Cymraeg
Mae croeso mawr i chi gysylltu a ni yn Gymraeg os hoffech chi wybodaeth am yr hyn sy'n digwydd yn y plwyf. We welcome enquiries about our parish through the medium of Welsh. Scroll down for contact details.
Mae Plwyf Penarth yr Holl Saint yn gwneud mwy trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg nag y disgwyliech chi mewn ardal sydd at ei gilydd yn eithaf Seisnig. Mae yna lawer o'r aelodau'n Gymry Cymraeg a llawer mwy ohonynt yn gefnogol o'r iaith ond heb fedru ei siarad.
Ar fore Mercher am 9.30 cynhelir Cymun Bendigaid. Bach ond brwd yw'r gynulleidfa a'r aelodau'n perthyn i wahanol enwadau.
Ddwywaith y mis cynhelir gwasanaethau ar y Sul sydd ag ychydig gynnwys Cymraeg iddynt.
Ar ail Sul y mis cynhelir Hwyrol Weddi ar Gan am 6.00. Bydd un o'r llithoedd yn Gymraeg ac yn Saesneg a'r gweddiau'n ddwyieithog. Cenir un emyn o emyniadur dwyieithog Eglwys yr Holl Saint gyda'r gynulleidfa'n dewis canu ym mh'un bynnag iaith sydd orau ganddynt.
Ar drydydd Sul y mis cynhelir Cymun Bendigaid ar Gan am 10.00 y bore gydag un o'r llithoedd eto, ynghyd a'r gweddiau ac un (o leiaf) o'r emynau yn ddwyieithog.
Os hoffech chi wybod mwy am y plwyf, Eglwys yr Holl Saint, neu Eglwys Sant Pedr yn Hen Gogan, a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch yn y lle cyntaf a Dafydd Jones.
If you want to know more about the parish and you're learning the Welsh language you are very welcome to contact me as follows:
07771 69 77 27 neu
