Anerchiad Llywyddol gan y Parchedicaf Ddr Rowan Williams, Archesgob Cymru, wedi ei draddodi i Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru, Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan, 20ed Medi 2001
Ni fyddai unrhyw darian 'Star Wars' na thaflegrau amddiffyn wedi gallu rhwystro erchyllterau dydd Mawrth diwethaf. Ni fydd unrhyw gyrch dwys i chwilio a dinistrio yn Afghanistan yn gwarantu na fydd y fath beth byth yn digwydd eto. Os ydym yn ofni ac yn ffieiddio terfysgaeth mae'n rhaid i ni feddwl yn galetach. Arf y gwan, nid y cryf, yw brawychu diwahân. Mae fel arfer yn rhywbeth nad yw'r cryf, yn ei ddisgwyl. Dyna pam eu bod mor fregus pan fo'n digwydd. Arf yw hwn i'r rhai nad oes ganddynt ddim i'w golli. Os ydym eisiau i hyn beidio digwydd, mae'n rhaid i ni ofyn beth mae'n ei olygu bod yna gymaint o bobl yn y byd sy'n credu nad oes ganddynt ddim i'w golli.
Efallai eu bod yn anghywir wrth gredu hynny, ond y gred ei hun sy'n bwysig. Mae'n ymddangos bod yr holl rym sy'n bod yn eiddo i rywun arall. Maen nhw'n rhwystro unrhyw newid. Oherwydd fy nghyflwr rwyf i a fy nheulu, fy niwylliant, fy nghrefydd, fel pe baem wedi'n tynghedu i farw os na fydd yna newid. Ambell dro bydd pobl yn sôn wrthyf am drafodaethau a fydd yn ein harbed rhag marw, neu o leiaf rhag marw lawn mor sydyn. Ond rhywbeth haniaethol yw hynny. Does dim tystiolaeth i'w weld. Pan godaf i fy llais, rwy'n cael fy nhawelu ar unwaith.
Felly mae fy nicter yn cynyddu, i'r fath raddau na allaf wrando ar unrhyw beth y tu allan i'r sefyllfa hon. Os oes rhaid i mi farw, o leiaf does dim rhaid i mi adael i'r gormeswr gael buddugoliaeth. Does arnaf i ddim eisiau i'r byd oroesi fy marwolaeth i, ein marwolaeth ni. Wedi'r cyfan pa werth sydd yna yn y byd pan fydd y gwirionedd yr wyf i'n ei adnabod a'i garu wedi cael ei goncro? Dyna lle mae tarddiad y math o frawychu a welsom yn yr wythnos ddiwethaf.
Pan fydd y rhai sydd â grym yn ymateb trwy fygythiadau enfawr ac areithio huawdl am ymlid didrugaredd, maent hwythau hefyd yn delio gyda dicter sy'n tarddu o fod yn ddiymadferth. Roedd digwyddiadau dydd Mawrth yn erchyll i'r Unol Daleithiau yn rhannol am iddyn nhw wneud i'r unig archbwer sydd ar ôl yn y byd deimlo'i fod mewn perygl. Roedd yn rhaid i lywodraeth yr Unol Daleithiau ymdrechu i oresgyn teimlad y genedl ei bod yn ddi-rym. Felly hefyd y golygfeydd cyfoglyd o ddathlu mewn mannau eraill. Rwy'n amau a fyddai unrhyw un yn y Dwyrain Canol wedi mynd llawn cyn belled â chyfaddef iddynt ddathlu bod miloedd o bobl ddiniwed wedi marw mewn ing. Roedden nhw wedi anghofio dimensiwn dynol y marwolaethau am eu bod yn falch bod y grymus o'r diwedd wedi profi poen milain diymadferthedd. Dyna'r cyfan yr oeddynt yn gallu'i deimlo. Bydd y bygythiadau a'r addewidion oddi wrth gynghreiriaid y gorllewin yn sicr o greu ofn. Ond rwy'n amau y byddant hefyd yn cael eu derbyn gyda theimlad dirgel o foddhad; teimlad sy'n dweud , Nawr maen nhw yn yr un man â ni. Maen nhw'n ymosod ac yn cynllunio dinistr am eu bod hwythau hefyd yn teimlo'n ddiymadferth.
Mae dicter bob amser y cymylu nodweddion dynol y rhai yr ydyn ni'n ddig tuag atynt. Oni bai am hynny, fyddai neb byth yn cael ei berswadio i ddefnyddio trais. Ac mor aml y mae'r dicter yn codi o'r teimlad nad wyf fi'n cael fy ngweld fel bod dynol yn y lle cyntaf. Does neb yn fy nhrin fel bod dynol, fel partner mewn sgwrs; felly mae fy nicter yn tyfu i'r graddau nad oes arnaf eisiau sgwrs, dim ond rhyddhad ar unrhyw gyfrif; hunan-ddatganiad brawychus, hyd yn oed os bydd hwnnw'n dinistrio'r llall. Fe wyddon ni hynny, mewn ffordd ddigon di-fflach, yn ein cysylltiadau personol. Fe'i gwyddom hefyd yn yr anghytuno dibwys - mewn cymhariaeth - yn ein heglwysi. Mae rhwystredigaeth yn ein hatal rhag dychmygu sut y mae pethau ar yr ochr arall. Roedden ni'n bwriadu cael cynnig yn y Corff Llywodraethol hwn ynglyn â'r Tir Sanctaidd. Doedd hi ddim yn ymddangos mai hwn oedd yr adeg gorau i drafod hynny. Ond bydd unrhyw un sydd erioed wedi meddwl am hynny yn cydnabod fod yma wrthdaro rhwng partneriaid nad oes ganddyn nhw y nesaf peth i ddim amgyffred o ddioddefaint y naill a'r llall. Rydym yn gweld ofn a dioddef uniongyrchol y Palestiniaid, ac yn anghofio bod Israel hefyd, wrth edrych arni ei hun, yn gweld diymadferthedd dig pobl gyda dau fileniwm o beidio cael eu trin yn ddynol; sy'n gwneud i gynifer ohonynt anghofio dynoliaeth eu cymdogion. Dyw'r ddau ofn, y ddau ddicter, ddim yn cysylltu.
A phe baen nhw'n gwneud? Yn nheyrnas Duw - cysyniad anodd ei rhoi ar waith ar hyn o bryd, mi wn - mae yna, yn y gybolfa ddieflig o ddirmyg a chynddaredd, fath o ffenestr, ennyd fer o bosibilrwydd pan fydd galar yn treiddio drwy ddallineb a byddardod fy nghalon ac yn gadael i mi synhwyro beth mae'r llall yn ei brofi. Mae rhai wedi sôn am fygythiad terfysgaeth i'n 'ffordd o fyw'. Ond nid ffyrdd o fyw yw'r dioddefwyr bob amser, ond pobl. Dyw ailadrodd yn heriol yr ewyllys i amddiffyn ein gwerthoedd ddim yn newid llawer o ddim. Mae yna lygedyn o obaith y gallai gweld dioddefaint penodol pobl wneud hynny. Ond dydyn ni ddim wedi cael ein hyfforddi'n dda gydnabod hynny. Rydym yn fwy cyfforddus wrth ddelio yn nhermau gwrthdaro rhwng safbwyntiau byd-eang, neu bwer absoliwt a diymadferthedd absoliwt, y pegynau sy'n dad-ddynoli ar y ddwy ochr.
Mae grym yn sicr o gael ei gasáu pan fydd yn cael ei weld yn gweithio'n unig ar gyfer y rhai sy'n berchen arno. Fe wyddoch chi hynny ym mywyd eich eglwys leol: allwn ni ddim gweld sut y mae grym yn gweithio i ni am nad yw'r clerigwr awdurdodaidd, y lleygwr ystrywgar, yr esgob pell a dideimlad, pwy bynnag yr ydyn ni'n credu bod ganddyn nhw yr hyn nad yw gennym ni, yn defnyddio'r hyn sydd ganddyn nhw er fy mwyn i yn ogystal ag er eu mwyn nhw. Mae casineb yn air rhy gryf am y drwgdeimlad sy'n corddi mor aml mewn eglwysi ynglyn â hyn, ond dyna ystwyrian cyntaf yr hyn sy'n gallu tyfu'n gynddaredd mileinig. (darllenwch lythyr cyntaf Ioan). A phan fo'r grym yn cael ei roi ar waith dros y rhai sydd hebddo, dydyn nhw ddim bob amser yn ei weld am yr hyn ydyw, am eu bod nhw wedi arfer cymaint gydag amheuaeth, wedi arfer cymaint gyda chael eu twyllo, eu cam-drin neu eu hanwybyddu. Pan fydd grym Duw yn cael ei roi ar waith, unwaith ac am byth, i'n iachau ni, mae'n cael ei wrthod gyda thrais. Dim ond yn y maddeuant sy'n dilyn y gall y ffordd agor, yn beryglus a chyfyng, llwybr allan o'r adeilad gwenfflam, a allai gael gwared â pheth o'r feddylfryd o anobaith sydd wedi'n caethiwo.
Mewn geiriau eraill, os nad yw pwer i gael ei gasáu mae'n rhaid iddo fentro. Mae hynny'n cynnwys y perygl y bydd yn dal i gael ei wrthod neu ei gamddeall. Yn 1881 fe gafodd Ymerawdwr Rwsia ei lofruddio - Alecsander yr Ail, oedd wedi rhyddhau ei wlad a rhyddfreinio'r caethion. Pan gafodd ei lofruddion eu condemnio i farwolaeth fe ysgrifennodd yr awdur Cristnogol mwyaf blaenllaw yn Rwsia lythyr agored at y Tsar newydd yn ymbil am i'r ddedfryd o farwolaeth gael ei lliniaru. Roedd Alecsander wedi mentro defnyddio grym er mwyn rhoi grym, a'r fenter honno wedi arwain at ei farwolaeth, ond os mai effaith hynny fyddai cylch arall o ddialedd, fyddai dim byd yn newid. Er mwyn datgloi'r gwrthdaro mileinig rhwng llywodraeth unbenaethol a gwrthryfel treisgar roedd yn rhaid cael arwydd gwahanol. Chafwyd mo hynny wrth gwrs, ac fe wyddom i gyd yr hanes a ddilynodd.
Heddiw mae'n iawn ac yn gywir ein bod yn ceisio cyfiawnder. Hyd yn oed ar begwn eithaf eu dicter a'u diflastod, mae pobl yn atebol am y dewisiadau y maen nhw'n eu gwneud. Roedd y penderfyniadau i ladd miloedd lawer o bobl ddiniwed yn benderfyniad gwirioneddol, yn benderfyniad anhraethol ddrwg a chamarweiniol. Nid lle'r un ohonom ni yma yw siarad yn rhy gynnar am faddeuant, a sentimentaliaeth yw awgrymu nad oes a wnelo'r efengyl ddim byd â chosb. Ond mae'r rhai a ysgrifennodd am gosb wedi dweud mor aml y dylai cosb, yn ddelfrydol, wneud synnwyr i'r sawl sy'n cael ei gosbi. Hynny yw, mae'n rhaid iddi gael ei hadnabod fel mwy na dial, o fewn terfynau cyffredin i'r ddwy ochr. Ein problem yw, mewn byd lle mae grym gwleidyddol ac economaidd yn perthyn ar raddfa mor ysgubol i un genedl a'i chynghreiriaid, ei bod hi'n anodd os nad yn amhosibl dod o hyd i fframwaith y gellir ei rhannu. Does neb wedi bod yn ymdrechu'n galed iawn i adeiladu'r fath fframwaith. Mae'n ymddangos fod safonau dwbl yn cael eu harddel mor aml gan ffrindiau'r rhai pwerus.
Felly, yr her i'r Unol Daleithiau a'i chynghreiriaid heddiw, fe gredaf i, yw gofyn beth a ellir ei wneud y tu hwnt i gosb, er mwyn gwneud unrhyw gosb o'r fath yn fwy na dialedd. Sut y gallwn ni adeiladu byd sy'n rhywfaint mwy o gyfeiriadaeth foesol gyffredin? Sut mae defnyddio'r pwer hwnnw fel na fydd yn cael ei gasáu? Pe gallai llywodraethau'r gorllewin, yn ogystal â chymryd unrhyw fesurau gwrth derfysgaeth, ymrwymo'n gyhoeddus ar y cyd i ryw gynlluniau newydd a fyddai'n rhoi grym at wasanaeth y rhai mwyaf rhwystredig, beth allai ddigwydd wedyn? Cylch arall o ddileu dyledion, ymgyrch ryngwladol unol i ddatrys y gwrthdaro yn y Tir Sanctaidd ac i gydblethu diogelwch Israel a'r Palestiniaid, adolygu'r sancsiynau yn Irac, ymgynghori ynglyn â'r economi a'r amgylchedd yn y Dwyrain Canol, yn cael ei adnoddau gan yr Unol Daleithiau a'r Undeb Ewropeaidd? Wn i ddim, â bod yn onest. Ar hyn o bryd mae'n ymddangos bron yn rhy hwyr i unrhyw gynllun wneud argraff, na chael ei weld yn ddim byd ond Groegiaid yn dwyn anrhegion. Ond rwy'n gobeithio bod rhywun yn Whitehall neu Washington yn gofyn rhai cwestiynau o'r math hwn. Ar ôl y rhyfel diwethaf bu'r cynghreiriaid buddugoliaethus yn arllwys adnoddau i'r gwledydd a drechwyd, yn rhannol oherwydd hunan-les economaidd ond hefyd am eu bod nhw'n gwybod mor drychinebus a fu effeithiau peidio a gwneud hynny ar ôl y rhyfel byd cyntaf. Beth ellir ei wneud, i'w gymharu â hyn, ochr yn ochr â'r 'rhyfel yn erbyn terfysgaeth' sydd wedi cael ei chyhoeddi.
Oherwydd - i fynd yn ôl i'r fan ble dechreuais - does yna ddim diogelwch llwyr heb ailddosbarthu grym. A thrychineb ein gwareiddiad ni yw bod hynny'n gyson yn cael ei weld yn wendid. Ond y gwendid mewn gwirionedd yw'n hanallu i newid telerau'r berthynas, fel petai'n rhaid i i honno bob amser fod yn ddrama erchyll o ddirmyg a chynddaredd. Ni all unrhyw Gristion dderbyn y diffiniadau gwleidyddol o wendid a chryfder fel y maent ar hyn o bryd. Does neb yn galw ar i'r Cristion eiriol yn sentimental am faddeuant hawdd neu ddifaterwch moesol. Dyw hi ddim yn ddigon i adleisio rhyw ffurf o wrth-Americaniaeth arwynebol neu i ystyried erchylltra'r wythnos diwethaf yn ergyd yn erbyn y sefydliad militaraidd-diwydiannol. Mae'n ergyd yn erbyn unigolion dynol, gan ddynion euog sydd wedi cael eu twyllo. Ond yn yr un modd does gan y Cristion ddim hawl i adleisio'r galwadau am ddial. Mae'r Cristion, yn fwy na neb, i fod i wybod fod deall yn union o ble y mae cynddaredd y di-rym yn tarddu mor angenrheidiol ag aer a dwr i fyd nad yw am rwygo'i hun yn chwilfriw.
Yn olaf: y penwythnos diwethaf fe ddewisodd academydd gwrth-grefyddol amlwg ysgrifennu erthygl yn un o'r papurau 'trwm' cenedlaethol ynglyn â sut y mae crefydd yn gyffredinol ac Islam yn benodol yn creu meddylfryd hunan-laddiad ble nad yw marwolaeth yn atalfa am fod gwobrau'n cael eu haddo y tu hwnt i'r bedd, fel nad oes modd cael unrhyw sancsiynau o gyfeiriadau felly yn erbyn trais ag iddo gymhellion ideolegol. Yng nghanol y non sequiturs a'r anllythrennedd yn yr erthygl mae un dadansoddiad yn digwydd bod yn wir. Mae ffydd yn ymwneud ag ofn marw. Ond mae'n ymwneud â delio gyda marwolaeth trwy gydnabod a derbyn yn gyntaf bod y pwer sydd gennym yn gyfyngedig ('O ynfyd! Heno bydd dy enaid yn cael ei dwyn oddi wrthyt') a'i fod yn ein dwylo ni er mwyn cael ei rannu'n unig, am nad oes modd ei gadw am byth. ('Gwnewch gyfeillion i chwi'ch hunain trwy ddefnyddio drygioni Mamon') Mae'r Eglwys yn benodol yn gymdeithas o rai sydd wedi cytuno i wynebu marwolaeth gyda'i gilydd ac i rannu eu grym a'u penderfyniad a'u rhodd - ac felly i brofi bywyd gyda'i gilydd, y bywyd sy'n gymundeb gyda chymun dihysbydd Duw. Ddydd Mawrth diwethaf cefais y fraint o wybod am ryw ddwy awr beth a allai wynebu marwolaeth mewn cwmni ei olygu. Cefais fy mendithio gyda grwp o bobl o'm hamgylch y gallaf ddweud, heb orliwio, fy mod yn falch o gael profi'r foment honno. Mae'r Eglwys i fod yn gymdeithas o bobl y byddech yn falch o farw gyda nhw. Mae'n fy nharo i fod hyn yn safon i sobreiddio rhywun, ond mae'n un o'r pethau yr wyf eisiau ei adael gyda chi heddiw yn sgil profiadau'r wythnos diwethaf. Ac os yw hynny'n wir am yr Eglwys, yna, Richard Dawkins neu ddim Richard Dawkins, ffydd yw'r un tir cwbl ddi-syfl ar gyfer gwrthsefyll trais, yn union am ei fod yn ein dysgu i wynebu marwolaeth - nid am ein bod yn disgwyl yn gynhyrfus am wobrau ond wrth ollwng gafael mewn sobreiddrwydd ar ein ffantasïau yn y gobaith sicr fod Duw ffyddlon yn ein cynnal yn gadarn mewn bywyd a marwolaeth fel ei gilydd. Dyna'r gobaith sy'n caniatáu i ni adnabod grym am yr hyn ydyw a'r hyn nad ydyw: fel yr hyn sy'n cael ei roi inni ar gyfer rhyddhau'r naill a'r llall, nid er mwyn bodloni'n hawch am reolaeth. A dim os ydym yn dysgu yn y ffordd hon sut i farw ac i garu y gall unrhyw beth a ddywedwn ni gael unrhyw ddylanwad mewn byd o drais. Mae'n rhaid i ni brofi fod menter a chymod yn wir yn 'ffordd newydd fyw' - ac i ymbil gyda'r pwerus ar iddyn nhw ystyried yn lle y gorwedd gwir ddiogelwch, rhag i fagl trais ein caethiwo yn fwy terfynol eto. Mae'n foment anodd, efallai y gallwn ddeall o'r newydd pam ein bod yn gweddïo am beidio cael ein dwyn i adeg barn ac am gael ein cadw rhag drwg.

