Datganiad Polisi Buddsoddi Moesegol
Fel Eglwys Gristnogol, credwn mai ewyllys Duw yw bod ein proses reoli buddsoddiadau yn cael ei gweithredu yn unol â meini prawf moesegol. Yn ein holl weithgaredd, ceisiwn hyrwyddo’r “sancteiddrwydd” gweithredol a chyfiawn hwnnw sy’n gwneud cariad Duw yn ddiriaethol a gweladwy yn y byd.
Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi ymrwymo i ddefnyddio buddsoddiadau fel dull moesegol o gyfrannu at gost gweinidogaeth a chenhadaeth yng Nghymru. Mae gan ei chyfrifoldeb yn y cyswllt hwn ddimensiwn moesegol ynddo’i hun. Ein nod yw buddsoddi’n uniongyrchol mewn cwmnïau llwyddiannus sydd ag ymrwymiad i ddatblygu eu busnes er budd i’w cyfranddalwyr, cwsmeriaid, cymunedau lleol a gweithwyr, ac i weithredu:
- arferion cyflogi cyfrifol;
- trefn lywodraethu gorfforaethol gydwybodol;
- polisïau sy’n dangos ymwybyddiaeth o effaith amgylcheddol;
- polisïau sy’n sensitif i hawliau dynol unigolion a’r cymunedau y maen nhw’n gweithredu o’u mewn.
Mae’r Eglwys yng Nghymru yn benderfynol o ddilyn polisi buddsoddi sy’n dryloyw foesegol. I’r perwyl hwnnw mae’r Eglwys yng Nghymru yn tanysgrifio i EIRIS, yn cael ei chynrychioli ar y Grwp Buddsoddwyr Eglwysig, ac mae ganddi ei Grwp Diwinyddiaeth Buddsoddi ei hun, y rhain i gyd yn monitro polisi mewn gwahanol ffyrdd ac o safbwyntiau gwahanol. Mae aelodaeth o’r Grwp Buddsoddwyr Eglwysig hefyd yn ffordd o ymarfer dylanwad cyfranddalwyr cyfrifol. Y sancsiwn eithaf yn erbyn cwmnïau sy’n amlwg yn tramgwyddo’n polisi moesegol, neu rai nad ydynt yn ymateb yn gadarnhaol i’n pryderon a fynegir, yw peidio buddsoddi. Yn benodol, mae’r Eglwys yng Nghymru yn pryderu am fuddsoddi mewn gamblo, diodydd alcoholaidd, cynhyrchion baco, lledaenu arfau, a phornograffi. Gan gydnabod y cymhlethdod moesol a’r amwyster ynghylch pob un o’r meysydd hyn, rydym yn ymrwymo i barhau i adolygu'r rhain a darpar bryderon moesegol eraill.
Polisi yr Eglwys yng Nghymru yw nad ydym fel arfer yn buddsoddi yn:
- Unrhyw gwmni y mae rhan sylweddol* o’i weithgarwch busnes yn dibynnu ar elw allan o gynhyrchu neu hyrwyddo gamblo, diodydd alcoholaidd neu gynhyrchion baco;
- Unrhyw gwmni y mae ei fusnes yn golygu lledaenu arfau y tu hwnt i amddiffyn dilys a chadw heddwch yn lleol a rhyngwladol;
- Unrhyw gwmni y mae ei fusnes yn ymwneud â phornograffi.
*Mae “sylweddol” yn cael ei ddehongli ar hyn o bryd yng nghyswllt y meysydd a ddisgrifiwyd fel “tua deg y cant”.

