Cymraeg
Gallwch chi hurio un o neuaddau Eglwys yr Holl Saint, Penarth, trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

Mae croeso mawr i chi gysylltu trwy gyfrwng iaith y Nefoedd wrth ymholi am neuaddau Eglwys Holl Saint Penarth. Ffoniwch 07771 69 77 27 neu e-bostiwch at dafydd.jones@ntlworld.com
Mae gennym ddwy neuadd - Y Neuadd Fawr a'r Neuadd Fach. Hen adeilad rhestredig yw'r Neuadd Fawr. Mae iddi lwyfan a llawr pren, lle i hyd at 100 i eistedd wrth fwrdd am bryd o fwyd a lle i 150 yn dawnsio. Rydym yn cynnal twmpathau yn gyson yn yr adeilad gyda hyd at 120 yn cael hwyl hyd yn oed os yw'r cylchoedd fwy ar siap banana!
Mae'r Neuadd Fach yn fwy diddos - mae teils carped ar y llawr, ty bach twt yn y cornel - adeilad delfrydol ar gyfer partion plant bach.
Mae cyfleusterau cegin ar gael yn y ddwy neuadd.
I hurio neuadd ar gyfer parti neu ddisgo, twmpath neu gyngerdd, cysylltwch - yn Gymraeg, wrth gwrs - a Dafydd. Edrychaf ymlaen at glywed oddi wrthych.
