Galwad Cymru Website
We've launched our new "Vocation Wales" website.
Visit us at www.galwadcymru.org.uk
Ein Strategaeth Galwedigaethau.
Gobeithiwn y bydd ffocws cyfredol yr Eglwys yng Nghymru ar alwedigaethau yn annog dechrau (neu ailgynnau) trafodaeth am y ffordd yr ymatebwn i alwad Duw.
Os ydych chi, neu rywun yr ydych yn ei adnabod, yn ystyried a ydych chi ( neu hwythau) wedi eich galw i'r weinidogaeth ordeiniedig yn yr Eglwys, mae tri pheth i'w gwneud:
- Siaradwch â Duw am hyn – gweddïwch y bydd Duw yn siarad â chi mewn ffordd y gallwch ei deall a rhowch amser i wrando ar yr hyn a ddywed Duw wrthych chi.
Gallwch ddefnyddio eich geiriau eich hun, neu weddïau y mae eraill wedi'u hysgrifennu i siarad â Duw. Yna rhowch amser gyda'r unig fwriad o wrando ar yr hyn sydd gan Dduw i ddweud wrthych chi. Efallai mai ysbeidiau byr fydd y rhain, rhyw ddeng munud neu chwarter awr ar y tro. Yr hyn sydd fwyaf pwysig yw eich bod yn rhoi amser pan na fyddwch yn gwneud dim arall - eich bod yn rhoi blaenoriaeth i'r sgwrs hon.
- Siaradwch â phobl yr ydych yn eu hadnabod yn dda: mae ffrindiau a theulu sy'n agos atom yn gallu cynnig help a mewnwelediad i'n doniau a'n tueddfrydau a gallan nhw ein herio a'n hannog i feddwl yn fwy gofalus am bob mathau o bethau ynghylch y ffordd mae ein ffydd a'n bywydau'n gwau i'w gilydd. Hyd yn oed os nad yw'r sawl sydd anwylaf ichi'n Gristnogion gall y sgyrsiau hyn eich helpu i brofi ac archwilio'r ffordd y gallai Duw fod yn eich arwain chi at y weinidogaeth Gristnogol ac a ydyw hyn yn rhywbeth yr hoffech ei ddilyn.
- Siaradwch â chynrychiolwyr o'ch eglwys leol. Dylai clerigwyr yn eglwys y plwyf neu'r gaplaniaeth fod yn gallu eich helpu i ddarganfod mwy am realiti a phosibiliadau gweinidogaeth yn yr Eglwys yng Nghymru. Os nad ydych yn siŵr pa un yw eich eglwys leol gallwch ddod o hyd i hynny yma.
Mae Warden Ordinandiaid gan bob esgobaeth a'i swyddogaeth yn yr Eglwys yw rhoi arweiniad i'r sawl sydd wedi eu galw trwy'r broses alwedigaethau. Gellir gweld rhestr o bobl sy'n gwneud y swydd hon ar y chwith. Mae pob math o gyfleoedd a llwybrau'n agored i'ch helpu i ddysgu mwy am eich galwedigaeth ac i ddyfnhau eich ffydd.
Os yw geiriau'r Beibl "Dyma fi, anfon fi" yn siarad â chi, gwnawn ein gorau i'ch helpu i ymateb.


