defnyddio rss gyda Internet explorer 7.0
Os na wyddoch pa fersiwn o Internet Explorer sydd gennych, ewch i’r ddewislen Help (ar dop eich sgrin, neu efallai drwy’r symbol bach >> yn y gornel dde uchaf) a dewis "About Internet Explorer". Os nad yw fersiwn 7 gennych, medrwch fynd i http://www.microsoft.com/ a’i lawrlwytho am ddim (cyn belled â bod gennych gopi dilys o Windows XP/Vista).
- Os oes porthiant RSS ar gael ar dudalen, bydd yn ymddangos fel icon yn y bar offer ar dop y dudalen (fel y dangosir). Cliciwch ar yr icon i danysgrifio i’r porthiant hwn.

- Byddwch wedyn yn gweld cynnwys y porthiant. Os medrwch danysgrifio i’r porthiant hwn, bydd blwch melyn ar dop y sgrin a dewis i “Subscribe to this feed” (fel y dangosir). Cliciwch ar yr opsiwn “Subscribe to this feed”.

- Byddwch wedyn yn gweld blwch fel yr un a ddangosir islaw. Medrwch newid enw’r porthiant os nad yw’n disgrifio’r cynnwys yn ddigon clir, a medrwch greu ffolderi newydd i drefnu eich porthiant. Ar hyn o bryd, awgrymwn mai’r cyfan sydd angen ichwi ei wneud yw clicio “Subscribe” ar y gwaelod.

- Dyna ni. Yr ydych yn awr wedi tanysgrifio i borthiant RSS. Pryd bynnag y bydd arnoch eisiau gwirio’r porthiant RSS, cliciwch ar y Seren Felen (fel arfer yng nghornel chwith uchaf eich sgrin) a dewis y botwm “Porthiant” fel y dangosir yn y siot sgrin. Os ydych yn rhedeg eich llygoden dros y porthiant, bydd yn dweud wrthych faint o weithiau y diweddarwyd ef ers y tro diwethaf i chwi edrych, a medrwch glicio ar y porthiant i’w weld.


