To Diocesan Home Pages

The Church in Wales - Yr Eglwys yng Nghymru

Use the login form to access the management functions of the site.

Press Release

Torri Tir Newydd ar ôl 1437 o flynyddoedd: Côr Genethod Cadeirlan Bangor i ganu am y tro cyntaf.

Bydd dydd Llun, 5ed Tachwedd 2012, - 5.30yp -   yn gweld dechrau traddodiad newydd   yng Nghadeirlan Bangor.  Bydd Côr Genethod y Gadeirlan  yn canu am y tro cyntaf  erioed  yn rhan o  addoli rheolaidd y Gadeirlan.

 

Byddant yn swyddogol yn canu  yn yr Hwyrol Weddi (gwasanaeth Eglwysig traddodiadol ar gyfer yr hwyr).  Bydd yn dro cyntaf mewn  1437 o flynyddoedd  y bydd lleisiau genethod  o Gôr Genethod Cadeirlan Bangor  wedi canu’n swyddogol  yn rhan weithdrefnol  o wasanaethau’r Gadeirlan.

 

Am 1437 o flynyddoedd, mae’r addoliad yn y Gadeirlan  wedi ei arwain gan  ganu corawl yn defnyddio  lleisiau bechgyn a dynion. Ond yn awr  bydd y traddodiad hir o gerddoriaeth  yng Nghadeirlan Bangor  yn datblygu unwaith eto,  ond y tro  yma  i sŵn lleisiau benywaidd.

 

Sefydlwyd Côr y Genethod, o dan arweiniad Mr. Paul Booth,  yn gynharach eleni gyda rhaglen allgyrraedd ddychmygus  o’r gadeirlan  i Ysgol y Faenol ac Ysgol Cae Top (sy’n ysgolion cynradd  yr Eglwys yng Nghymru).  Rhoddodd y rhaglen gyfle i’r disgyblion  gael gwersi canu ychwanegol. Rhoddwyd y cyfle i’r genethod a’r bechgyn a ddaeth draw, a dangos diddordeb wedi hynny,  i ddod i brofi  corau’r bechgyn a’r genethod.  Dysgodd pobl eraill  am y côr newydd   drwy’r Gadeirlan ei hun. Mae hyn wedi arwain at i  14  o enethod - o 7 i 17oed – ddod yn aelodau   o Gôr Genethod  Cadeirlan Bangor.   

 

Mae’r côr eisoes wedi canu mewn gwahanol ddigwyddiadau  yn y Gadeirlan  ac o amgylch Esgobaeth Bangor, ond hwn fydd y tro cyntaf   y byddant yn cael eu cynnwys  yn  addoliad wythnosol rheolaidd  Cadeirlan Bangor.

 

Meddai Pencantor y Gadeirlan (clerigwr gyda’r swyddogaeth o gynorthwyo  gyda chorau a cherddoriaeth), y Canon Michael Outram, sydd wedi bod yn gyfunol  mewn sefydlu’r côr , "Mae’n bleser mawr i ni  gael yn awr  gôr y Genethod   yn rhan o’r gwasanaethau wythnosol a’r addoli  yma yng Nghadeirlan Bangor. Mae pawb yn edrych ymlaen yn fawr iawn  at i’r côr newydd hwn ddod yn rhan o addoliad y Gadeirlan  yn y blynyddoedd i ddod."

 

Meddai’r Deon (y glerigwraig gyda chyfrifoldeb cyffredinol  am y Gadeirlan)  y Dra Pharchedig Ddr. Sue Jones,  "Mae pawb sy’n gysylltiedig â Chadeirlan Bangor wrth eu bodd  gyda’r datblygiad newydd hwn.  Mae gan lawer o gadeirlannau ym Mhrydain gorau ar wahân  ar gyfer lleisiau gwrywaidd a benywaidd, ac yma ym  Mangor rydym yn ymroddedig iawn  i ddatblygu ein dau gôr.  Rydym yn dibynnu ar   ymroddiad aelodau ein côr  a’u teuluoedd   i sicrhau ein bod yn cynnig  y safon orau   o addoli a cherddoriaeth   yn y Gadeirlan.  Mae’n fendigedig  y bydd genethod yn awr,  yn ogystal â bechgyn,  yn awr  yn cael y cyfle i brofi  bod yn rhan o Gôr y Gadeirlan, a’r holl gyfleoedd   a all ddod gyda hynny.  Ar ôl 1437 o flynyddoedd,  mae heddiw’n nodi dechrau  rhan newydd o’n traddodiad corawl  yma, ac mae’n ddatblygiad naturiol  a fydd yn cynorthwyo i sicrhau   y bydd bechgyn a genethod mewn corau, a fydd yn canu clodydd  am lawer blwyddyn i ddod."

 
 

Cysylltwch â mi  os bydd arnoch angen  unrhyw wybodaeth bellach.

Mae’r bobl uchod ar gael  i siarad yn Saesneg. Rwyf i ar gael i siarad yn Gymraeg a Saesneg.

 

Ffotograffwyr:  Mae Côr y Genethod yn cyfarfod   yn y Gadeirlan i ymarfer am 4yp, ac mae’r gwasanaeth o 5.30yp tan 6.10yh yn fras.  A fyddech mor garedig â rhoi gwybod i mi  os byddwch yn dod, ac yn fras pryd.

 
 

Oddi wrth:  Y Parchedig Ganon Robert Townsend,  Swyddog Cyfathrebu,  Esgobaeth Bangor,  yr Eglwys yng Nghymru

Swyddfa  01248 354999     Cartref  01248 650262       Symudol  07827 297668

roberttownsend1@me.com
 

Entered By Anna Morrell on Wednesday 14th of November 2012

Anna Morrell, Archbishop’s Media Officer
Church in Wales
39 Cathedral Rd
Cardiff CF11 9XF

Email Address: annamorrell@churchinwales.org.uk
Telephone: Work: 02920 348208 Mobile: 07919 158794