CORFF LLYWODRAETHOL YR EGLWYS YNG NGHYMRU
Yn Venue Cymru, Llandudno, ar Ddydd Mawrth a Dydd Mercher 21 a 22 Ebrill 2009.
Agenda - Dydd 1
Gweinyddiad o’r Cymun Bendigaid (Eglwys y Drindod Sanctaidd, Llandudno) at 09:30
Coffi 11:00
- Tystir bod Mandat y Llywydd wedi ei weithredu’n gywir. 11:30
- Cofnodion y Cyfarfod Cyffredin o’r Corff Llywodraethol a gynhaliwyd ar 17 ac 18 Medi 2008
- Materion yn codi o’r Cofnodion (os oes rhai)
- Croesawu cynrychiolwyr o Cytûn ac o eglwysi eraill.
- Anerchiad y Llywydd
- Adroddiad y Pwyllgor Sefydlog
Cynigir argymhellion y Pwyllgor a draethir ar derfyn yr Adroddiad.
- Y Cyfamod Anglicanaidd
Cynnig: Bod y Corff Llywodraethol:
- yn cymryd sylw o ymateb yr Eglwys yng Nghymru i Ddrafft Sant Andreas ynglyn â’r Cyfamod Anglicanaidd.
Cinio 13:00 - 14:00
- Adroddiad a Phleidlais ar y Foreol a’r Hwyrol Weddi
DS: Ni wneir y cynnig a ganlyn ond os gofyn un esgob cadeiriol neu unrhyw ddeg aelod arall am hynny)
Cynnig: Bod y Corff Llywodraethol yn pwyllgora:
- Cyfnod o bwyllgora
- Adroddiad a Phleidlais
- Cyflwyniad Pobl Ifainc dan 25 oed Esgobaeth Llanelwy
- Plant a Rhianta: Strategaeth at y Dyfodol (Cyflwyniad Cyfrifoldeb Cymdeithasol)
- Cyflwyniad ar Brosiectau ‘Gwreiddiau’ Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon
- Cronfa Jiwbilî yr Eglwys yng Nghymru
Cynnig: Bod y Corff Llywodraethol:
- yn cydymdeimlo â Chyngor Eglwysi’r Dwyrain Agos a phobl ardal Shija’ia yn Gasa ar ddinistrio eu Canolfan Iechyd Teulu gan daflegryn Israelaidd ar 10 Ionawr 2009;
- yn cymeradwyo gwaith Cronfa Jiwbilî yr Eglwys yng Nghymru yn cefnogi Cyngor Eglwysi’r Dwyrain Agos i ailadeiladu’r Ganolfan Iechyd Teulu a’i hailgyflenwi â meddyginiaethau a chyfarpar i’r fferyllfa a’r clinig deintyddol symudol;
- yn gofyn i blwyfi godi arian at y Gronfa a’i gwaith mewn partneriaeth â Chyngor Eglwysi’r Dwyrain Agos yn Gasa, yn enwedig trwy gyfrwng ‘Bore Coffi Mwyaf Cymru’ ar 2 Mai, a digwyddiadau eraill.
- Cynnig Aelodau Preifat
Bydd yr Hybarch Malcolm Squires, Archddiacon Wrecsam yn cynnig a’r Parchedig Ganon Jonathan Williams yn eilio:
Bod y Corff Llywodraethol:- yn nodi, o ganlyniad i Fesur Priodasau Eglwys Loegr 2008, bod y cymwysterau sy’n rhoi hawl i briodi mewn eglwys yn yr Eglwys yng Nghymru yn awr yn wahanol i’r rhai sydd mewn grym yn Eglwys Loegr, a bod hyn yn debygol o greu tensiynau yn enwedig, ond nid yn unig, mewn ardaloedd sy’n agos at y ffin; a
- chan nodi y bydd angen Deddf Seneddol i newid y gyfraith yn yr Eglwys yng Nghymru i gyfateb i’r hyn sy’n digwydd yn Lloegr, yn gofyn i’r Pwyllgor Sefydlog gymryd y camre angenrheidiol i annog deddfu felly.
- Amser Cwestiynau
Gosber Corawl (Eglwys Sant Paul, Llanrhos) 18:00
Cinio 19:15
Gweithdy: Menter 2 20:30
Agenda - Dydd 2
Boreol Weddi (Eglwys y Drindod Sanctaidd, Llandudno) 07:15
Gweinyddiad o’r Cymun Bendigaid (Eglwys y Drindod Sanctaidd,
Llandudno) 07:30
- Gweddïau a Darlleniad o’r Beibl 10:00
- Comisiynydd Plant Cymru – Anerchiad
- Cyflwyniad ar Brosiectau Undeb y Mamau yng Nghymru
- Cyflwyniad ar Gronfa Archesgob Cymru er budd Plant
- Plant, Pobl Ifainc a’r Teulu
Cynnig: Bod y Corff Llywodraethol:- yn diolch yn gynnes i bawb yr oedd a wnelont â’r
cyflwyniadau ar:
- waith Esgobaeth Llanelwy gyda rhai dan 25 oed
- gwaith swyddogion cyfrifoldeb cymdeithasol ar faterion yn ymwneud â phlant a rhianta
- prosiectau ‘Gwreiddiau’ Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon
- gwaith y Comisiynydd Plant
- gwaith Undeb y Mamau yn Nghymru
- Cronfa Archesgob Cymru er budd Plant
- yn cymeradwyo gwaith y prosiectau a’r mudiadau hyn a’u cyfraniad at gefnogi plant, pobl ifainc a theuluoedd ledled Cymru.
- yn diolch yn gynnes i bawb yr oedd a wnelont â’r
cyflwyniadau ar:
- Sul ‘Yn ôl i’r Eglwys’
- Archfarchnadoedd a Ffermio ym Mhrydain
Cynnig: Bod y Corff Llywodraethol:
- yn croesawu’r Adroddiad Fairtrade begins at Home – Supermarkets and the effect on British farming livelihood fel cyfraniad gwerthfawr at ddeall y cyd-destun economaidd a masnachol presennol o safbwynt cynhyrchwyr a phrynwyr bwyd;
- yn cymeradwyo’r Adroddiad i bawb sydd â gofal bugeiliol am gymunedau amaethyddol yng Nghymru i’w astudio a gweithredu arno pan fo hynny’n addas;
- yn gofyn i fuddsoddwyr yr Eglwys gymryd sylw o’r Adroddiad a defnyddio hynny o ddylanwad sydd ganddynt fel cyfranddalwyr i sicrhau cyfiawnder i gymunedau gwledig.
- Adroddiad Coleg Mihangel Sant, Llandaf
Cynnig:- Derbyn Adroddiad Coleg Mihangel Sant, Llandaf
- Dyddiad a Lleoliad y Cyfarfod Nesaf
- Penderfynodd y Corff Llywodraethol y cynhelir y Cyfarfod Cyffredin nesaf ar 16 ac 17 Medi 2009 ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan.

