Pregeth y Ficer

Dyma bregeth y Ficer ar gyfer y Chweched Sul wedi'r Drindod

Job 42.1-6

Beth yw’r peth mwyaf rhyfeddol, fwyaf syfrdanol, rydych chi wedi ei weld gyda’ch llygaid eich hunain erioed? Efallai eich bod chi wedi bod i’r Aifft ac wedi gweld y Pyramidiau, neu wedi bod i America a gweld y Grand Canyon. Ar wahan i bethau fel hyn, mae pethau rhyfeddol yn digwydd yn ein bywydau beunyddiol: Pethau fel geni plentyn neu driniaeth sydd wedi achub eich bywyd neu rywbeth yn syml yn myd natur sydd y tu hwnt ein galluog ni fel lliwau blodau. Y pwynt yw hyn, rhywbryd, rhywffordd, rhywle, dyn ni i gyd wedi profi pethau mor ryfeddol, mor syfrdanol, maen nhw’n anodd i ni ddisgrifio yn iawn.

 

Ar ddiwedd Llyfr Job, mae Duw yn gofyn i Job rhai o gwestiynau am bethau rhyfeddol a syfrdanol yn ein byd ni. ‘A fedri di fynd at ffynhonnell y môr, neu gerdded yng nghuddfa’r dyfnder?...A fuost ti yn ystordai’r eira, neu’n gweld cistiau’r cesair?’ Does dim ateb i bethau fel hyn gyda Job, a mae Job yn rhoi ei ateb i gwestiynau Duw yn ein llith heddiw o Lyfr Job pennond pedwar deg dau, pennod olaf y llyfr: ‘Myfi a glywais â‘m clystiau sôn amadant: ond yn awr fy llygad a’th welodd di. Am hynny y mae ffiaidd gennyf fi fy hun; ac yr ydwyf yn edifrahau mewn llwch a lludw.’ Mae Job yn edifar achos, fel y dywedodd ef, ceisiodd ef esbonio pethau y doedd e ddim yn gallu deall yn llwyr. Mae Llyfr Job yn cofadwy ymysg y llyfrau yn y Beibl fel y llyfr sy’n ceisio esbonio dioddefaint ym mywydau pobl.

 

Yn gyntaf, wrth gwrs, mae Llyfr Job yn ceisio ateb y rhai sy’n credu bod dioddefaint yn ymweld â phobl oherwydd eu pechodau nhw. Dyna ddadl cyfeillion Job,Eliffas, Bildad a Soffar. Mae Eliffas yn dweud wrth Job, ‘Ystyria’n awr, pwy sydd wedi ei ddifetha ac yntau’n ddieuog, a phwy o’r uniawn sydd wedi ei dorri i lawr?’ Mae Job yn ateb gan ddweud ei fod ef wedi byw bywyd cywir ac uniawn, yn ofnu Duw ac yn cefnu ar ddrwg. Mae hi’n gamsyniad i’w gyfeillion feddwl bod dioddefaint wedi ymweld ag ef am y rheswm hwwnw. Mae daioni a drygioni yn dod i ni gyd, fel y dywedodd Iesu yn y Bregeth ar yn Mynydd, ‘Mae eich Tad sydd yn y nefoedd yn peri i’w haul godi ar y drwg a’r da, ac yn rhoi glaw i’r cyfiawn a’r anghyfiawn.’

 

Mae dioddefiadau Job mor drist achos collodd ef sut gymaint o bethau. Fermwr cyfoethog iawn oedd Job, a mae Llyfr Job yn dweud roedd e’n yr enwocaf o holl bobl y Dwyrain. Pe basen ni’n ceisio cymharu Job gyda rhywun heddiw, bydden ni’n siarad am rywun fel un o’r tywysogion Saudi Arabia, neu rywun gyda Thîm Pel Droed ei hun,a sy’n mynd ar ei wyliau ar ei gwch ei hun yn cyrraedd ar y cwch gan hedfan yn ei hofrennydd ei hun. Mae cyfeillion Job yn chwilio am rywfath o esboniad am hyn i gyd. Felly, mae Llyfr Job yn adlewyrchu rhywbeth sy’n gwbl naturiol pan mae dioddefiadau yn ymweld â ni. Mae eisiau atebion arnon ni, a chan hynny, golygaf y ffaith ein bod ni’n edrych y tu hwnt i’r atebion amlwg. Gad i fi roi engraifft i chi: Blynyddoedd yn ôl, bues i’n gurad mewn eglwys a losgodd i lawr. Beth achosodd yr eglwys i losgi i lawr? Roedd y rheswm yn syml iawn: Cynnodd y bobl a oedd yn gweithio ar y safle y drws nesaf dân i gael gwared o ysbwriel, a lledodd y gwreichion i’r eglwys. Efallai byddai pobl yn debyg i Eliffas, Bildad a Soffar yn dweud y llosgodd yr eglwys i lawr achos roedd y gynulleidfa i gyd yn bobl ddrwg, a mae Duw wedi llosgi’r eglwys i lawr fel cosb. Er hynny, fel y dywedais, mae pobl fel cyfeillion Job yn anghywir. Felly, mae hi’n dipyn bach yn debyg y peth y Dydd Sul diwethaf: Pan mae pethau’n mynd yn anghywir, mae rhaid i ni edrych am y rhesymau syml ac amlwg, a nid y rhesymau cuddiedig yn ein barn ni, achos, pe basen ni’n gwneud hynny, bydden ni’n anghywir, achos does dim rhesymau cuddiedig. Dyna beth mae Llyfr Job yn ceisio dweud wrthon ni.

 

Yn ail, er oedd Job wedi byw bywyd uniawn, mae fe’n edifar bethbynnag. Mae Job yn edifar achos yn wyneb popeth a ddigwyddodd iddo fe, gwnaeth ef gamsyniad. Roedd e’n anghywir mewn dim ond un peth: Roedd e wedi rhoi’r gorau, ac wedi colli llawer o bethau, roedd ef eisiau golli popeth. Wedi colli sut gymaint o bethau a oedd yn dda, dechreuodd ef weld bopeth fel drwg, a dyna pam roedd eisiau golli popeth yn ei feddyliau ef. Unwaith eto, mae Llyfr Job yma yn adlewyrchu rhywbeth sy’n naturiol. Yn fwy na thebyg, gwnawn ni’r un peth â fe yn aml. Mae hi’n debyg i fynd heibio Stadium y Liberty gyda phobl yn ymadael â‘r gêm cyn bod y gêm wedi dod i ben. Yr unig rhai sy’n gwneud hynny yw cefnogwyr y tîm sy’n colli. Y problem yw, dydy’r gem ddim wedi dod i ben eto, ac ambellwaith, gollan nhw weld eu tîm yn ennill achos eu bod nhw wedi rhoi’r gorau fel cefnogwyr yn rhoi gloi ac yn rhy fuan.

 

Mae Llyfr Job yn dechrau gyda phrawf i Job. Mae gwrthwynebwyr Job yn credu pe basai fe’n colli popeth, byddai fe’n colli ei ffydd ef hefyd.Gollodd ef ddim o’i ffydd yn Nuw, ond collodd ef ei ffydd yn y dyfodol. Dyna oedd gamsyniad Job. Mae rheswm pam mae pobl yn rhoi gorau ar bethau: Pan mae pethau sy’n mynd yn anghywir, pan maepethau sy’n ddrwg neu bethbynnag y disgrifiad yn digwydd, mae’r pethau hyn yn edrych yn fwy na nhw. Maen nhw’n achosi i ni deimlo ein bod ni’n fach mewn cymhariaeth i’r pethau hyn. Mewn ffordd, ydy, mae hyn yn gywir. Er hynny, cofiwch y pethau a sonais ar y dechreuad: Er eu bod nhw’n syfrdanol wrth i ni feddwl am y Pyramidiau, y genedl a adeilodd nhw wedi diflannau miloedd o flynyddoedd yn ôl, ac er bod rhywbeth fel y Grand Canyon yn edrych yn rhyfeddol, dydy bywyd dynol ddim yn gallu parhau yno.

 

Ymysg y pethau hyn i gyd, dylen ni gofio bod Duw yn siarad i ni er gwaethaf ein gwendid, a mae Crist yn galw arnon ni ei ddilyn ef er gwaethaf ein gwendid. Dyna neges ein llithoedd heddiw, onid ydy fe? Mae Job yn dweud yn y llith, ‘Yn awr, fy llygad a’th welodd di.’ Mae cyfle gyda ni weld Duw ei hun yn Iesu Grist. Oes, mae llwyth o bethau yn y byd ac yn ein bywydau beunyddiol sydd yn syfrdanol, ac yn ymddangos yn fwy na ni. Eto, dylen ni gofio bod yr unig greaduriaid sydd wedi derbyn galwad i weithio fel gweision Duw yw dynolryw. Mae Duw yn galw arnon ni weithio er ei ogoniant ef ymysg y pethau mawrion sydd yn y byd ac yn ein bywydau beunyddiol hefyd.

 

 

 

 

 

 

 

Document Actions