Esgobion yr Eglwys yng Nghymru yn rhyddhau datganiad ar Bartneriaethau Sifil (03.12.05):
Daw'r Ddeddf Partneriaeth Sifil i rym ym mis Rhagfyr 2005. Fel canlyniad bydd dau berson o'r un rhyw yn cael statws cyfreithiol newydd drwy gofrestru partneriaeth sifil. Bydd gan hyn oblygiadau sylweddol iawn ar gyfer eu hawliau a'u cyfrifoldebau yng nghyswllt trethiant, dinasyddiaeth a mewnfudo, etifeddiaeth, atebolrwydd ar gyfer cynnal a chefnogi plant, tenantiaethau, cyflogaeth a buddion pensiwn. Ni allai ac ni fyddai Esgobion yr Eglwys yng Nghymru yn dymuno rhwystro'r hyn y mae'r gyfraith yn ei ganiatáu i aelodau'r Eglwys, yn lleygwyr a chlerigwyr. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gadael yn hollol agored natur yr ymrwymiad y mae aelodau cwpl yn dewis ei wneud i'w gilydd wrth ffurfio partneriaeth sifil. Nid yw wedi ei seilio ar fwriad i ymrwymo mewn perthynas rywiol. Nid yw'r ddeddfwriaeth newydd yn gwneud unrhyw newid yn y gyfraith yng nghyswllt priodas a dywedodd y Llywodraeth nad oes ganddi unrhyw fwriad i gyflwyno ‘priodas' i bobl o'r un rhyw.
Fel canlyniad, gall pobl mewn amrywiaeth o fathau perthynas gofrestru fel partneriaid sifil. Nid yw'r Ddeddf yn caniatáu defnyddio adeiladau eglwys ar gyfer cofrestru partneriaethau sifil ac nid yw'r Esgobion yn bwriadu cynhyrchu litwrgi gyhoeddus awdurdodedig ar gyfer cofrestriadau o'r fath.

