Neges Nadolig 2001
Rhyddhaodd y Parchedicaf Ddr Rowan Williams, Archesgob Cymru ei neges Nadolig heddiw sy'n canolbwyntio eleni ar ddigwyddiadau brawychus Medi'r 11eg a'r ofn a'r braw a grewyd gan yr ymsodiad terfysgol hwnnw. Dyma destun neges yr Archesgob yn llawn:
"Mae'n debyg i ni gael ein brawychu mwy eleni nac ers tro byd. Pan ddaeth y Rhyfel Oer i ben, daethom i gredu fod y byd yn lle saffach nac ydoedd cynt. Roedd y gwrthdrawiadau mawr wedi diflannu a chyd-berthynas gwledydd a'u gilydd yn broses haws nag oedd hi o'r blaen.
"Ond nid felly oedd hi i fod. Rydym yn wynebu mathau newydd o wrthdaro sydd mewn llawer o ffyrdd yn llawer gwaeth, gan ein bod yn ceisio ymrafael gyda gelyn cudd ac, fe ymddengys, yn un na ellir cyd-drafod ag ef. Sut fedrwch chi fygwth rhywun sydd yn hollol barod i farw dros yr hyn y credant ynddo?
"Mae hunllef Medi'r 11eg wedi tywys rhai pobl i'r farn taw'r broblem go iawn yn y byd yw ffydd grefyddol. Mae ffydd yn annog pobl i fentro'u bywydau gan hidio dim am y canlyniadau posib - felly mae'n rhaid ei fod yn beryglus. Roedd llawer yn credu fod Islam yn arbennig o agored i'r math yma o feddwl. Cychwynodd eraill boeni ynghylch ysgolion crefyddol, gan ddadlau eu bod yn siwr o feithrin eithfawyr.
"Ond mae'r gwirionedd yn llawer mwy cymhleth. Mae pob ffydd a phob gweledigaeth o'r byd (gan gynnwys anffyddiaeth!) yn medru cael ei llurgunio. Mae pobl sydd eisoes a'u bywydau wedi ei gwyrdroi a'i niweidio yn defnyddio ffydd, fel y maent yn defnyddio pethau eraill mewn ffordd wyrdreoedig a niweidiol. Ac os geisiwch chi gadw ffydd allan o'r maes trafod cyhoeddus, ei gau allan o wleidyddiaeth neu addysg, yna rydych chi'n annog ffydd i fod yn rhywbeth culach a mwy ymylol ac ynysig, yn fwy tebygol o gael ei gam-ddefnyddio gan eithafwyr.
"Rydych hefyd wrth gwrs yn eich cau eich hun i ffwrdd oddi wrth yr elfennau hynny o ffydd grefyddol sy'n eich gorfodi i roi ystyriaeth ddwys i'ch hunanoldeb a'ch balchder chi eich hunan (a'ch eithafiaeth wrth gwrs!) - ac oddi wrth y cyfan sy'n llefaru ynghylch y math o heddwch na all bodau dynol ar eu pennau eu hunain, ei adeiladu. Dim ond trwy feithrin yr ymdeimlad hwn o ymddiriedaeth a gostyngeiddrwydd y medrwn ni symud y tu hwnt i fraw. Nid cred yn Nuw yw'r broblem. Y glo man yw fod cynifer ohonom yma, yn yr UDA neu yn y Wlad Sanctaidd, yn Gristnogion, Iddewon a Moslemiaid, ddim yn credu yn Nuw i'r graddau digonol i'n gwneud ni yn ostyngedig ac ymddiriedus.
"Dro ar ôl tro yn stori'r Nadolig, mae negeswyr Duw yn dweud wrth bobl, 'Peidiwch ofni'. Mae'r stori yn dweud wrthym am Dduw sy'n gostwng ei hun ac am dangnefedd sy'n deillio o'r ffaith fod Duw yn derbyn ein dyneiddrwydd yn gariadus. Mae rhai mathau o ffydd grefyddol yn medru ymddangos yn beryglus; ond heb ffydd, a fedrwn ni o ddifrif glywed a derbyn y geiriau hynny, 'Peidiwch ag ofni'?
"Y Nadolig hwn, ceisiwch wynebu peth o'r braw, er mwyn dod ag e i'r amlwg. Holwch beth a fuasai'n mynd i'r afael gyda'r ofn. Holwch a yw geiriau'r angel yn stori'r geni yn cael ei llefaru wrthych chi? "Bydded i'r Nadolig ddod a heddwch i'ch calon ac i'ch cartref.

