To Church in Wales home page

The Church in Wales - Yr Eglwys yng Nghymru

Neges y Pasg 2001

'Felly carodd Duw y byd' yw'r neges a glywn adeg y Pasg. Gymaint oedd cariad Duw fel iddo anfon ei Fab i'r ddaear i fyw, dioddef a marw fel y medrid ein gollwng ni'n rhydd o euogrwydd ac o'r ofn a chasineb o'i hunan sy'n dod yn sgîl euogrwydd. Ond mae mwy; a'r 'mwy' yw'r hyn a ddylai fod yn flaenllaw yn ein meddyliau adeg y Pasg.

Cododd Iesu o'r meirw. Ac nid yw hyn yn ddiweddglo hapus neu dystiolaeth syfrdanol fod Duw wrth ei waith ym mywyd a marwolaeth Iesu. Mae'n rhan hanfodol o gariad Duw at y byd. Mae Duw'n dod â'r Iesu'n ôl i fywyd yn ei gorff - nid yn unig fel syniad ym meddyliau pobl. Mewn geiriau eraill, mae Duw yn caru'r byd sylweddol, corfforol. Pan fo Duw yn rhoi trugarhad ac achubiaeth i'r byd, mae'n eu rhoi i'r person cyflawn, nid dim ond i'r meddwl neu deimladau, ac i'r holl amgylchedd. Mae rhywbeth yn digwydd i'r holl berson ffisegol pan fo cariad Duw ar waith, ac i'r holl fyd sylweddol hefyd.

Ond mae gennym ddigon o dystiolaeth ar hyn o bryd nad ydym yn rhannu cariad Duw at y byd yn yr ystyr hwn. Yr ydym ar un lefel yn frwd iawn i fodloni ein hanghenion corfforol am ysgogiad a phleser; ond nid yw hynny yn hollol yr un peth. Rydym yn parhau â'n camdriniaeth hurt o'r amgylchedd ffisegol; roedd gwrthodiad llywodraeth newydd America i gymeradwyo'r protocolau a gytunwyd yn rhyngwladol ar gyfer gostwng cyfraddau llygredd ymhlith newyddion mwyaf digalon yr wythnosau diwethaf. A hyn ar adeg pan fo effeithiau llygredd byd-eang yn ymddangos yn amlycach flwyddyn ar ôl flwyddyn. Nid yw agwedd yr Unol Daleithiau ond yr enghraifft fwyaf eithafol o rywbeth yr ydym oll yn ymwneud ag ef i raddau mwy neu lai yn y byd cyfoethocach.

A'r gyflafan o ladd anifeiliaid a welsom yn ddiweddar - a yw hyn yn rhoi neges ein bod yn caru'n byd o'n cwmpas? Disgwyliwn y fath lefelau o gynhyrchiant, y fath gyflymder ac effeithiolrwydd diwydiannol gan ein ffermwyr fel na allwn gynefino â'r syniad fod ffermio mewn gwirionedd yn galw am fwy o amynedd, am symud yn arafach. A phan fo elw dan fygythiad, yr unig ymateb posibl fydd yn arbed strwythurau busnes ein hamaethyddiaeth yw bwtsiera ar raddfa helaeth, hyd yn oed o dda byw heb salwch marwol, hyd yn oed o anifeiliaid heb eu heintio. Gwn fod y cwestiynau yma yn gymhleth. Ond mae angen i ni fod yn gofyn sut y daethom i fod mewn sefyllfa o'r fath, i ofyn am yr archwaeth am fwyd rhad sy'n porthi'r tannau. Mae'n anghysurus o agos i'r barusrwydd traflyncus sydd wrth sail yr argyfwng amgylcheddol ehangach.

Felly meddai 'A ydym yn caru'r byd?' fod yn un pwnc y medrid ei ystyried y Pasg hwn. Nid, 'A ydym yn caru dynolryw?' yn unig, ond a oes gennym y math o gariad ar gyfer y byd ffisegol, y natur yr ydym yn rhan ohoni, y mae Duw yn ei hau wrth godi Iesu o blith y meirw? Mae'r cariad hwnnw yn sicr yn rhan o newyddion da y Pasg: mae Duw yn ein caru fel yr ydym, gorff ac enaid, yn caru ein holl fyd. Sut y medrwn wneud y newyddion da hwnnw yn realaeth i'r cyfan o'n hamgylchedd sydd dan fygythiad?

Gyda phob bendith ar gyfer y Pasg.