To Church in Wales home page

The Church in Wales - Yr Eglwys yng Nghymru

Tudalen hafan y Corff llywodraethol

 

Mae pob dogfen i’w lawrlwytho yn ddogfennau MS Word o 200k neu lai.

CORFF LLYWODRAETHOL YR EGLWYS YNG NGHYMRU

Ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe, ar Ddydd Mercher a Dydd Iau 11 a 12 Ebrill 2007.

 

Agenda - Dydd 1

Cinio o 12.30

  1. Gweddïau a darllen y Beibl
  2. Tystiolaeth fod gorchymyn y Llywydd wedi ei hysbysu
  3. Cofnodion Cyfarfod Arferol y Corff Llywodraethol a gynhaliwyd 20
    a 21 Medi 2006
  4. Materion yn codi o’r Cofnodion (os oes rhai)
  5. Croeso i Gynrychiolwyr Cytûn ac eglwysi eraill
  6. Anerchiad y Llywydd
  7. Adroddiad y Pwyllgor Sefydlog
    • Cynigir argymhellion y Pwyllgor a osodir allan ar ddiwedd yr Adroddiad.
  8. Costau Hyfforddi  – Adroddiad o Gorff y Cynrychiolwyr
    • Cynnig: Fod y Corff Llywodraethol yn cymeradwyo’r argymhellion a wneir yn yr Adroddiad o Gorff y Cynrychiolwyr o dan y pennawd ‘Cyfrifoldeb am Gostau Hyfforddi at y Weinidogaeth’.
  9. Amser Cwestiynau
  10. Gwefan Yr Eglwys yng Nghymru
  11. Adolygiad Addysg Yr Eglwys yng Nghymru
    • Papur eglurhaol
    • Cynnig: Fod Y Corff Llywodraethol yn croesawu Adolygiad Addysg Yr Eglwys yng Nghymru ac yn annog yr Eglwys i gymryd rhan yn yr Adolygiad
  12. Cynllun Iaith Gymraeg
    • Cynllun Iaith Gymraeg
    • Cynnig: Fod y Corff Llywodraethol yn cymeradwyo Cynllun Iaith Gymraeg Ebrill 2007
  13. Hwyrol Weddi (Theatr Ddarlithio Faraday, 18.00)

Cinio 18.30

 

Dydd 2

  1. Boreol Weddi (Ystafell Fwyta Uchaf Tŷ Fulton) 07.15
  2. Gweinyddiad o’r Cymun Bendigaid (Ystafell Fwyta Uchaf Tŷ Fulton) 07.30

    Brecwast 08.00-09.00

  3. Cyflwyniad gan Esgobaeth Mynwy 09.30
  4. Clinig Deintyddol yn Gaza - Adroddiad
  5. Ordeinio Menywod yn Esgobion
  6. Deddf Llywodraethu Cymru – Goblygiadau i’r Eglwys
  7. Adroddiad Coleg Mihangel Sant, Llandaf
    • Cynnig: Fod Adroddiad Coleg Mihangel Sant, Llandaf, yn cael ei dderbyn.
  8. Cynnig gan Aelod Preifat
    • Bydd Mrs Terrie Smith yn cynnig a’r Parchedig Jonathan Williams yn eilio:
      Fod y Corff Llywodraethol yn tynnu sylw’r Eglwys yng Nghymru at yr erlid sydd ar Gristnogion mewn rhai gwledydd ac yn gwneud plwyfi yn fwy ymwybodol o waith mudiadau sy’n ceisio cefnogi’r rhai a erlidir felly.

  9. Dyddiad a Lleoliad y Cyfarfod Nesaf
    • Penderfynodd y Corff Llywodraethol gynnal ei Gyfarfod Arferol nesaf ar 19 a 20 Medi 2007 ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan.