Press Release
Lansio’r Canolbwynt – yr Eglwys yn gweithredu ar heriau gwledig
Elin Jones ac Esgob John Davies
O ddiciâu gwartheg i dai fforddiadwy – bydd yr heriau sy’n wynebu Cymru wledig ar ganol y llwyfan mewn rhaglen blwyddyn o hyd o seminarau a lansir yn Sioe Frenhinol Cymru heddiw (dydd Iau 22 Gorffennaf).
Bydd Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion Gwledig, yn lansio’r “Canolbwynt Materion Gwledig” a drefnwyd gan yr Eglwys yng Nghymru, mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru i drin a thrafod anghenion cymunedau gwledig heddiw.
Cynhelir pob un o’r 10 seminar, a gaiff eu rhedeg o fis Hydref hyd fis Mawrth 2012, ar Faes y Sioe a byddant ar agor i bawb. Mae’r themâu yn cynnwys gofal bugeiliol, newidiadau yn y Polisi Amaethyddol Cyffredinol, cymorthdaliadau, marchnadoedd a sioeau, tlodi gwledig, tai ac iechyd, unigrwydd, gweinidogaeth, newid yn yr hinsawdd ac afiechyd anifeiliaid.
Seiliwyd y Canolbwynt ar adborth gan Gynghorwyr Bywyd Gwledig yr Eglwys a chlerigwyr sy’n gwasanaethu mewn plwyfi gwledig. Y nod yw dod â phobl ynghyd i ganfod ffyrdd cadarn a chreadigol i adfywio cymunedau gwledig. Bydd siaradwr a thrafodaethau bwrdd crwn ym mhob seminar.
Dywedodd y Parch Canon Robin Morrison, Cynghorydd Esgobion ar Eglwys a Chymdeithas: “Mae Cynghorwyr Bywyd Gwledig yr Eglwys yng Nghymru a chlerigwyr a phlwyfi sy’n gweithio mewn ardaloedd gwledig yn ymwybodol iawn o realaeth gwahanol fathau o anfantais, anobaith, rhwystredigaeth ac unigrwydd. Credant hefyd fod posibilrwydd byth-bresennol atgyfodiad a thrawsnewid yn ganolog i’r ffydd Gristnogol, hyd yn oed yn y sefyllfaoedd mwyaf bregus. Mae’n hollbwysig nad yw profiad go iawn teuluoedd cyffredin, yn neilltuol mewn amaethyddiaeth a busnesau cysylltiedig, yn troelli yn ymdeimlad o negyddiaeth ac anobaith yn wyneb y newidiadau a heriau sydd ar ddod.
“Medrai Cymru yn rhwydd fod â mwy o rôl wrth ganfod ffyrdd newydd i’w hadfywio ei hun ac adeiladu cynaliadwyedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol tymor hwy. Dylid ystyried anghenion, lles a chyfraniad y cymunedau lleiaf yng Nghymru wledig fel bod yn berthnasol i’r darlun a’r potensial ehangach hwn.”
Dywedodd y Parch Richard Kirlew, Arweinydd Cenedlaethol ar Faterion Gwledig dros yr Eglwys yng Nghymru: “Croesawn gefnogaeth Ymddiriedolwyr Sioe Amaethyddol Frenhinol a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Credwn fod Maes y Sioe yn ganolfan a chanolbwynt delfrydol ar gyfer datblygu ein pryderon gwledig ein hunain. Mae Cymru yn ffodus iawn cael canolbwynt rhagorol ar gyfer materion gwledig sy’n cynrychioli’r gorau oll o ddiwylliant ffermio traddodiadol yng Nghymru ac yn ffocws ar gyfer cyfleoedd a datblygiad yn y dyfodol.”
Lansir Canolbwynt Materion Gwledig yr Eglwys yng Nghymru ym Mhabell yr Eglwys (Stondin D-301) yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru am 11am ddydd Iau. Mae croeso i ohebwyr a ffotograffwyr fod yn bresennol.
The full programme can be see at:
www.eglwysyngnghymru.org.uk/adnoddau/bywydcefngwlad/RL-01-cy.pdf
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â:
Entered By Anna Morrell on Friday 23rd of July 2010
Anna Morrell, Archbishop’s Media OfficerChurch in Wales
39 Cathedral Rd
Cardiff CF11 9XF
Email Address: annamorrell@churchinwales.org.uk
Telephone: Work: 02920 348208 Mobile: 07919 158794

