To Church in Wales home page

The Church in Wales - Yr Eglwys yng Nghymru

Tudalen hafan y Corff llywodraethol

 

Mae pob dogfen i’w lawrlwytho yn ddogfennau MS Word o 200k neu lai.

CORFF LLYWODRAETHOL YR EGLWYS YNG NGHYMRU

Yn Neuadd y Celfyddydau, Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan, ar Ddydd Mawrth a Dydd Mercher 18 a 19 Medi 2007.

 

Agenda - Dydd 1

CINIO o 12.30

  1. 14.00 Gweddïau a Darlleniadau o’r Beibl
  2. Hysbysir fod Gorchymyn y Llywydd wedi ei weithredu’n briodol.
  3. Cofnodion y Cyfarfod Cyffredin o’r Corff Llywodraethol a gynhaliwyd ar 11 a 12 Ebrill 2007
  4. Materion yn codi o’r Cofnodion (os bydd rhai)
  5. Croesawu Cynrychiolwyr Cytûn ac eglwysi eraill
  6. Adroddiad y Pwyllgor Sefydlog

    • Cynigir argymhellion y Pwyllgor a draethir ar derfyn yr Adroddiad.
  7. Adroddiad ar Goleg Mihangel Sant, Llandaf

    Cynnig Fod y Corff Llywodraethol:
    1. yn cymeradwyo argymhelliad Mainc yr Esgobion i gadw a datblygu Coleg Mihangel Sant yn sefydliad hyfforddi ar gyfer Yr Eglwys yng Nghymru;
    2. yn cydnabod fod gan Goleg Mihangel Sant ran i’w   chwarae mewn hyfforddi rhai o Daleithiau Anglicanaidd eraill, ac mewn gweithio gyda’n partneriaid eciwmenaidd; 
    3. yn gwahodd Corff y Cynrychiolwyr i ddarparu cefnogaeth ariannol i’r Coleg yn seiliedig ar y cynigion yn adroddiad Mainc yr Esgobion i’r Corff Llywodraethol tra gweithredir y Cynllun Datblygu ac i gyd-weithio â’r Coleg i ddod o hyd i’r ffordd fwyaf effeithiol o wneud hynny.
  8. Y Cymundeb Anglicanaidd – cyflwyniad byr gan yr Archesgob, y mae ef am roi iddo’r pennawd “NID Araith y Llywydd”

    Cynnig Fod y Corff Llywodraethol:
    1. yn nodi’r broses sydd ar y gweill i gynllunio cyfamod ar gyfer y Cymundeb Anglicanaidd, ac na ddaw’r broses honno i ben nes bydd prosesau synodaidd taleithiau’r Cymundeb wedi ystyried y testun terfynol; ac
    2. yn gwahodd Mainc yr Esgobion i gwblhau ymateb i ddrafft Grŵp Cynllun y Cyfamod i’w gyflwyno i Swyddfa’r Cymundeb Anglicanaidd cyn diwedd y flwyddyn.
  9. Amser Cwestiynau

    Cwestiynau

  10. Hwyrol Weddi (Capel, 17.45)

    Cinio 18.30

  11. Gweithdai 20.00
    1. Cyfrifon Corff y Cynrychiolwyr
    2. Amodau Gwaith Clerigion
    3. Cyfansoddiad
    4. y Cymundeb Anglicanaidd

Dydd 2

  1. Gweinyddu’r Cymun Bendigaid (Capel) 07.30

    Brecwast 08.00-09.00

  2. 09.30 Adroddiad Corff y Cynrychiolwyr, yn cynnwys y Cyfrifon am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2006 (PDF, 720k)

    Cynigion:
    • Fod Adroddiad Corff y Cynrychiolwyr yn cael ei gymeradwyo. 
    •  Fod Pennod X y Cyfansoddiad yn cael ei newid i ddarparu at gredydu’r incwm clir o renti persondai mewn esgobaeth i Gyfrif Bwrdd Persondai yr Esgobaeth honno.
  3. Adroddiad Aelodaeth a Chyllid

    Cynnig:

    • Fod y Corff Llywodraethol yn cymryd sylw o’r Adroddiad hwn.
  4. Adroddiad Coleg y Drindod, Caerfyrddin

    Cynnig:
    • Fod Adroddiad Coleg y Drindod, Caerfyrddin, yn cael ei dderbyn.
  5. Trefn Arbrofol Gweinidogaeth i Gleifion a’r Rhai sy’n Gaeth i’w Cartrefi

    ffurf y Drefn

    Cynnig:

    • Yn unol ag Adran I y Canon a gyhoeddwyd ar 29 Medi 1955 i ganiatáu defnyddio’n arbrofol adolygiadau arfaethedig o’r Llyfr Gweddi Gyffredin a gymeradwywyd yn amodol gan Fainc yr Esgobion, fod y Corff Llywodraethol yn cydsynio trwy hyn i Drefn y Weinidogaeth i Gleifion a’r Rhai sy’n Gaeth i’w Cartrefi gael ei defnyddio’n arbrofol am gyfnod heb fod yn fwy na deng mlynedd.
  6. Adroddiad Gweithgor y Cyfansoddiad

    Cynnig: Fod y Corff Llywodraethol yn croesawu Adroddiad Gweithgor y Cyfansoddiad, ac yn derbyn:

    1. Yr egwyddor o rannu’r rhan fwyaf o benodau yn brif destun
      a rheoliadau, a fformat cyffredinol y cynllun drafft, yn
      enwedig:
      • cynnwys y rheoliadau yn syth ar ôl testun pob pennod,
        a’r 
      • gwahaniaeth rhifo rhwng darpariaethau’r prif destun a rhai’r rheoliadau.
    2. Y drefn ar gyfer gwneud Rheoliadau a’u diwygio.
    3. Grwpio cynnwys.
    4. Y cynnig fod y Bil a fydd yn cynhyrchu’r Cyfansoddiad diwygiedig yn cynnwys cynigion a fydd yn lleihau’r gofynion am weithdrefn bil yn y dyfodol.
  7. Adroddiad Blynyddol Cymdeithas y Gweddwon, Plant Amddifaid a Dibynyddion

    Cynnig:

    •         Fod y Corff Llywodraethol yn cymryd sylw o’r Adroddiad hwn.

  8. Cyflwyniad gan Ysgol Uwchradd Wrecsam
  9. Dyddiad a Lle y Cyfarfod Nesaf
    • Penderfynodd y Corff Llywodraethol fod y Cyfarfod Cyffredin nesaf i’w gynnal ar 2 a 3 Ebrill 2008 ym Mhrifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan.