To Church in Wales home page

The Church in Wales - Yr Eglwys yng Nghymru

Esgobion


Y Parchedicaf Barry Morgan,
Archesgob Cymru ac Esgob Llandaf

 

Y Parchedicaf Barry Morgan, Archesgob Cymru ac Esgob LlandafMae Barry Morgan wedi bod yn Esgob Llandaf ers 1999 ac yn Archesgob Cymru ers 2003 ar ôl gwasanaethu cyn hynny fel Esgob 1993-99.  Yn enedigol o Gastell Nedd, De Cymru fe ddarllenodd hanes yn Llundain a Diwinyddiaeth yng Nghaergrawnt, a hyfforddodd ar gyfer y weinidogaeth yn Wescott House, Caergrawnt. Astudiodd am ddoethuriaeth pan oedd yn ddarlithydd prifysgol. Bu’n gweithio mewn ystod o gyd-destunau gweinidogaethol - mewn gweinidogaeth plwyf, fel darlithydd prifysgol a choleg diwinyddol a chaplan prifysgol, ac fel archddiacon, cyfarwyddwr ordinandiaid a swyddog addysg weinidogaethol barhaus. Mae wedi gwasanaethu ar Bwyllgor Canolog Cyngor Eglwysi’r Byd, ac yn gwasanaethu ar Bwyllgor Sefydlog Archesgobion y Cymundeb Anglicanaidd. Roedd yn aelod o Gomisiwn Lambeth a gynhyrchodd Adroddiad Windsor 2004. Mae wedi cyhoeddi nifer o erthyglau a llyfrau; y diweddaraf o’r rheini oedd astudiaeth o waith y bardd R. S. Thomas ‘Strangely Orthodox’.  Mae hefyd ar hyn o bryd yn Bro-Ganghellor Prifysgol Cymru, cymrawd  Prifysgolion Caerdydd, UWIC, Bangor a Llanbedr Pont Steffan a Llywydd y Ganolfan Gymreig Materion Rhyngwladol, ac mae newydd gadeirio ymchwiliad ar ran Shelter Cymru ar ddigartrefedd yng Nghymru. Mae’n mwynhau chwarae golff a darllen nofelau yn ei oriau hamdden.

Y Gwir Barchedig John Stewart Davies, Esgob Llanelwy

 

pic of Bishop John DaviesCafodd yr Esgob John ei eni a’i fagu yn Esgobaeth Llanelwy. Mae ganddo gefndir mewn Newyddiaduraeth, a bu’n gweithio yn y cyswllt hwnnw yn Affrica am gyfnod. Mae ganddo radd o Brifysgol Cymru Bangor a gradd ymchwil o Brifysgol Caergrawnt lle bu’n aelod o Goleg y Frenhines. Dilynodd hyfforddiant diwinyddol pellach ar gyfer y weinidogaeth yn Nhŷ Westcott, Caergrawnt. Fe’i hordeiniwyd yn ddiacon yn 1974, yn offeiriad yn 1975 a daeth yn esgob yn 1999. Yn ystod ei weinidogaeth mae wedi gweithio mewn amrywiaeth eang o blwyfi yn cynnwys Penarlâg, Rhosymedre, Yr Wyddgrug a Llandyrnog. Bu’n diwtor yn Llyfrgell Sant Deiniol. Mae ganddo ymrwymiad gweithgar i ddatblygu sgiliau a dysgu eraill a bu’n Warden Esgobaethol Ordinandau, Cyfarwyddwr cwrs hyfforddi’r Weinidogaeth a Chadeirydd y Panel Dethol Taleithiol. Gwasanaethodd yr Esgob John fel canon y gadeirlan a bu’n archddiacon Llanelwy rhwng 1991-1999. Ers ei gysegru yn Esgob mae wedi cyfrannu’n helaeth at waith cyfathrebu yn yr Eglwys yng Nghymru, ac mae’n gyfrifol ar hyn o bryd am addysg ac ysgolion yr eglwys. Mae’r Esgob John wedi cyfrannu at gyfres ‘Awake to the Word’ yr astudiaeth gymrodoriaeth darllen y Beibl ac wedi cyfrannu pennod ar Ethnigrwydd ac Amrywiaeth i’r cyhoeddiad ‘Changing Rural Life’ a gyhoeddwyd gan y Canterbury Press yn ddiweddar.

Mae John a’i wraig Joan yn byw yn Llanelwy. Mae ganddynt ddau fab ac wrth eu bodd i fod yn daid a nain i ddwy eneth fach.

Y Gwir Barchedig Dominic Walker OGS, Esgob Mynwy

 

Y Gwir Barchedig Dominic Walker OGS
Esgob MynwyGanwyd yr Esgob Dominic ar 28ain Mehefin 1948 yn Plymouth, Dyfnaint, ei fam yn Gymraes a’i dad yn Sais. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Plymouth, Coleg y Brenin, Llundain (AKC), Coleg Heythrop, Llundain (MA) a Phrifysgol Caerdydd (LL.M). Mae ganddo Ddoethuriaeth anrhydeddus (D.Litt) o Brifysgol Brighton ac mae’n llywodraethwr Prifysgol Cymru, Casnewydd.

Mae’n perthyn i Oratori y Bugail Da ac ef oedd yr Uchel Dad o 1990-96. Cafodd ei ordeinio yng Nghadeirlan Southwark - fel diacon ac offeiriad yn 1972 ac esgob yn  1997. Gwasanaethodd fel caplan i Esgob Southwark ac yna fel offeiriad plwyf yn yr Elephant & Castle, Llundain ac yn Brighton; fel Ficer Brighton roedd yn Rheithor Tîm ac yn Ddeon Gwlad. Ar 1Mai 1997 cafodd ei gysegru’n Esgob Rhanbarth Reading nes iddo ddod yn Esgob Mynwy ym Mawrth 2003. Ef yw ‘esgob gweinidogaeth’ yr Eglwys yng Nghymru.

Mae gan yr Esgob Dominic ddiddordeb yn y weinyddiaeth iachâd a gwaredigaeth, lles anifeiliaid (mae’n Is Lywydd i’r RSPCA) a’r bywyd cysegredig.

Y Gwir Barchedig John Davies,
Esgob Abertawe ac Aberhonddu

 

Rt Rev John Davies, Bishop of Swansea and BreconGanwyd yr Esgob John yng Nghasnewydd yn 1953. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Basaleg, a graddiodd yn y gyfraith ym Mhrifysgol Southampton yn 1974. O Southampton aeth i Goleg y Gyfraith yng Nghaer a chafodd ei dderbyn fel cyfreithiwr yn 1977, gan arbenigo mewn cyfraith droseddol.

Gadawodd yr Esgob John y gyfraith i fynd i’r weinidogaeth a chafodd ei ordeinio yn 1984. Gwasanaethodd mewn amrywiaeth o blwyfi yn Esgobaeth Mynwy cyn cael ei benodi’n Ddeon Aberhonddu. Mewn wyth mlynedd yn y rôl honno, goruchwyliodd welliannau sylweddol i ffabrig a litwrgaeth y Gadeirlan. Cafodd ei ethol yn nawfed Esgob Abertawe ac Aberhonddu yn 2008.

Mae’r Esgob John wedi cadw diddordeb brwd mewn materion troseddu a chosb, gyda chonsyrn neilltuol am natur troseddolrwydd ac effeithiau safonau cymdeithasol ac addysgol gwael ar y rhai sy’n dod yn ystadegau troseddau. Ar ôl gwasanaethu fel cadeirydd ymddiriedolwyr hosbis fawr yng Nghas-gwent, mae ganddo hefyd gonsyrn dwfn am ddarpariaeth gyfiawn gofal iechyd.

Yn gyn aelod o gôr eglwysig, organydd ac arweinydd côr, mae gan yr Esgob John ddiddordeb angerddol mewn cerddoriaeth eglwysig, gan ei ystyried yn rhan bwysig o addoli.

Mae hefyd yn mwynhau edrych ar griced a rygbi, chwarae golff, coginio a cherdded. Mae’n briod â Jo, Uwch Nyrs Staff Gofal Dwys yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd ac mae ganddynt ddau o blant, Kate a Christopher.

Y Gwir Barchedig David Yeoman,

Esgob Cynorthwyol Llandaf

pic of Bishop David YeomanGanwyd David Yeoman ym Mhontypridd yn 1944, ond ym mhentref Tonyrefail y cafodd ei fagu. Ar ôl gadael yr ysgol, treuliodd dair blynedd yn gweithio yn adran Addysg Cyngor Sir Morgannwg fel yr oedd ar y pryd. Graddiodd mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru Caerdydd ac ennill ei Ph.D. yn yr un Brifysgol, yn 2004, y flwyddyn y’i hordeiniwyd yn Esgob. Mae’n gwasanaethu ar hyn o bryd fel Esgob Cynorthwyol Esgobaeth Llandaf.

Treuliodd yr Esgob David ei holl weinidogaeth yn Esgobaeth Llandaf, a chafodd ei ordeinio’n Ddiacon yn 1970 ac yn Offeiriad yn 1971. Bu’n gweini fel ciwrad ym mhlwyfi Canol Caerdydd a Chaerffili a chafodd ei benodi i berigloriaethau yng nghymoedd Rhondda a Chynon, cyn dod yn Rheithor Pen-y-bont ar Ogwr yn 1996. Drwy gydol ei flynyddoedd mewn gweinidogaeth Plwyfi, bu hefyd yn gaplan mewn amrywiaeth o ysbytai ac mae’n cadw ei ddiddordeb cryf yn agweddau ysbrydol iechyd ac iachau a gofal bugeiliol i gleifion.

Yn ystod ei weinidogaeth yn Llandaf, mae wedi gwasanaethu fel Swyddog Plant, Tiwtor mewn Eiddo Eglwysig ar y Cwrs Gweinidogaeth Anghyflogedig a Swyddog Addysg Gweinidogaethol Parhaol. Rhwng 1995 a 1999, ymwelodd nifer o weithiau â De Affrica a Lesotho, gan addysgu a chynorthwyo clerigwyr a gweithwyr yr Eglwys i ddatblygu mwy o ymwybyddiaeth o’r llu o faterion bugeiliol sy’n ymwneud ag AIDS a’u helpu i ddatblygu eu hadnoddau i ddelio â hynny. Mae’n gydawdur llyfr ar HIV/AIDS ac wedi cyfrannu at lyfr at rywioldeb a’r ysbrydol a gyhoeddwyd gan Wasg Academaidd Caerdydd.

Mae’i ei ddiddordebau yn cynnwys darllen, opera, y rhan fwyaf o agweddau o’r theatr, a ffotograffiaeth. Mae ganddo ddiddordeb brwd iawn mewn criced, rygbi, pêl-droed a thenis, ac wedi chwarae pob un ohonynt ar lefel gystadleuol. Mae’n briod gyda dau o blant a dau o wyrion ac wrth ei fodd yn medru treulio amser gyda hwy.