To Church in Wales home page

The Church in Wales - Yr Eglwys yng Nghymru

 

Colosiaid 3:12-17 

Am hynny, fel etholedigion Duw, sanctaidd ac annwyl, gwisgwch am-danoch dynerwch calon, caredigrwydd, gostyngeiddrwydd, addfwynder ac amynedd.

Goddefwch eich gilydd, a maddeuwch i'ch gilydd os bydd gan rywun gŷn yn erbyn rhywun arall; fel y maddeuodd yr Arglwydd i chwi, felly gwnewch chwithau.

Tros y rhain i gyd gwisgwch gariad, sy'n rhwymyn perffeithrwydd.

Bydded i dangnefedd Crist lywodraethu yn eich calonnau; i hyn y cawsoch eich galw, yn un corff. A byddwch yn ddiolchgar.

Bydded i air Crist breswylio ynoch yn ei gyfoeth. Dysgwch a rhybuddiwch eich gilydd gyda phob doethineb. Â chalonnau diolchgar canwch i Dduw salmau ac emynau a chaniadau ysbrydol.

Beth bynnag yr ydych yn ei wneud, ar air neu ar weithred, gwnewch bopeth yn enw yr Arglwydd Iesu, gan roi diolch i Dduw, y Tad, drwyddo ef.

Y Beibl Cymraeg Newydd © 1988, Argraffiad diwygiedig © 2004 Cymdeithas y Beibl.
For more information about the Bible in Welsh visit: www.beiblcymraeg.org
For information about Bible Society and its work visit: www.biblesociety.org.uk