Corff Llywodraethol yr eglwys yng nghymru
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Llandbedr Pont Steffan, ar Ddydd Mercher a Dydd Iau 21 a 22 Medi 11.
Agenda - Diwrnod 1
Cinio 12:15
Meeting commences at 13:30
- Gweddïau a Darlleniad o’r Beibl 13:30
- Tystir bod Mandat y Llywydd wedi’i weithredu’n gywir.
- Cofnodion y Cyfarfod Cyffredin o’r Corff Llywodraethol a gynhaliwyd ar 27 a 28 Ebrill 2011
- Materion yn codi o’r Cofnodion (os bydd rhai)
- Croesawu Cynrychiolwyr Cytûn ac eglwysi eraill
- Anerchiad y Llywydd
- Adroddiad y Pwyllgor Sefydlog
-
Cynigir argymhellion y Pwyllgor a draethir ar derfyn yr Adroddiad.
- Adroddiad Corff y Cynrychiolwyr yn cynnwys y Cyfrifon am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2010
- (i) Cymeradwyo Adroddiad Corff y Cynrychiolwyr
- (ii) Newid darpariaethau’r Cynllun Pensiwn Clerigion i ddarparu y seilir hawliau pensiwn partner sifil i glerig a fydd yn goroesi’r clerig ar gyfnod gwasanaeth cyflawn y clerig.
Cynnig:
- Aelodaeth a Chyllid
-
Cynnig: Bod y Corff Llywodraethol yn cymryd sylw o’r Adroddiad.
- Cyflwyniad ar Israel/Palestina gan yr Esgob Richard Llewellin
-
Yr Eglwys yng Nghymru yn 2020 –
Adrodd yn ôl ar Drafodaethau Grŵp Cyfarfod Mis Ebrill
Swper 1830
Hwyrol Weddi (Capel) 2000
Diwrnod 2
Gweinyddu'r Cymun Bendigaid (Capel) 0730
Brecwast 0800 - 0900
Business recommences at 0930
- Comisiynydd Cymru, y Comisiwn ar Gydraddoldeb a Hawliau
Dynol Cyflwyniad gan Ann Beynon OBE - Cynrychiolaeth Merched yn y Eglwys
Other documents to download (Saesneg):
Suggested action plan for implementation - Appendix 1
Gender Representation of Provincial Committees table 2008-2011 - Appendix 2 (Excel .xls)
Gender Representation - Diocesan Data 2008-2011 - Appendix 3 (Excel .xls)
Response of St Michael's College - Appendix 4
Clergy Gender Balance table 2008-2011 - Appendix 5
Church in Wales Equal Opportunities Policy - Appendix 6
-
Cynnig: Cynrychiolaeth Merched yn yr Eglwys:
- cadarnhau lle a gweinidogaeth merched a dynion ym mywyd yr Eglwys ar sail cydraddoldeb urddas a pharch, ac yn dathlu’r doniau a’r talentau y mae Duw yn eu tywallt yn gymesur ar wryw a benyw yn ôl ei amcan da ei hun;
- croesawu’r cynnydd sylweddol tuag at weithredu argymhellion Adroddiad y Gweithgor ar Gynrychiolaeth Merched yn yr Eglwys yng Nghymru, 2008;
- diolch i bawb yn y Dalaith, yr esgobaethau, y deoniaethau a’r plwyfi sy’n gweithio’n galed at sicrhau, cynrychiolaeth a chyfraniad i ferched ym mywyd yr Eglwys yng Nghymru;
- gofyn i’r esgobaethau a Grŵp Strategaeth Galw i Weinidogaeth y Dalaith edrych unwaith eto ar ffyrdd o annog mwy o geisiadau oddi wrth ferched am gael eu hordeinio i’r weinidogaeth;
- gofyn i’r Pwyllgor Sefydlog barhau i fonitro gweithredu argymhellion yr Adroddiad ac adrodd yn ôl eto i’r Corff Llywodraethol yn 2014.
- Gweinidogaeth a Phobl ag Anghenion Ychwanegol
-
Cynnig: Bod y Corff Llywodraethol yn:
- croesawu Adroddiad y Gweithgor o dan y pennawd ‘Gweinidogaeth a Phobl ag Anableddau ac Anghenion Ychwanegol’;
- cymeradwyo’r argymhellion sydd yn yr Adroddiad ac yn arbennig y Datganiad o Ymrwymiad yn Atodiad 5;
- cymeradwyo’r plwyfi hynny sydd eisoes wedi cymryd camre i alluogi pobl sydd ag anableddau ac anghenion ychwanegol i gyfranogi’n llawn ym mywyd yr Eglwys;
- annog pob plwyf i adeiladu ar y gwaith a wnaed eisoes i ddatblygu gweinidogaeth i bobl ag anableddau ac anghenion ychwanegol mewn Eglwys wir gynhwysol;
- gwahodd y Pwyllgor Sefydlog i adolygu gweithredu argymhellion y Gweithgor ac i adrodd yn ôl i’r Corff Llywodraethol yn 2014.
- Materion Eciwmenaidd yng Nghymru – Cyflwyniad
- Adroddiad Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
-
Cynnig: Derbyn Adroddiad Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
- Amser Cwestiynau
- Adroddiad Blynyddol y Gymdeithas Gweddwon, Plant Amddifaid a Dibynyddion
-
Cynnig: Bod y Corff Llywodraethol yn cymryd sylw o’r Adroddiad.
- Adroddiad y Gronfa Genhadaeth Dramor
-
Cynnig: Bod y Corff Llywodraethol yn cymryd sylw o’r Adroddiad.
- Dyddiad a Lleoliad y Cyfarfod Nesaf
-
Penderfynodd y Corff Llywodraethol y cynhelir y Cyfarfod Cyffredin nesaf ar 18 ac 19 Ebrill 2012 yn Venue Cymru, Llandudno.

