynnal â’i gariad. Trwy Iesu y mae’n dangos inni beth yw gwir ystyr bod yn aelod o ddynolryw, yn byw bywyd o drugaredd a chydymdeimlad a chariad a gwrthod defnyddio arfau dialedd a thrais. A thrwy Iesu hefyd y mae’n dangos inni beth yw cariad dwyfol, y cariad sy’n ymrwymedig i’r byd amherffaith hwn ac yn ymdrechu i’w iacháu. Dyna ystyr yr ymgnawdoliad.
Y mae’r ymgnawdoliad hefyd yn alwad i wasanaeth i’r rhai hynny sy’n caru Iesu. A ninnau wedi ein sicrhau o gariad Duw, gofynnir inni fyw cariad Duw yn y byd. Golyga’r efengyl sy’n ein sicrhau bod Duw’n ein caru yn ein holl amherffeithrwydd ein bod ninnau hefyd, amherffaith ag yr ydym, wedi ein galw i garu a gwasanaethu’r byd am mai byd Duw ydyw.

