CORFF LLYWODRAETHOL YR EGLWYS YNG NGHYMRU
Yn Neuadd y Celfyddydau, Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan, ar Ddydd Mercher a Dydd Iau 17 a 18 Medi 2008
Agenda - Day 1
Cinio 12:30
- Gweddïau a Darlleniad o’r Beibl 14:00
- Hysbysu bod Mandat y Llywydd wedi ei iawn weithredu
- Cofnodion y Cyfarfod Cyffredin o’r Corff Llywodraethol a gynhaliwyd ar 2 a 3 Ebrill 2008
- Materion yn codi (os bydd rhai)
- Croesawu Cynrychiolwyr Cytûn ac eglwysi eraill
- Anerchiad y Llywydd
- Adroddiad y Pwyllgor Sefydlog
- Cynigir argymhellion y Pwyllgor a geir ar ddiwedd yr Adroddiad.
- Colegau Ethol
Cynnig: Bod y Corff Llywodraethol:- iyn nodi’r Adroddiad parthed amseru’r Colegau Ethol i lenwi esgobaethau gweigion Tyddewi a Bangor;
- yn penderfynu, yn unol ag Adran 26 Pennod VIII y Cyfansoddiad, llenwi’r swyddi gwag gan:-
- y Coleg Ethol a gychwynnodd ar 1 Medi 2008 parthed Esgobaeth Tyddewi; a’r
- b) Coleg Ethol a fydd yn cychwyn ar 7 Hydref 2008 parthed Esgobaeth Bangor, ac wedi hynny os bydd angen, yn unol â’r ddywededig Adran 26 Pennod VIII.
- Adroddiad Corff y Cynrychiolwyr, gan gynnwys y Cyfrifon am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2007
Cynigion:- Cymeradwyo Adroddiad Corff y Cynrychiolwyr. Y Comisiwn Cadeirlannau ac Eglwysi
- Newid Rheolau’r Comisiwn Cadeirlannau ac Eglwysi i roi mewn grym y cynigion a geir yn nodyn y Corff Llywodraethol ar ‘Y Comisiwn Cadeirlannau ac Eglwysi’.
Yn unol ag is-adran (2) Adran 35 Pennod 11 y Cyfansoddiad, bod amodau’r cynnig hwn yn dod i rym ar unwaith.
Cronfeydd Eglwysi Diangen
- (iii) Newid y Rheoliadau ar ddefnyddio’r derbyniadau a geir o werthu eglwysi, lleoliadau eglwysi a mynwentydd i roi mewn grym yr argymhellion a geir yn nodyn Corff y Cynrychiolwyr ar ‘Gronfeydd Eglwysi Diangen’.
Yn unol ag is-adran (2) Adran 35 Pennod 11 y Cyfansoddiad, bod amodau’r cynnig hwn yn dod i rym ar unwaith.
-
Adroddiad Gweithgor y Pwyllgor Sefydlog ar Gynrychioliaeth Merched yn yr Eglwys yng Nghymru
Cynnig: Bod y Corff Llywodraethol yn:- derbyn ac yn croesawu Adroddiad y Gweithgor ar Gynrychiolaeth Merched yn yr Eglwys yng Nghymru ac yn cymeradwyo’r argymhellion sydd ynddo;
- cymeradwyo’r Adroddiad i’r Dalaith, yr esgobaethau, y deoniaethau a’r plwyfi i’w ddarllen a gweithredu arno;
- gofyn i’r Pwyllgor Sefydlog drosglwyddo argymhellion yr Adroddiad i’r cyrff priodol i weithredu arnynt;
- gofyn i’r Pwyllgor Sefydlog adrodd yn ôl o fewn 3 blynedd ar y symud ymlaen a fu i weithredu’r argymhellion.
-
Adroddiad Aelodaeth a Chyllid
Cynnig:- Bod y Corff Llywodraethol yn cymryd sylw o’r Adroddiad hwn.
- Amser Cwestiynau
Cinio 18:30
Hwyrol Weddi (Capel) 20:00
Gweithdy Materion Corff y Cynrychiolwyr c. 21:00
Dydd 2
Boreol Weddi (Capel) 07:15
Gweinyddiad o’r Cymun Bendigaid (Capel) 07:30
Brecwast 08:00-09:00
- Adroddiad Cynhadledd Lambeth 09:30
- Cyflwyniad gan Fyddin yr Eglwys
- Ymgynghoriad Arolwg Addysg yr Eglwys yng Nghymru
Cynnig:- Bod y Corff Llywodraethol yn cymryd sylw o’r datblygiadau yn Arolwg Addysg yr Eglwys yng Nghymru, yn cymryd rhan yn y broses o ymgynghori cyn cyhoeddi’r Adroddiad yn 2009, ac yn cefnogi’r broses honno.
- Adroddiad Coleg y Drindod, Caerfyrddin
Cynnig:- Bod y Corff Llywodraethol yn cymryd sylw o’r Adroddiad hwn.
- Arweinlyfr Gwyrdd y Plwyf
Cynnig: Bod y Corff Llywodraethol yn:- yn cefnogi’r broses a amlinellir yn y nodyn, ‘Materion Gwyrdd ac Arweinlyfr Gwyrdd y Plwyf’, fel dull o wella perfformiad amgylcheddol yr Eglwys;
- yn rhoi ei gefnogaeth i Arweinlyfr Gwyrdd y Plwyf ac yn cymeradwyo ei ddefnyddio yn y Plwyfi.
- Gwasanaethau Amgen a Gynigiwyd ar gyfer Angladdau
Cynnig:- Yn unol ag Adran 1 y Canon a gyhoeddwyd ar 29 Medi 1955 i ganiatáu defnyddio’n arbrofol ddiwygiadau a gynigiwyd i’r Llyfr Gweddi Gyffredin ac a gymeradwywyd yn amodol gan Fainc yr Esgobion, bod y Corff Llywodraethol yn cydsynio trwy hyn i ddefnyddio’n arbrofol am gyfnod heb fod yn fwy na deng mlynedd y Gwasanaethau Amgen a Gynigiwyd ar gyfer Angladdau yn yr Eglwys yng Nghymru (argraffwyd Awst 2008)
- Arolwg o Lysoedd yr Eglwys yng Nghymru
Cynnig: Bod y Corff Llywodraethol:- yn cymryd sylw o’r cynigion gan Mr Gerard Elias CF a Mr Andrew Keyser CF a gynhwysir yn yr adroddiad
- yn croesawu’r symleiddio a gynigiwyd ar strwythur llysoedd yr Eglwys yng Nghymru;
- yn gwahodd y Pwyllgor Sefydlog i gynnig Bil i weithredu’r cynigion sydd yn yr adroddiad ar yr un pryd ag y cynigir Bil i weithredu’r cynigion parthed Amodau Gwaith Clerigion.
- Adroddiad Amodau Gwaith Clerigion
Cynnig: Bod y Corff Llywodraethol:- yn cymryd sylw o’r adroddiad, ‘Arolwg o Amodau Gwaith Clerigion – Hydref 2008’;
- yn cymeradwyo:
- y Canllawiau Drafft ar Ymddygiad Proffesiynol Clerigion a’r Datganiad Drafft o Amodau Gwaith Penodiadau Clerigol; a hefyd
- y cynigion newydd parthed Polisi a Gweithdrefnau Disgyblu;
- yn gwahodd y Gweithgor i ymgynghori yn eang â chlerigion yr Eglwys yng Nghymru ar y cynigion ar Bolisi a Gweithdrefnau Disgyblu;
- yn yn gwahodd y Pwyllgor Sefydlog i gynnig Bil i weithredu’r holl argymhellion ar ‘Ddaliadaeth Gyffredin’.
- Cynigion gan Aelodau Preifat
Bydd y Dr Peter Padley yn cynnig a Mr Nigel King yn eilio’r cynnig:
-
Bod y Corff Llywodraethol yn gwahodd ei holl aelodau i gyflwyno rhestr o hyd at bum gwaith* a fu o werth arbennig iddynt yn eu bywyd ysbrydol.
(*Cymerir y Beibl yn ganiataol).
-
- Y newyddion diweddaraf ar Brosiect Deintyddol Gasa
- Adroddiad Cronfa’r Genhadaeth Dramor
Cynnig:- Bod y Corff Llywodraethol yn cymryd sylw o’r Adroddiad hwn.
- Adroddiad Blynyddol y Gymdeithas Gweddwon, Amddifaid a Dibynyddion
Cynnig:- Bod y Corff Llywodraethol yn cymryd sylw o’r Adroddiad hwn.
- Dyddiad a Lleoliad y Cyfarfod Nesaf
- Y mae’r Corff Llywodraethol wedi penderfynu cynnal y Cyfarfod Cyffredin nesaf ar 21 a 22 Ebrill 2009 yn Venue Cymru, Llandudno.

