To Church in Wales home page

The Church in Wales - Yr Eglwys yng Nghymru

Defnyddio RSS gyda gwasanaethau ar-lein eraill fel Bloglines

Fel y nodwyd uchod, mae nifer o wasanaethau ar-lein rhad ac am ddim sy’n eich galluogi i gadw trefn ar borthiant RSS, yn cynnwys newsalloy.com a Google Reader. Byddwn yn defnyddio bloglines.com ar gyfer yr enghraifft hon, ond nid yw hyn yn golygu ein bod yn ei argymell. Cafodd pob cynnyrch ei gynllunio gyda phwyslais ychydig yn wahanol. Anogwn chwi i arbrofi a chanfod pa un sy’n gweithio orau i chwi.

  1. Ewch i bloglines.com a chofrestru fel defnyddiwr drwy glicio’r tag “register” ar gornel dde uchaf y dudalen. Mae hyn yn broses debyg iawn i gofrestru am wasanaethau ar-lein eraill.

    bloglines.com webpage
  2. Porwch i’r dudalen sydd â’r porthiant RSS yr ydych am danysgrifio iddo a chlicio ar y botwm “RSS” oren ar y dudalen honno. (Yn achos Y Beibl yr Wythnos Hon, cliciwch ar y geiriad "Entries (RSS)" ar waelod y dudalen.)
    RSS logo at top of news/events columnrss link at bottom of bible this week blog

    Darllenwch hyn os ydych yn defnyddio Firefox. Os ydych yn defnyddio Internet Explorer, ewch i bwynt 6.
  3. Gall defnyddwyr Firefox ddewis Bloglines i danysgrifio i’r porthiant, a chlicio ar y botwm "Subscribe Now".

    firefox subscribe to feed menu
  4. Bydd Bloglines yn awr yn cynnig rhai dewisiadau sut i danysgrifio i’r porthiant. Medrwch newid rhai ohonynt, ond y cyfan sy’n rhaid i chwi ei wneud i danysgrifio i’r porthiant yw pwyso’r botwm “Subscribe” ar waelod y ffurflen.
  5. Bydd y porthiant yn awr i’w weld yn eich cyfrif Bloglines, a bob tro y dychwelwch i’ch tudalen Bloglines, gallwch weld a ychwanegwyd eitemau newydd i’r porthiant. Mae rhai pobl yn dewis Bloglines fel eu tudalen gartref, fel y gallant weld unrhyw eitemau newydd pan fyddant yn cychwyn eu porwr.

    feed in bloglines
  6. Mae angen i ddefnyddwyr Internet Explorer gopïo’r  URL  neu’r cyfeiriad ar dop y dudalen (goleubwyntiwch y geiriad gyda’r llygoden, degolwch a dewis “Copy”).

    copying URL text
  7. Dychwelwch i’r dudalen Bloglines, llofnodi i mewn os na wnaethoch hynny eisoes, a dewis “Add” o gornel chwith uchaf y sgrin (fel y dangosir isod).
    bloglines front page screenshot
  8. Yn y blwch sy’n ymddangos gyda label "Blog or Feed URL", gludwch (de-glicio "Paste") y cyfeiriad yr ydych newydd ei gopïo, a chlicio "subscribe".

    Blog or Feed URL box in bloglines
  9. Bydd y porthiant yn awr i’w weld yn eich cyfrif Bloglines, a phob tro y dychwelwch i’r tudalen Bloglines, gallwch weld a ychwanegwyd eitemau newydd i’r porthiant. Mae rhai pobl yn dewis Bloglines fel eu tudalen gartref, fel y gallant weld unrhyw eitemau newydd pan fyddant yn cychwyn eu porwr.

    feed in bloglines