To Church in Wales home page

The Church in Wales - Yr Eglwys yng Nghymru

CYNHADLEDD LAMBETH 2008

Nid oedd rhai ohonom a fu yng Nghynhadledd Lambeth 1998 yn edrych ymlaen, a dweud y gwir, at Gynhadledd 2008. Er iddi gynhyrchu llawer o ddogfennau defnyddiol ar genhadaeth, undod, iawnderau dynol a phob math o bynciau eraill, fe chwalodd Cynhadledd 1998 tua’r diwedd ar fater rhywioldeb dynol. Y sesiwn lawn ar Rywioldeb Dynol oedd yr unig sesiwn lawn i wrthod derbyn adroddiad grŵp a fu’n trafod y mater am dair wythnos, mynnu newid yr adroddiad, a cholli, trwy hynny, ei gydbwysedd gofalus. Y canlyniad fu dadl ddrwg ei hwyl a chwerwodd bopeth. Mewn gwirionedd, yr oedd pwnc rhywioldeb dynol wedi bod yn ffrwtian dan yr wyneb oddi ar gychwyn Cynhadledd 1998, a dengys hynny nad dim ond cysegru Gene Robinson neu fendithio’n gyhoeddus briodasau un rhyw yng Nghanada sy’n gyfrifol am yr argyfwng presennol yn y Cymundeb. Gydol Cynhadledd ’98 bu grwpiau’n cyfarfod yn y dirgel, ar y campws a’r tu allan, i wthio eu syniadau eu hunain ar rywioldeb dynol a chynllwynio yn erbyn ei gilydd. Pan ddaeth hi’n fater o wneud penderfyniadau, roedd tanchwa’n anochel.

O’r cychwyn cyntaf yng Nghynhadledd 2008 – y bedwaredd Gynhadledd ar ddeg yn Lambeth – nid oedd yn ymddangos bod unrhyw islif peryglus yn ffrwtian dan yr wyneb. Fe wyddai pawb am gyfarfod GAFCON, y cyfarfod o ryw 200 o esgobion a oedd wedi gwrthod gwahoddiad yr Archesgob i Lambeth ac wedi cyfarfod ymlaen llaw yn Jerwsalem. Fe wyddai pawb na wahoddwyd Gene Robinson. Fe wyddai pawb fod gwahaniaeth barn ar rywioldeb dynol, ac fe wyddai pawb am y pethau a oedd wedi digwydd er 1998. Serch hynny, roedd hi’n ymddangos bod pawb yn eiddgar i drafod yn adeiladol gyda’r sawl yr oedd eu barn yn wahanol. Mae’n wir bod 200 o esgobion yn absennol, o Affrica gan fwyaf, ac un neu ddau o Loegr ac Awstralia, ond rhaid gweld hynny hefyd yn ei gyd-destun. Uganda oedd yr unig Dalaith nas cynrychiolwyd gan esgob, ac yr oedd rhai esgobion Affricanaidd wedi dod o dan bwysau mawr oddi wrth eu harchesgobion i beidio â dod, er bod ar rai ohonynt eisiau gwneud hynny. (Dengys hyn y grym sydd gan archesgobion yn rhai o Daleithiau’r Cymundeb Anglicanaidd, a pham bod rhai ohonynt yn methu deall pam nad yw’r Cymundeb cyfan yn ufuddhau i’w gorchmynion).

Roedd hi’n gymorth, wrth gwrs, na fyddai dim yn cael ei benderfynu yn y Gynhadledd hon – ni fyddai unrhyw benderfyniadau fel y bu yn y rhan fwyaf o Gynadleddau Lambeth. Dyma ddychwelyd at fwriad y Gynhadledd gyntaf, a alwyd yn 1867 gan yr Archesgob Longley i drafod a chynghori’n frawdol mewn ymateb i argyfwng a achoswyd gan Esgob Natal, a oedd yn credu mewn dehongliad anllythrennol o’r Ysgrythur. Mae’n werth cofio i nifer fawr o esgobion gadw draw o Gynhadledd 1867, gan gynnwys Archesgob Caerefrog a’r rhan fwyaf o esgobion ei Dalaith. Gwahoddwyd 151 o esgobion; dim ond 76 a ddaeth. Cadwodd Connop Thirlwall, Esgob Tyddewi, draw am fod arno ofn y byddai esgobion y trefedigaethau â chryfach pleidlais nag esgobion Eglwys Loegr, y perthynai Cymru ar y pryd iddi. Rhaid cofio hefyd, er i rai gwyno am ddiffyg penderfyniadau yng Nghynhadledd 2008, na weithredwyd erioed lawer iawn o’r penderfyniadau a basiwyd dros y can mlynedd diwethaf. Yn 1998, daethpwyd i ystyried bron yn ddiffiniad o bwy sydd, a phwy nad yw, yn Anglican un rhan yn unig o un penderfyniad, allan o 64 tudalen o benderfyniadau. Anghofiwyd am yr adrannau yn 110 yn gofyn am broses o wrando ar fater gwrywgydiaeth, yn condemnio homoffobia ac yn cyfyngu perthynas rywiol rhwng rhai gwahanrywiol i briodas – mewn oes, a bod yn onest, pan yw’r rhan fwyaf o’r rhai a ddaw i’w priodi mewn eglwysi Anglicanaidd yn byw gyda’i gilydd eisoes. Ymddengys mai’r unig beth sy’n cyfrif o Gynhadledd ’98 yw bod rheidrwydd ar i bob Talaith dderbyn pechadurusrwydd perthynas rhwng dau o’r un rhyw, fel pe bai i hynny rym cyfreithiol ac nid grym moesol yn unig.

Yn 1867 dywedodd yr Archesgob Longley am Gynhadledd Lambeth: ‘ni all wneud datganiadau na diffinio pwyntiau o Athrawiaeth’. Mewn geiriau eraill, nid Synod na Chyngor mohoni, ond gwahoddiad i drafod yn unig, a dyna’n union a ddigwyddodd eleni. O wybod na wneid unrhyw benderfyniadau, cafodd pobl gyfle a gofod i drafod yn agored ac yn onest.

Bu Cynhadledd 2008 yn un rwystredig i’r sawl a fynnai benderfyniadau pendant a gorfodol, am ei bod yn ymwneud mwy â phroses nag â chanlyniadau, ac ag ymwybod â sialensiau heb geisio eu datrys ar unwaith. Sut bynnag, rhywbeth yn perthyn i’r Gorllewin yw dadlau gelyniaethus, materion o drefn a phenderfyniadau pendant, ac y mae’n peri anfantais i lawer o’r rhai sy’n cymryd rhan.

Y peth cyntaf a gafwyd oedd encil – ond tipyn o gamenw yw encil, gan fod ynddi 650 o esgobion. Dros ddeuddydd a hanner yng Nghadeirlan Caergaint, traddododd yr Archesgob bum myfyrdod ar ddisgyblaeth esgobion, ein swyddogaeth a’r math o bobl y disgwylir inni fod. Y mae’r Archesgob Rowan ar ei orau yn hyn o beth, ac atgoffai awyrgylch Caergaint ni o gymaint sydd gennym yn gyffredin fel Anglicaniaid. Wedi inni lenwi corff yr eglwys, yn bobl o bob cenedl dan haul, aed â ni’n ôl at yr Ysgrythur. Gan nad oedd cynllun eistedd, eisteddem gyda phobl nad oeddem yn eu hadnabod, a bu hynny’n gymorth i ddod i adnabod ein gilydd. Yn ystod y toriadau gwelid esgobion o wahanol Daleithiau yn sgwrsio yn ddeuoedd a thrioedd, a chyfrannai hynny at feithrin pwrpas cyffredin, yn enwedig gan fod Clos y Gadeirlan wedi ei gyfyngu i esgobion. Bu’n gymorth hefyd fod pob un o’r Taleithiau Prydeinig wedi estyn lletygarwch i esgobion o wahanol rannau o’r byd cyn i’r Gynhadledd ddechrau.

Cerddasom mewn gorymdaith i’r gwasanaeth agoriadol ddydd Sul, nid yn ôl Talaith, ond gyda phwy bynnag y digwyddem fod gydag ef. Yr oedd yr addoliad yn amrywiol a lliwgar, mewn cadeirlan a godwyd gan fwyaf yn y bedwaredd ganrif ar ddeg ond lle bu addoli Cristnogol ers mil a phedwar cant o flynyddoedd. Canodd Côr y Gadeirlan y gosodiad godidog o’r Cymun, y Missa Luba, mewn Lladin i gyfeiliant curiadau Affricanaidd gyda drymiau a ffanfferau pres; cafwyd darlleniadau mewn Corëeg a Ffrangeg; ymbiliau mewn Hindi, Portiwgëeg a Siapaneg; dawnsiodd brodyr a chwiorydd o Ynysoedd Solomon yn y Môr Tawel i lawr yr eil yn fron-noeth mewn sgertiau gwellt, a chafwyd pregeth gan yr Esgob Duleep De Chickera o Colombo, Sri Lanka.

Arweinid y foreol a’r hwyrol weddi bob dydd gan bob Talaith yn ei thro, i adlewyrchu gwahanol litwrgïau a cherddoriaeth ac ieithoedd y Cymundeb. Ar ôl brecwast cyfarfyddai’r esgobion mewn grwpiau o wyth i astudio’r dywediadau ‘Myfi yw’ yn yr Efengyl yn ôl Ioan gyda chymorth esboniad a gawsai ei baratoi yn arbennig gan grŵp o ysgolheigion beiblaidd o bob rhan o’r byd. Unwaith eto, cymysg oedd y grwpiau. Yn fy un i yr oedd esgob cynorthwyol o Loegr, dau esgob o America, Archesgob India’r Gorllewin, Esgob Trinidad ac esgob cynorthwyol o Awstralia. Nod cyd-ddarllen yr Ysgrythur oedd ein bod yn agor ein calonnau i’n gilydd ac yn dweud ein gwahanol storïau, a dyna, yn wir, a wnaethom. Yna, deuai pob pum grŵp (40 o bobl i gyd) at ei gilydd mewn grŵp Indaba – syniad Zwlw, lle y bydd pobl yn cyfarfod nid i wneud penderfyniadau ond i ymgynghori a thrafod. Y syniad oedd cynnal trafodaethau pwrpasol lle y byddai pobl yn gwrando ar bryderon ei gilydd. O fabwysiadu syniad fel Indaba, fodd bynnag, rhaid sicrhau eich bod yn ei ddeall yn iawn, ac nid wyf yn siŵr, er cystal y grwpiau, inni wneud hynny. Buom yn ystyried swyddogaeth esgobion yn nhermau eu hunaniaeth Anglicanaidd fel efengylwyr, cyfranwyr at gyfiawnder cymdeithasol, eciwmenyddion, a’u hymwneud â materion amgylcheddol a chrefyddau eraill. Disgwylid i bob grŵp gynhyrchu syniadau am swyddogaeth esgobion yn y meysydd hyn. Yna, âi’r syniadau i Grŵp Myfyrio i’w coladu, a’u hailgyflwyno wedyn i’r esgobion mewn sesiynau llawn lle y gallent roi ystyriaeth bellach i syniadau’r grwpiau i gyd. Ar derfyn y Gynhadledd, tynnwyd ynghyd y myfyrdodau hyn ar gymhwyso esgobion at genhadu ac ar gryfhau hunaniaeth Anglicanaidd yn adroddiad terfynol am ein hamser gyda’n gilydd. Nid yw grwpiau Indaba Zwlw yn cynhyrchu adroddiadau; ni chyfyngir mohonynt gan amser na’u gorfodi i ateb cwestiynau yn erbyn y cloc. Wedi dweud hynny, fodd bynnag, yr oedd sgwrsio mewn grwpiau bychain a mawr yn ddull defnyddiol o drafod syniadau, ac o gwrdd â gwahanol esgobion o wahanol rannau o’r byd a chlywed sut yr oeddynt yn gweld eu gwaith. Unwaith eto, rhoes i bawb gyfle i siarad a gwrando.

Braidd yn arwynebol, o raid, yw’r ddogfen derfynol, Capturing Conversations and Reflections from the Lambeth Conference 2008. Yng nghynadleddau blaenorol Lambeth, byddai cynghorwyr diwinyddol yn paratoi dogfennau ymlaen llaw. Serch hynny, y mae yn yr adroddiad bethau defnyddiol am waith a swyddogaeth esgobion; mae’n gymorth, weithiau, fod pethau o’r fath i’w cael yn fyr ac yn gryno; y mae hefyd yn gofnod teg o’r trafodaethau a gafodd yr esgobion wyneb yn wyneb. Nid yr adroddiad arferol o gynhadledd mo hwn, ond yn hytrach un sy’n ceisio dal hanfod y sgyrsiau a fu rhwng yr esgobion a’i gilydd. Cynorthwyodd hyn oll ni i weld cymaint sy’n gyffredin rhyngom, y pethau sy’n ein dal ynghyd ac ehangder a chyfoeth y Cymundeb. Mae’n anodd cyfleu’r profiad i rai nad oeddynt yno, gan ei fod yn brofiad mor bersonol ond, yng ngeiriau’r adroddiad: ‘Y mae yma esgobion o’r Arctig i’r Cyhydedd, o ranbarthau mynyddig i ynysoedd y Môr Tawel, o drefi sianti i ddinasoedd cyfoethog, o esgobaethau sy’n ganrifoedd oed i rai newydd eu creu – dyna natur yr eglwys fyd-eang’. Ac ‘mewn oes pan y mae llawer yn ein cymdeithas fyd yn chwilio am yr union gymdeithas ryngwladol sydd gennym ni eisoes, byddem yn ffyliaid i adael i’r fath rodd lithro o’n dwylo’. Galluogodd y Gynhadledd hon i’r esgobion – llawer ohonynt am y tro cyntaf – brofi beth y mae’n ei olygu i fod yn perthyn i’r Cymundeb a gwerthfawrogi beth y mae’n ei olygu, yng ngeiriau’r Archesgob Rowan, i ‘arfer o’r newydd barch, amyneddgarwch a dealltwriaeth’. Dysgasom fod bod yn esgob mor wahanol yn Awstralia ac America ag y mae yn Affrica, Asia neu Brydain. Ochr yn ochr â hyn oll cafwyd sesiynau llawn a sgyrsiau ar efengylu, eciwmeniaeth a’r amgylchedd. Cafwyd hefyd gyfres o’r hyn a elwid yn ‘sesiynau hunan-ddewis’, lle y gallai esgobion ddewis pynciau megis gweithio gyda phlant neu bobl ifanc, y newid yn yr hinsawdd, dysgu o bell, dehongli’r Ysgrythur, ac felly ymlaen.

Pe bawn i’n ceisio crynhoi’r hyn a ddeilliodd o’r trafodaethau ar gymhwyso esgobion at genhadu, ni fyddai dim byd rhyfeddol i’w adrodd, ond dengys hynny ynddo’i hun y graddau o gytundeb sydd rhyngom. Dengys hefyd sut y bydd Anglicaniaid yn diwinydda (sôn am Dduw). Fe all ei bod yn rhaid wrth Gynhadledd fel hon i sylweddoli’r hyn a gymerwn mor aml yn ganiataol, sef bod yna ddull Anglicanaidd o ddiwinydda. Gadewch imi geisio crynhoi yr hyn y credaf inni ei ddweud. Duw sy’n cenhadu yw Duw, a gelwir ni i gymryd rhan yn ei genhadaeth. Felly, nid ein gweithgaredd ni yw cenhadu, ond gweithgaredd Duw ynom wrth inni gyfranogi yn symudiad cariad Duw tuag at bobl. Y mae a wnelo’r eglwys leol â gwneud disgyblion newydd ac â meithrin twf ysbrydol y disgyblion presennol. Byddwn yn ceisio gweinidogaethu i gymunedau cyfain, yr ifanc a’r hen, am mai rhan o’n treftadaeth Anglicanaidd yw gofal’n fugeiliol am bawb. Pobl ifanc yw’r mwyafrif mewn rhai Taleithiau, hen bobl mewn eraill, ond rhaid inni roi gwerth ar yr aelodau sydd gennym. Anelir yr Efengyl, fodd bynnag, at y tlawd hefyd, a’r rhai a fwriwyd i’r ymylon a’r difreintiedig. Rhaid cenhadu yng nghyd-destun diwylliant y wlad y cenhadir ynddi ac, o ganlyniad, gall yr hyn sy’n gadarnhaol a derbyniol a phriodol mewn un diwylliant fod yn negyddol a niweidiol mewn un arall ac effeithio er gwaeth ar dystio i’r Efengyl a’i chyhoeddi.

Wrth fyfyrio ar hyn, gellir gweld o’r newydd werth perthyn i Dalaith. Y mae Taleithiau’n cynorthwyo gwaith cenhadol esgobaethau trwy rannu gwybodaeth, adnoddau, polisïau, storïau, addysg a hyfforddiant. Fe’m hatgoffwyd i hefyd ein bod weithiau yn anghofio, am ein bod yn Dalaith mewn gwlad ddiogel, bwysigrwydd y Cymundeb Anglicanaidd i eraill. Y mae yna Daleithiau sy’n wynebu erledigaeth ac anghyfiawnder ac sydd o’r farn y byddai pethau’n waeth fyth arnynt oni bai eu bod yn perthyn i Gymundeb byd-eang. Y mae perthyn i’r Cymundeb Anglicanaidd yn eu diogelu rhag eithafion gwaethaf eu llywodraethau.

Wrth gwrs, y mae a wnelo cenhadaeth hefyd ag iachawdwriaeth y cread cyfan, ag adnewyddu cymdeithas dan lywodraeth Duw ac â dileu anghyfiawnder. Felly, fe ailgadarnhaodd Lambeth Amcanion Datblygu’r Mileniwm a gymeradwywyd drwy benderfyniad yn 1998. Mae’n eironig na cheryddwyd neb am beidio â bwrw ymlaen â’r amcanion hynny mor eiddgar ag y gallent dros y deng mlynedd diwethaf. Nid amcanion seciwlar yn unig mo Amcanion y Mileniwm. Fe’u seiliwyd ar sylfeini diwinyddol diogel, ar faniffesto Iesu yn y synagog yn Nasareth ar ddechrau’r Efengyl yn ôl Luc, a’i ymrwymiad i’r tlawd a’r rhai ar gyrion cymdeithas a’r gorthrymedig. Ymunodd yr esgobion â gorymdaith o blaid yr amcanion hyn yn Llundain, ac anerchwyd hwy gan y Prif Weinidog, a ddywedodd mai dyma un o’r arddangosiadau cyhoeddus mwyaf o ffydd a welodd Llundain erioed. Ni chlywais erioed araith mor angerddol gan y Prif Weinidog. Cydnabu fod tlodi heb ei ddileu o’r byd nid oherwydd diffyg adnoddau ond oherwydd diffyg ewyllys wleidyddol fyd-eang, pwnc a drafodir gan y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd ym mis Medi. Nod Amcanion Datblygu’r Mileniwm yw dileu tlodi, sicrhau addysg gynradd i bawb, hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol, gwella iechyd mamau, lleihau marwolaethau plant, ymladd yn erbyn HIV/Aids a sicrhau cynaladwyedd amgylcheddol. Ysgwn i pa mor wahanol fyddai pethau erbyn hyn pe baem ni wedi ymegnïo dros y deng mlynedd diwethaf i hyrwyddo’r amcanion hyn yn lle dadlau am rywioldeb. Fel yr atgoffodd y Prif Weinidog ni, y mae deng miliwn o blant yn marw bob blwyddyn o afiechydon y gellir eu hosgoi megis TB, polio, diptheria a malaria. Y mae 77 miliwn o blant heb ysgol i fynd iddi ac y mae 100 miliwn o bobl yn newynu.

Trof yn awr at fater hunaniaeth Anglicanaidd, ail brif bwnc y Gynhadledd. Bu hwn o dan yr wyneb o’r dechrau, ond fe’i trafodwyd yn benodol yn yr wythnos olaf, pan fu’r esgobion yn trafod awdurdod yr Ysgrythur, rhywioldeb dynol, y Cyfamod Anglicanaidd a phroses Windsor.

Crynhodd y Grŵp Myfyrio yn rhagorol yr hyn a ddywedodd y grwpiau Indaba am le’r Ysgrythur yn y Cymundeb mewn datganiad clasurol Anglicanaidd. ‘Yr Ysgrythur,’ meddai, ‘sy’n llunio ein Hathrawiaeth, ein haddoliad a’n bywyd cymunedol’. Mae’r Ysgrythur yn hanfodol, ond byddwn yn ei darllen o safbwynt rheswm, traddodiad a’n cyd-destun diwylliannol ni ein hunain, fel y bydd eraill yn ei darllen yn eu cyd-destun diwylliannol hwy. Gair tragwyddol Duw inni yw Iesu. Byddwn, felly, yn darllen a dehongli’r Ysgrythur yn ei oleuni ef. Âi’r datganiad rhagddo i ddweud bod Anglicaniaid yn anrhydeddu’r Ysgrythur fel gwaith a ysbrydolwyd ac a ddatguddiwyd gan Dduw, ond fe’n gwahoddir hefyd i ddefnyddio adnoddau deallusrwydd dynol i ddehongli’r testunau oherwydd, yn hanes Anglicaniaeth, fe anrhydeddwyd ysgolheictod beiblaidd a diwinyddiaeth esboniadol, ac fe esbonir yr Ysgrythur mewn amrywiol gyd-destunau sy’n lliwio’r modd y clywir hi. Ymhellach, ac rwy’n dyfynnu, ‘y mae Anglicaniaid yn ystyried Credo’r Apostolion a Chredo Nicea yn ddatganiadau ffyddlon a digonol o hanfodion y dystiolaeth feiblaidd a ddatguddiwyd trwy nerth yr Ysbryd Glân i ni ac i’r holl eglwys ym mhob cenhedlaeth’. Sut felly, tybed, yng ngoleuni datganiad o’r fath, y cafodd y Cymundeb ei hun yn y fath anhrefn ar bwnc rhywioldeb? Bron iawn na ellir ei gyhuddo o ddau feddwl. Wrth gwrs, fel y nododd Eglwys Canada, fe all fod rhywioldeb yn fater o athrawiaeth ond nid yw’n fater o gred, ac y mae’r datganiad hwn o Lambeth yn ategu hynny. Paham na fyddwn ni, Anglicaniaid, yn dehongli’r Ysgrythur yn llythrennol ar bynciau megis usuriaeth neu briodas ac ysgariad, i enwi dim ond dau, ond yn mynnu dehongli’n llythrennol destunau sydd yn ymwneud a gwrywgydiaeth? Mae’n anodd credu inni ein cornelu ein hunain fel hyn. Caniateir ers dyddiau’r Tadau Eglwysig ddehongliadau alegorïaidd a symbolaidd a mytholegol o bob rhan o’r Beibl, ac eithrio’r rhannau hynny sy’n ymwneud â rhywioldeb. Paham na ellir caniatáu amrywiaeth barn ar y mater hwn fel ar gynifer o faterion moesol eraill?

Yr Archesgob Rowan ei hun, mewn darlith yn Lambeth 1998 o dan y teitl ‘Making Moral Decisions’, a ddywedodd: ‘yng Nghorff Crist yr wyf mewn cymundeb â Christnogion o’r gorffennol y credaf iddynt gyfeiliorni’n ddrwg ac yn niweidiol – â’r rhai hynny a fu’n cyfiawnhau caethwasiaeth ac arteithio a dienyddio hereticiaid, ar sail yr un Beibl â’r un a ddarllenaf innau, ac a fu’n gweddïo’n fwy angerddol o bosibl nag a wnaf i byth. Sut yr wyf yn dod i ben â hynny? Gymaint haws fyddai hi pe na bai’n rhaid imi gydnabod mai dyma fy nghymuned, y bywyd yr wyf yn ei rannu, a bod y casgliadau hyn yn rhai y gellir dod iddynt yn y ffydd yr wyf yn ei dal ar y cyd â hwy. Rhaid imi beidio â bodloni ar eu condemnio. Rhaid imi sefyll gyda hwy yn fy ngweddïau fy hun, heb wybod sut, yn economi rhyfedd y Corff, y mae eu bywyd a’u meddwl hwy yn cydweithio er ein hiachawdwriaeth gyffredin. Nid wyf am un munud yn credu y gallant fod yn iawn ar faterion megis y rhai a grybwyllais. Ond rwy’n cydnabod eu bod yn gwybod beth yr oedd eu cymunedau Cristnogol diriaethol hwy eu hunain yn ei ddysgu iddynt, fel y gwn beth a ddysgais innau yn yr un ffordd ddiriaethol a phenodol. A phan fyddaf yn sefyll yng ngŵydd Duw neu wrth fwrdd yr Arglwydd, y maent yn rhan o’r cwmni yr wyf yn perthyn iddo. Mewn gwirionedd, y mae byw yng Nghorff Crist yn waith anodd dros ben. Mae ar y rhyddfrydwr cyfoes gywilydd o fod yn perthyn i gymuned yr heintiwyd ei gorffennol gan ragfarn a chreulondeb (ac yn aml fe gais buro’r hanes neu ymbellhau oddi wrtho). Mae ar y traddodiadwr cyfoes gywilydd o fod yn perthyn i gymuned y mae ei phresennol mor ddryslyd a seciwlar a rhanedig (ac y mae’n hiraethu am eglwys wedi’i hadnewyddu a’i phuro lle yr ymddengys bod rheolau clir ar sut i wneud penderfyniadau moesol)’.

Yn yr un traethawd, dywed yr Archesgob: ‘rhaid inni aros i drafod gyda’r rhai sy’n penderfynu’n wahanol. Trown mewn distawrwydd oddi wrth ein dadlau at y Crist yr ydym i gyd yn ceisio edrych arno; o bryd i’w gilydd, dywedwn y naill wrth y llall: wyt ti’n gweld hyn? Fel yna y gwelaf i Ef. A elli di ei weld hefyd? Dyna beth yw cydgyfarfyddiad eciwmenaidd. A allwn ni gael methodoleg debyg pan fyddwn yn anghytuno ar gwestiynau moesol? Y perygl, wrth gwrs, yw methu datrys dim’.

Ac fel y dangosodd y Prif Rabbi inni yn Lambeth 2008, bu Anglicaniaeth yn nodedig am ei hamrywiaeth, ei hehangder a’i graslonrwydd. Y mae, meddai, ‘wedi sefyll fel un yn fwy graslon nag unrhyw grefydd arall y gwn i amdani’. Ac aeth rhagddo i dalu teyrnged arbennig i’r ysgol Eglwys Loegr a fynychodd pan oedd yn fachgen, a oedd yn gwrthod proselytio. Mae’r anghytuno presennol yn eironig hefyd yng ngoleuni datganiad a wnaeth Lambeth 2008 am ein hymwneud â chrefyddau eraill: ‘Rhaid byw a chyflwyno Cristnogaeth fel ffordd o fyw yn hytrach nag fel set statig o gredoau, ac y mae angen addfwynder yn ein hymwneud â’n gilydd’. Os yw hynny’n wir am ein hymwneud â chrefyddau eraill, y mae’n sicr ddigon yn wir am ein hymwneud â’n gilydd oddi mewn i’r Cymundeb. Rhaid inni gofio hefyd mai un o ogoniannau Anglicaniaeth yw ein bod yn cael ein rhwymo ynghyd gan y credoau a’r fformiwlâu hanesyddol, ond nid gan gytundeb ar unrhyw ddatganiadau penodol mewn unrhyw genhedlaeth ynglyn â’r ffydd. Dyna’r gwahaniaeth rhwng perthyn i Gymundeb a pherthyn i enwad.

Beth felly a ddywedwyd am rywioldeb dynol? Bu llawer o’r sesiynau dewisol yn trafod y pwnc. Gwnaeth Archesgob Caergaint yn glir na ellid gwyrdroi penderfyniad 1998. Pe cafwyd penderfyniad ar rywioldeb, yr wyf fi fy hun yn gwbl sicr y byddai’r mwyafrif o blaid nid yn unig ailddatgan 110 ond ei gryfhau. Galluogodd y math o drafodaethau a gawsom i lawer gwahanol safbwynt gael ei wyntyllu a mynegwyd y rhain yn y papur Myfyrdodau terfynol mewn modd na fyddai’n bosibl gyda phenderfyniad. Gan ddyfynnu’r Cyngor Anglicanaidd Ymgynghorol yn 1976 ar ordeinio merched, dywed y papur: ‘fel yn y ganrif gyntaf, gallwn ddisgwyl i’r Ysbryd Glân bwyso arnom i wrando ar ein gilydd, i fynegi dirnadaethau newydd yn onest ac i dderbyn goblygiadau’r Efengyl inni o’r newydd, boed hynny’n boenus neu’n gyffrous’. Galwodd am osgoi bod yn feirniadol; pwysleisiodd ein bod oll yn dod o wahanol gefndiroedd ac inni oll, o bryd i’w gilydd, fod yn euog o drin eraill gyda dirmyg a gwawd. Dymuniad y rhan fwyaf o esgobion yw aros mewn Cymundeb a chadw lle i ddal i drafod. Ni ddylid, wrth reswm, fychanu rhwystredigaeth y rhai hynny a fynnai benderfyniad llawer mwy eglur. Daw llawer ohonynt o ddiwylliannau lle y gwedir bod gwrywgydiaeth yn bod. Ystyria’r Beibl fod gwrywgydiaeth yn bechod. Mewn llawer rhan o’r byd fe’i hystyrir yn drosedd. Nid oes amheuaeth ychwaith nad yw cysegru esgob sy’n cyd-fyw ag un arall o’r un rhyw wedi achosi gofid a dicllonedd mawr, heb sôn am godi cwestiynau ynglŷn â’r Ysgrythur a thraddodiad, llesteirio cenhadu mewn rhai rhannau o’r Cymundeb ac arwain at erlid Cristnogion mewn rhannau eraill, a’i fod hefyd, fel y dywedodd y sylwebyddion o’r Eglwys Gatholig Rufeinig wrthym, wedi amharu ar ein perthynas eciwmenaidd. Ar y llaw arall, y mae, mewn lleoedd eraill, wedi anfon neges gref am le gwrywgydwyr yn eglwys Dduw.

Beth fydd yn digwydd yn awr? Yr ateb gonest yw na ŵyr neb. Rhoddwyd i Grŵp Parhau Gwaith Windsor (tipyn o gamenw gan nad oes neb o’r Grŵp Windsor gwreiddiol arno) y dasg o ddilyn prif linynnau Adroddiad Windsor, ac yn yr hyn a eilw yn sylwadau cychwynnol mae’n galw:

   a) am ohirio bendithio priodasau un rhyw ledled y Cymundeb
   b) am ohirio cysegru esgobion sydd mewn perthynas un rhyw

a bydd yn adrodd i’r Cyngor Anglicanaidd Ymgynghorol yn 2009 ar ôl treulio llawer iawn o amser yn Lambeth yn gwrando ar bob math o safbwyntiau. Mae’r cwbl yn dibynnu, felly, ar a fydd y Taleithiau yn gweithredu’r gohiriadau hyn. Rhaid cofio bod i wahanol Daleithiau wahanol ddulliau o lywodraethu. Mewn rhai Taleithiau, nid yr esgobion yn unig fydd yn penderfynu, ond y clerigion a’r lleygion hefyd. Yn 2006 gwrthododd Cymanfa Gyffredinol Eglwys Esgobol America ganiatáu bendithio priodasau un rhyw, ond rhaid aros i weld a fydd hi’n glynu at hynny yn 2009. Gellid dadlau, wrth gwrs, ei bod eisoes yn rhy hwyr am fod yr esgobion a gyfarfu yn Jerwsalem ac anwybyddu Lambeth, er gwaethaf eu honiad nad ydynt wedi gadael y Cymundeb Anglicanaidd, wedi ffurfio, i bob pwrpas eglwys oddi mewn i’r eglwys. Y cwestiwn hanfodol yn hyn i gyd yw ai mater o ddewis ai peidio yw gwrywgydiaeth. Dylai hynny wneud gwahaniaeth i’r modd yr ystyrir ef. Deallodd Lambeth 1988 y pwynt hwn mewn modd nas deallwyd yn ’98, a galwodd am ‘gymryd ystyriaeth o ymchwil biolegol, genynnol a seicolegol a wnaed gan asiantaethau eraill’. Mewn geiriau eraill, cydnabu fod profiad a rheswm yn dylanwadu ar ein diwinydda a bod gwybodaeth o ddisgyblaethau eraill yn llywio ein meddyliau, fel yn achos materion eraill. Ar hyn o bryd, y mae rhaniad dwfn yn y Cymundeb. Fel y nododd y Grwpiau Myfyrio, i rai y ffordd ymlaen yw gwaharddiad – dim cyfreithloni na chymeradwyo unrhyw berthynas wrywgydiol – a glynu at gadernid 110. Y mae eraill am weithredu egwyddor Gamaliel. Aros i weld beth a ddigwydd. Gwrando mwy, astudio’r Ysgrythur a diwinyddiaeth a disgyblaethau eraill yn fwy gofalus, a chytuno, yn y cyfamser, i wahaniaethu .

Yn gysylltiedig â hyn oll, wrth gwrs, bu ymyrraeth rhwng Taleithiau ac esgobaethau a’i gilydd. Galwodd Grŵp Parhau Gwaith Windsor am ddiwedd ar hyn hefyd, ac ar i’r esgobaethau perthnasol yn y cyfamser dderbyn gofal nid archesgobion tramor ond Fforwm Fugeiliol. Golygai hyn y cedwid yr awdurdodau ad hoc presennol mewn ymddiriedolaeth yn barod i’w dychwelyd i’w Taleithiau priodol, nid yn annhebyg i gyfrif ysgrow lle y cedwir arian mewn ymddiriedolaeth i’w berchennog nes iddo gyflawni rhyw addewidion arbennig. Unwaith eto, y cwestiwn yw a fydd yr esgobion a’r archesgobion a fu’n ymyrryd yn barod i beidio ac a fyddant yn fodlon cymryd rhan mewn Fforwm o’r fath. Rhaid cofio bod o leiaf bump archesgob wedi ymyrryd mewn Taleithiau eraill, a bod ymyrraeth ar draws ffiniau yn tanseilio undod sefydliadol trwy greu awdurdodau sy’n cystadlu â’i gilydd ac yn beth a gondemniwyd gan Gynghorau’r Eglwys ers y canrifoedd cynnar. Bydd adroddiad terfynol y Grŵp Parhau Gwaith Windsor yn hollbwysig a bydd yn rhaid i’r Taleithiau ei ystyried yn fanwl.

Deuwn yn awr at bwnc y Cyfamod. Fe gofiwch inni drafod y drafft cyntaf, drafft Nassau, y llynedd, ac nad oeddem yn fodlon â nifer o’r manylion. Doedd Taleithiau eraill ddim yn fodlon ychwaith. Bellach, fe gynhyrchwyd ail ddrafft, Cyfamod Sant Andrew’s. Fe drafodwyd hwn yn Lambeth, a bydd yn rhaid inni, fel Talaith, ymateb yn llawn iddo erbyn mis Mawrth nesaf. A bod yn deg, y mae’n ddogfen dra gwahanol i’r un gyntaf, a bydd Grŵp Llunio’r Cyfamod yn cyfarfod ym mis Medi i’w hystyried yng ngoleuni’r holl sylwadau a wnaed arni yn Lambeth.

I ble y mae hyn i gyd yn arwain? Oherwydd y problemau a’r anawsterau a achoswyd gan ddigwyddiadau diweddar, y mae llawer, gan gynnwys Archesgob Caergaint, o’r farn na all y Cymundeb Anglicanaidd barhau fel y mae oblegid, yng ngeiriau’r Archesgob, bod ‘y gwahanol ymdrechion i roi i Anglicaniaeth ffurf newydd yn rhy gryf’. Gan hynny, meddai, ‘nid oes arnom eisiau ffederasiwn o eglwysi na chasgliad o eglwysi cenedlaethol, nac ychwaith Gymundeb wedi’i ganoli, ond yn hytrach Gymundeb y cyfyngir ar ei amrywiaeth nid gan reolaeth ganolog ond gan gydsyniad pawb – cydsyniad a seiliwyd ar gydasesiad difrifol o oblygiadau newid lleol – cydwrando a chydffrwyno er lles ein gilydd’. I’r Archesgob, ‘y mae a wnelo’r Cyfamod nid â chau allan yr hyn sy’n anodd ond â dyfnhau perthynas sydd eisoes yn bod’.

Does dim byd arbennig ynglŷn â’r syniad o Gyfamod, a bu llawer ymateb cadarnhaol iddo. Y peth anodd yw rhoi cig arno. Y mae’r ail ddrafft yn rhagorol mewn llawer modd. Mae’n sylfaenu’r Cyfamod ar y syniad beiblaidd am Gyfamod Duw â ni ac ar y gred glasurol am yr Ysgrythur, y credoau, y sacramentau a’r weinidogaeth sy’n rhwymo Anglicaniaid ynghyd. Mae’n traethu’r ymrwymiadau y mae eu hangen i hyrwyddo’r lles cyffredin, y parch y mae ei angen i hunanlywodraeth y naill y llall, ond y mae hefyd yn cydnabod cyd-ddibyniaeth bywyd y Cymundeb. Fel y dywed Adroddiad y Grŵp Myfyrio, ‘dylai fod a wnelo’r Cyfamod ag ymlawenhau mewn undod ac amrywiaeth, nid gorfodi unffurfiaeth a chydffymffurfiaeth. Dylai gadarnhau ein bywyd ar y cyd a’n gofal am ein gilydd, nid cyfyngu ar fywyd yr eglwysi’. Tua’r diwedd y daw’r anawsterau, yn y sôn am ‘fod yn barod i dderbyn oddi wrth Offerynnau’r Cymundeb gais i ddilyn llwybr arbennig pan fo anghytundeb’ a ‘phan fo eglwys yn dewis peidio ag ufuddhau i gais Offerynnau’r Cymundeb y gellir ystyried bod yr eglwys, trwy’r penderfyniad hwnnw, yn gwrthod grym ac ystyr amcan y Cyfamod hyd oni bydd yn ailsefydlu ei pherthynas Gyfamodol â’r eglwysi eraill sy’n aelodau’. Yn yr atodiad, traethir y gweithdrefnau ar gyfer hyn oll, sydd, mewn gwirionedd, yn rhoi i Offerynnau’r Cymundeb rym dros y Taleithiau – gyda’u caniatâd, wrth gwrs, am y bydd y Taleithiau wedi mabwysiadu’r Cyfamod, ond y mae’n newid natur Anglicaniaeth. Mae hefyd yn codi’r cwestiwn: beth fydd yn digwydd os gall eglwys dderbyn y Cyfamod mewn egwyddor ond nid manylion y Cyfamod penodol hwn? Y perygl yw y gallai arwain at amau ein gilydd ac adrodd am ein gilydd. Mae’r atodiad yn manylu ar bedair gweithdrefn waharddol, ac mae’r manylion hyn yn ddwy ran o dair o’r Cyfamod ei hun. Y cwbl sydd ei angen i gychwyn y broses yw i un Dalaith gwyno am un arall. Fel y dywedais, bydd Grŵp Llunio’r Cyfamod yn cynhyrchu dogfen arall yng ngoleuni’r trafodaethau a fu yn Lambeth ac fe ofynnir i bob Talaith ymateb. Mae dogfen y Grŵp Myfyrio yn gwneud yn glir y dylai fod a wnelo’r Cyfamod yn y lle cyntaf â pherthynas a chydymddibyniaeth, y dylai fod yn gytundeb gwirfoddol a fyddai’n cyfyngu ar bawb er lles pawb, ac awgrymir mai dyma’r unig ffordd y gallwn barhau i ddal perthynas â’r rhai nad oeddynt yn Lambeth. Wedi dweud hynyna, mynegwyd amheuon a phryderon mawr yn y ddogfen. Dyma rai dyfyniadau: ‘mae fel pe bai’n cosbi, yn caethiwo, yn cyfyngu, yn hytrach na hwyluso undod; gallai Offerynnau’r Cymundeb ddod yn ficro-reolwyr; gallai fod yn ddrud i’w gweithredu, a dylai fod yn ddogfen fwy hael’.

Yn y cyfamser, wrth gwrs, rhaid peidio â bychanu’r anawsterau, gan fod GAFCON wedi digwydd ac i’r gynhadledd honno fynnu ‘mai gair ysgrifenedig Duw yw’r Ysgrythur a bod ei datganiadau, felly, fel y darllenir hwy, yn anffaeledig wir’. Golyga hyn na ellir cydnabod dilysrwydd unrhyw ddarlleniadau rhyddfrydol ac, yn wir, y mae rhai Taleithiau Affricanaidd eisoes wedi ysgymuno Eglwys Esgobol America ac esgobaeth New Westminster yng Nghanada. A bwrw bod y rhai a oedd yn GAFCON yn dal i’w hystyried eu hunain yn aelodau o’r Cymundeb, syt y byddant yn defnyddio’r Cyfamod yn yr amgylchiadau hyn? Ymhellach, nid yw aelodau GAFCON yn credu mewn trafod gyda’r rhai sy’n anghytuno â hwy ar fater rhywioldeb dynol, am y gallai hynny agor y posibilrwydd bod safbwynt y gwrthwynebwyr yn gywir pan fo synnwyr clir yr Ysgrythur yn dangos, yn eu tyb hwy, nad cywir mohono. Er iddi gydnabod ‘buddiolded awdurdod tiriogaethol’, dywedodd GAFCON hefyd nad oedd hynny’n berthnasol ‘i fannau lle yr oedd eglwysi ac arweinwyr eglwysig yn gwadu’r ffydd uniongred’, a galwodd, felly, am ffurfio Talaith newydd yng ngogledd America. Mewn geiriau eraill, ceisiodd gyfiawnhau ymyrryd.

Erbyn hyn, fe all eich bod mewn cryn ddryswch. Mae’r holl beth yn aflêr dros ben, oherwydd ni ŵyr neb yn iawn i ble yr ydym yn mynd nesaf. Ond dyna natur Anglicaniaeth. Bydd yn rhaid i Grŵp Parhau Gwaith Windsor a Grŵp Llunio’r Cyfamod fyfyrio ar bopeth a glywsant a newid a diwygio eu dogfennau cyn eu cyflwyno i’r archesgobion yn gynnar yn 2009 ac i’r Cyngor Anglicanaidd Ymgynghorol ym mis Ebrill. A dyna lle y cyfyd yr anhawster arall. Pwy sydd i benderfynu dyfodol y Cymundeb? Ai Archesgob Caergaint – neu a fyddai hynny’n gosod gormod o bwysau ar ysgwyddau un dyn na fwriadwyd i’w swydd ddwyn pwysau o’r fath, er bod hoffter mawr o’r archesgob presennol? Ai’r Cyngor Anglicanaidd Ymgynghorol, y mae ansicrwydd ynglyn â’i swyddogaeth, ei faint a’i aelodaeth? Ai’r archesgobion, y mae rhai o’r farn fod ganddynt ormod o rym ac eraill o’r farn mai hwy yw’r unig rai a all wneud penderfyniadau ar ran y Cymundeb? Ai Cynhadledd Lambeth, nad yw’n cyfarfod ond unwaith bob deng mlynedd? Os felly, a ddylai gyfarfod yn amlach, a beth fyddai cost hynny?

Amdanaf fy hun, credaf i’r Gynhadledd hon ddangos inni y ffordd ymlaen. Gwir werth y Cymundeb yw dyfnhau’r berthynas rhwng pobl, creu partneriaeth rhwng esgobaethau a meithrin synnwyr o hoffter o’n gilydd.

Byddai’n dda gennyf pe gallem yn awr eistedd yn ôl a gwneud dim. Y mae ar yr esgobion a oedd yn Lambeth 2008 angen amser i adael i natur y gynhadledd honno suddo i’w hesgyrn. Weithiau yn Eglwys Dduw yr ydym ar ras i wneud penderfyniadau. Byddai’n dda inni aros a myfyrio. Yn nhyb rhai pobl, does dim pwrpas i gynhadledd heb benderfyniadau. Y sylw mwyaf synhwyrol a ddarllenais i ar hynny oedd yr un a wnaed mewn blog gan Esgob Grimsby. ‘Mae’r syniad,’ meddai, ‘na allwch gyfarfod heb bwrpas a chanlyniad yn perthyn yn llwyr i’r diwylliant cyfoes sydd dan ddylanwad economi nad yw’n gwerthfawrogi unrhyw weithgaredd nad yw’n anelu at ddiwedd y gân’. Mae’n mynd ymlaen: ‘Mi fyddwn yn anochel wedi ymwerthu i werthoedd darfodedig ein hoes os methwn ddathlu gwerth cynhenid addoli, gweddïo, astudio, ac ailymrwymiad esgobion yn eu cenhadaeth i arwain yr eglwys yn ei gwaith dros Deyrnas Dduw’.

Rwy’n synhwyro bod ar y rhan fwyaf o bobl eisiau’r Cymundeb ac eisiau gwneud iddo weithio. Os, fodd bynnag, y penderfynwn ar bethau’n rhy sydyn a cheisio gorfodi Taleithiau i benderfynu pan nad ydynt yn barod i wneud hynny, fe ddaw’r cyfan i ben mewn dagrau. Ar hyn o bryd rhaid inni fodloni ar fod heb ddod i benderfyniad. Fel y dywedodd Richard Harries, cyn-Esgob Rhydychen, ‘Y mae Duw wedi rhoi inni amrywiaeth. Pam bod yn rhaid inni bob amser wneud hynny’n fater o ymraniad?’ O fynegi’r peth yn wahanol, pam na all teulu y mae gan ei aelodau wahanol ddoniau barhau i wrando ar ei gilydd a thrafod â’i gilydd? Yng ngeiriau’r diwinydd Bill Countryman’: ‘y patrwm amlycaf o wrando ar Dduw yn yr Ysgrythur yw nid y patrwm syml o Dduw’n llefaru wrth wrandäwr tawel ond patrwm o sgwrsio, a hyd yn oed dadlau, â Duw – ystyriwch y Salmau, y Proffwydi a Job. Clywir gair Duw orau gan y sawl sy’n barod i ddadlau ag ef’. Ac felly, meddai’r diwinydd hwn, ‘ sut y gallwn wrando ar Dduw, na allwn weld mohono, a dadlau ag ef, oni fedrwn wrando ar ein brodyr a’n chwiorydd a dadlau â hwy? Yr hyn sydd ei angen yw sgwrs sy’n gwrando’n astud a gwylaidd ond sy’n datgan hefyd ei safbwynt ei hun’.Dyna a gafwyd yn Lambeth 2008, a dyna, i’m tyb i, a ddylai barhau.