Aelodaeth y Corff Llywodraethol – Gwybodaeth Gefndir
Swyddogaeth
Y Corff Llywodraethol sy’n gyfrifol am benderfyniadau sy’n effeithio ar Ffydd, Trefn ac Addoliad yr Eglwys. Mae ganddo hefyd y grym i greu “deddfau a rheolau ar gyfer rheoli’r Eglwys yn gyffredinol a’i llywodraethu’n dda, ac ar gyfer ei heiddo a’i negesau, at ddibenion rheolaeth a llywodraeth dda’r Eglwys.” (o Bennod II Adran 33 Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru).
Y Corff Llywodraethol yw Corff Deddfu goruchaf Yr Eglwys yng Nghymru - yn fras, felly, ‘Senedd’ Yr Eglwys yng Nghymru.
Cymhwyster
Bydd y canlynol yn gymwys i’w hethol:
Pob clerig sydd yn dal neu wedi dal -
- anrhydedd,
- penodiad cadeiriol,
- bywoliaeth neu swydd yn Yr Eglwys yng Nghymru,
- trwydded oddi wrth un o Esgobion Cadeiriol Cymru
Pob Cymunwr Lleyg sydd dros ddeunaw mlwydd oed a heb fod yn hŷn na phymtheg a thrigain mlwydd oed sydd -
- naill ai yn byw, neu wedi byw ar unrhyw adeg am gyfnod o ddeuddeng mis, mewn plwyf sydd yng Nghymru
- nad yw’n perthyn i unrhyw gorff crefyddol nad yw mewn cymundeb â’r Eglwys yng Nghymru,
- neu sydd â’i enw ar rôl etholwyr unrhyw blwyf yng Nghymru.
Ni fydd unrhyw glerig na pherson lleyg sy’n weithiwr cyflogedig i Gorff y Cynrychiolwyr nac i Fwrdd Cyllid Esgobaeth nac i unrhyw gorff taleithiol neu esgobaethol arall o’r fath yn Yr Eglwys yng Nghymru yn gymwys i fod yn aelod o’r Corff Llywodraethol, nac o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor ohono, nac ychwaith am y deuddeng mis cyntaf wedi iddo ymadael â’r swydd honno.
Ymrwymiad
Mae aelodau yn gwasanaethu yn y lle cyntaf am gyfnod o dair blynedd wedi iddynt gael eu hethol neu eu cyfethol.
Rhaid i’r Corff Llywodraethol gyfarfod unwaith y flwyddyn, ond yn ymarferol mae’n cyfarfod ddwywaith y flwyddyn. Mae’r cyfarfodydd fel arfer yn para oddeutu pedair awr ar hugain, o amser cinio ar y diwrnod cyntaf tan brynhawn yr ail ddiwrnod. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf cynhaliwyd y cyfarfodydd yn Llanbedr Pont Steffan ac Aberystwyth. Os etholir aelod i’r Pwyllgor Sefydlog, mae hwnnw’n cwrdd hyd at dair gwaith y flwyddyn, naill ai yng Nghaerdydd neu pan fo aelodau eisoes wedi ymgynnull at ddiben arall.
Arbenigedd
Mae trafodion y Corff Llywodraethol yn ymwneud â rhychwant eang o faterion sy’n cwmpasu llywodraeth yr Eglwys, litwrgi ac athrawiaeth, a materion o gonsýrn cymdeithasol. O’r herwydd mae ar y Corff Llywodraethol angen aelodau a chanddynt ystod eang o ddiddordebau. Er mwyn i’r Corff Llywodraethol adlewyrchu barn yr Eglwys yn ei chrynswth, mae’n bwysig fod yr aelodau yn adlewyrchu barn eglwysi lleol, yn ogystal ag adrodd yn ôl iddynt am waith y Corff Llywodraethol.
Treuliau
Darperir llety a lluniaeth yn ystod cyfarfodydd ac ad-delir unrhyw dreuliau teithio rhesymol.
Am ragor o wybodaeth ar unrhyw agwedd o’r Corff Llywodraethol, cysylltwch â John Richfield neu John Shirley trwy ffonio (029) 20 348200 neu e-bostio: johnrichfield@churchinwales.org.uk

