To Church in Wales home page

The Church in Wales - Yr Eglwys yng Nghymru

defnyddio rss gyda Firefox 2.0

Os nad wyddoch a yw fersiwn 2.0 Firefox gennych, ewch i Help > Am Mozilla Firefox. Medrir lawrlwytho Firefox yn rhad ac am ddim www.mozilla.com

  1. Os oes porthiant RSS ar gael ar dudalen, fel arfer bydd Firefox yn dangos logo oren RSS ar ddiwedd y bar cyfeiriad, fel yn y darlun.

    firefox address bar
  2. Os cliciwch ar hwn, fe gewch ffenestr fel hon:

    add live bookmark dialogue box
  3. Yma medrwch newid enw’r porthiant, neu drefnu eich porthiant yn ffolderi (awgrym: daliwch i bwyso’r saeth fechan ar y dde os ydych am wneud hyn). Ar hyn o bryd, dim ond pwyso “OK” sydd raid.
  4. Dyna fe. Medrwch yn awr fynd i “Bookmarks” ar dop y dudalen, ac ym mha bynnag ffolder (“Bookmarks Toolbar” yn ein henghraifft uchod) y cadwasoch eich porthiant, gallwch weld teitlau’r porthiant diweddaraf, a’u dewis drwy glicio ar y teitlau.

    bookmarks folder in firefox