Santes Dwynwen - Dathlu cariad - Ionawr 22
Bydd gwasanaeth arbennig yn cael ei gynnal fore Sul nesaf, Ionawr 22, yn Eglwys y Santes Fair, Llanfairpwllgwyngyll, i ddathlu cariad.
Mae hyn yn dilyn llwyddiant gwasanaeth Sant Ffolant a gynhaliwyd yn yr un eglwys y llynedd a’r diddordeb a ddangoswyd ynddo gan nifer o gyplau lleol. Bryd hynny daeth tua tri deg o gyplau a briodwyd yn yr eglwys yn ystod y blynyddoedd diwethaf i gymryd rhan yn y gwasanaeth.
Cynhelir y gwasanaeth eleni ddydd Sul am 10 o’r gloch.
Gwahoddodd y Rheithor, Parch. Ganon Philip Hughes, y cyplau y cynhaliwyd eu gwasanaethau priodas yn yr eglwys, neu eglwysi eraill yng ngrŵp y plwyf, yn ogystal â’r cyplau hynny sydd wedi bwcio eu gwasanaethau ar gyfer y misoedd - neu hyd yn oed y blynyddoedd nesaf! - i’r gwasanaeth.
“Efallai na fydd yn bosib’ i ni ddod o hyd i’r holl gyplau a briodwyd yn Eglwys y Santes Fair dros y blynyddoedd. Os yw rhai o’ch gwrandawyr ymhlith y rhai hynny rwy’n eu croesawu nhw i ymuno efo ni ar fore Sul, Ionawr 22,” meddai’r Rheithor. “Gallant gysylltu efo fi ar 01248 713746.”
Mi fydd dathlu Diwrnod Santes Dwynwen, Nawddsant Cariadon Cymru, yn gyfle i ni ddathlu gyda’r cyplau, i weddïo drostyn nhw ac i ofyn i Dduw barhau i fendithio eu perthynas fel cwpl, neu hyd yn oed fel teulu erbyn hyn!” ychwanegodd. “Ac mae croeso wrth gwrs i bob cwpl priod fynychu’r gwasanaeth, lle bynnag y cawsant eu priodi.”
Yn dilyn y gwasanaeth yn y Santes Fair, mae’r Eglwys wedi trefnu lluniaeth ysgafn yng Ngwesty Carreg Môn gerllaw fel y gall y rhai sy’n dymuno hynny ddod draw a chael cyfle i ddod at ei gilydd yn anffurfiol.
Llythyr [clic]
