To Church in Wales home page

The Church in Wales - Yr Eglwys yng Nghymru

Crynodeb

Mae’r dudalen hon yn darparu rhywfaint o wybodaeth ar fod yn aelod o Gorff Cynrychiolwyr Yr Eglwys yng Nghymru.

Gwybodaeth Gysylltiedig

Gweithgareddau, hanes a statws cyfreithiol Corff y Cynrychiolwyr

Cyswllt

Am ragor o wybodaeth am waith Corff y Cynrychiolwyr yn cefnogi’r Eglwys yng Nghymru, cysylltwch â Julian Luke

Aelodaeth Corff y Cynrychiolwyr:  Gwybodaeth Gefndir

Aelodaeth:            

Mae aelodaeth Corff y Cynrychiolwyr yn cynnwys:

  1. Cadeirydd Bwrdd Cyllid Esgobaethol pob esgobaeth;
  2. Cadeirydd Pwyllgor Sefydlog y Corff Llywodraethol;
  3. Yr Archesgob;
  4. Un clerig wedi ei ethol gan Gynhadledd Esgobaethol pob esgobaeth;
  5. Un person lleyg wedi ei ethol gan Gynhadledd Esgobaethol pob esgobaeth;
  6. Hyd at bedwar aelod wedi eu henwebu gan Fainc yr Esgobion mewn ymgynghoriad â’r Pwyllgor Sefydlog;
  7. Hyd at ddau aelod wedi eu cyfethol gan aelodau eraill Corff y Cynrychiolwyr.

Cymwysterau ar gyfer bod yn aelod:      

Y mae’r canlynol yn gymwys:            

Unrhyw glerig sy’n dal neu wedi dal bywoliaeth neu swydd eglwysig yn Yr Eglwys yng Nghymru neu drwydded oddi wrth un o Esgobion Cadeiriol Cymru.

Unrhyw Gymunwr Lleyg sydd dros ddeunaw mlwydd oed a heb fod yn hŷn na phymtheg a thrigain mlwydd oed sydd –

  1. naill ai yn byw, neu wedi byw ar unrhyw adeg am gyfnod o ddeuddeng mis, mewn plwyf sydd yng Nghymru; neu
  2. wedi bod yn gyfrannwr i goffrau’r Eglwys yng Nghymru o fewn 12 mis i’w enwebu ar gyfer aelodaeth;
  3. heb fod yn perthyn i unrhyw gorff crefyddol nad yw mewn cymundeb â’r Eglwys yng Nghymru.

Ni fydd unrhyw glerig na pherson lleyg sy’n weithiwr cyflogedig llawn amser i Gorff y Cynrychiolwyr, na Bwrdd Cyllid Esgobaeth nac unrhyw gorff taleithiol neu esgobaethol arall o’r fath yn Yr Eglwys yng Nghymru yn gymwys i fod yn aelod o Gorff y Cynrychiolwyr, nac ychwaith am y deuddeng mis cyntaf wedi iddo ymadael â’r swydd honno.

Ymrwymiad:      

Mae aelodau yn gwasanaethu yn y lle cyntaf am gyfnod o dair blynedd wedi iddynt gael eu hethol neu eu cyfethol. Mae disgwyl y bydd tri chyfarfod o Gorff y Cynrychiolwyr bob blwyddyn. Ar y cyfan y mae disgwyl hefyd i aelodau fod yn aelodau o un o bwyllgorau Corff y Cynrychiolwyr (a mynychu rhwng dau a phedwar cyfarfod arall yn flynyddol). Bydd y cyfarfodydd yn digwydd gan amlaf yng Nghaerdydd, a rhai yn  Amwythig.

Arbenigedd:

Nid oes anghenion ffurfiol ar wahân i’r cymwysterau aelodaeth a nodir uchod, ond yng ngoleuni cwmpas gweithgareddau Corff y Cynrychiolwyr byddai rhywfaint o arbenigedd yn un neu ragor o’r meysydd canlynol o fudd:

  1. Buddsoddiadau a bancio;
  2. Archwilio a chyfrifyddiaeth;
  3. Eiddo (adeiladau preswyl ac adeiladau eglwysig);
  4. Adnoddau dynol.

Treuliau:

Darperir lluniaeth yn ystod cyfarfodydd lle bo hynny’n addas, ac ad-delir unrhyw dreuliau teithio rhesymol.