Sut i Gyfarch Clerig
Mae llawer o bobl yn ansicr sut y dylent gyfarch clerig, a bwriad y canllaw hwn yw estyn cymorth. Dylid nodi, fodd bynnag, fod llawer yn dibynnu ar yr amgylchiadau neu’r lleoliad, a hefyd ar ddewis personol y clerig ei hun. Os oes amheuaeth, y peth gorau yw gofyn i’r clerig dan sylw.
Mewn sgwrs
Er mai teitl arferol clerigion yw "Y Parchedig", nid yw’n arferol cyfeirio atynt fel hyn mewn sgwrs. Bydd rhai yn eu cyfarch fel "Ficer" neu "Reithor", ond dim ond pan fydd y person y maent yn ei gyfarch yn ficer neu reithor y plwyf lle maent yn byw. Fel arall, defnyddir Mr/Mrs/Miss/Ms Jones. Mae rhai clerigwyr yn defnyddio’r teitl 'Y Tad', ac mewn achosion o’r fath gall fod yn addas eu cyfarch fel 'Y Tad David' neu 'Y Tad Jones'.
Wrth gyfeirio at glerig yn y trydydd person (fel yn "roedd x yn dweud wrthyf y dydd o’r blaen"), gellir defnyddio "Y Parchedig AB Jones" mewn cyd-destun ffurfiol – ond dim ond wrth gyfeirio y tro cyntaf at y person hwnnw; wedi hynny, defnyddir Mr/Mrs/Miss/Ms Jones.
Ysgrifennu llythyr
Wrth ysgrifennu llythyr at glerig, dylid ei gyfeirio at "Y Parchedig AB Jones", ond y cyfarchiad fydd "Annwyl Mr/Mrs/Miss/Ms Jones".
Weithiau cwtogir "Y Parchedig AB Jones" i "Y Parchg. AB Jones". Noder nad oes angen treiglo llythyren gyntaf y teitl os yw’r clerig yn fenyw.
Teitlau academaidd
Os yw clerig yn dal doethuriaeth, dylid ei gyfarch fel "Y Dr AB Jones", yn hytrach na Mr/Mrs/Miss/Ms AB Jones, a dylid cyfeirio llythyr at "Y Parchedig Ddr AB Jones".
Eithriadau
Yr eithriad i’r rheolau hyn yw pan fo clerig yn dal swydd arall. Dylid bod yn ymwybodol o bedwar achos: Esgobion ac Archesgobion, Archddiaconiaid, Deoniaid Cadeirlannau, a Chanoniaid.
Esgobion
Mae’n bosibl mai dyma’r eithriad mwyaf adnabyddus. Wrth gyfeirio llythyr neu greu rhestrau swyddogol, dylid cyfeirio at Esgobion fel "Y Gwir Barchedig Esgob + enw’r esgobaeth" (pan fo’r esgob yn ei swydd), neu Y Gwir Barchedig J.Jones (pan fo’r esgob wedi ymddeol). Y cyfarchiad mewn llythyr yw "Annwyl Esgob".
Mewn sgwrs, "Esgob" yw’r dull arferol o gyfarch Esgobion, ond weithiau, ar achlysuron ffurfiol fe ddefnyddir "F’Arglwydd".
Wrth gyfeirio at esgob yn y trydydd person, gellir defnyddio "Esgob + enw’r Esgobaeth" (e.e. "Esgob Bangor") neu "Yr Esgob + enw " (e.e. "Yr Esgob John", neu "Yr Esgob Edwards") wrth wneud y cyfeiriad cyntaf; wedi hynny, defnyddir "yr Esgob".
Os yw’r Esgob dan sylw wedi ymddeol neu os yw’n Esgob Cynorthwyol, ni ddefnyddir "F’Arglwydd", a chyfeirir ato fel "yr Esgob".
Archesgobion
Wrth ysgrifennu llythyr neu greu rhestrau swyddogol, dylid cyfeirio at Archesgob fel "Y Parchedicaf". Y cyfarchiad mewn llythyr fydd "Annwyl Archesgob".
Mewn sgwrs, y cyfarchiad arferol yw "Archesgob", ond ar achlysuron ffurfiol gellir hefyd ddefnyddio "Eich Gras".
Yn y trydydd person, gellir defnyddio "Archesgob Cymru" wrth wneud y cyfeiriad cyntaf; wedi hynny, defnyddir "yr Archesgob".
Archddiaconiaid
Wrth ysgrifennu llythyr neu greu rhestrau swyddogol, dylid cyfeirio at Archddiacon fel "Yr Hybarch". Y cyfarchiad mewn llythyr fydd "Annwyl Archddiacon".
Mewn sgwrs, y cyfarchiad arferol yw "Archddiacon", ond ar achlysuron ffurfiol gellir defnyddio "Mr Archddiacon".
Yn y trydydd person, gellir defnyddio "Archddiacon + enw’r Archddiaconiaeth" (e.e. "Archddiacon Ceredigion") neu "Yr Archddiacon + enw" (e.e. "Yr Archddiacon John", neu "Yr Archddiacon Edwards") wrth wneud y cyfeiriad cyntaf; wedi hynny, defnyddir "yr Archddiacon".
Deoniaid Cadeirlannau
Wrth ysgrifennu llythyr neu greu rhestrau swyddogol, dylid cyfeirio at Ddeon Cadeirlan fel "Y Tra Pharchedig". Y cyfarchiad mewn llythyr fydd "Annwyl Ddeon".
Mewn sgwrs, y cyfarchiad arferol yw "Deon", ond ar achlysuron ffurfiol gellir defnyddio "Mr Deon".
Yn y trydydd person, gellir defnyddio "Deon + enw’r Ddeoniaeth" (e.e. "Deon Mynwy") neu "Y Deon + enw" (e.e. "Y Deon John", neu "Y Deon Edwards") wrth wneud y cyfeiriad cyntaf; wedi hynny, defnyddir "y Deon".
Canoniaid
Wrth ysgrifennu llythyr neu greu rhestrau swyddogol, cyfeirir at Ganon fel "Y Parchedig Ganon AB Jones". Y cyfarchiad mewn llythyr fydd "Annwyl Ganon".
Mewn sgwrs, y cyfarchiad arferol yw "Canon"; yn y trydydd person cyfeirir at "Y Canon + enw" (e.e. "Y Canon John", neu "Y Canon Edwards").
Eithriadau pellach
Clerigion â theitlau
Os yw clerig yn dal teitl, yr arfer yw lleoli’r teitl (os crybwyllir ef o gwbl) ar ôl y teitl eglwysig, e.e. Y Parchedig Syr Alan Jones Bt. Y mae nifer o eithriadau i’r rheol hon – er enghraifft, ni fyddai clerig, fel rheol, yn derbyn urdd marchog oni bai iddo ei dderbyn cyn iddo gael ei ordeinio. Am fanylion pellach, gweler Crockfords Clerical Directory (sydd i’w gael yn y rhan fwyaf o lyfrgelloedd ymchwil).
Clerigion sydd hefyd yn aelodau o Urddau Crefyddol
Wrth ysgrifennu llythyr neu greu rhestrau swyddogol, cyfeirir at glerigion sy’n aelodau o urdd grefyddol fel "Y Parchedig AB Jones XYZ", neu, o bosibl, "Y Parchedig Frawd Alan/Chwaer Alys XYZ".
Mewn sgwrs, gellir eu cyfarch fel "Y Brawd Alan" neu "Y Chwaer Alys", neu "Y Tad Alan", neu "Y Tad Jones". Weithiau defnyddir y term "Y Tad" gan glerigion eraill nad ydynt yn aelodau o urdd grefyddol.

