To Diocesan Home Pages

The Church in Wales - Yr Eglwys yng Nghymru

Use the login form to access the management functions of the site.

Press Release

Prifddinas hyderus yn arwydd o Gymru newydd hyderus

Darllenir mewn Hebraeg gan Alan Schwartz

Darllenir mewn Hebraeg gan Alan Schwartz

Bydd Archesgob Cymru yn dweud heddiw bod pwysigrwydd cynyddol Caerdydd fel dinas ryngwladol yn dangos hyder newydd yng Nghymru fel cenedl.

Yn ei anerchiad Gŵyl Ddewi dywed y Dr Barry Morgan fod Caerdydd yn ganolbwynt i’n bywyd cenedlaethol yn yr un modd ag y mae Dewi Sant yn symbolaidd bwysig i Gymru gyfan. Ond er y dylem ddathlu llwyddiant y brifddinas, rhybuddiodd na ddylem golli diddordeb yng ngweddill y wlad.

Mewn pregeth yn Eglwys Sant Ioan yng nghanol Caerdydd, dywedodd y Dr Morgan,  “Ar yr ŵyl genedlaethol hon, fel y mae’n bosibl bod yn Gymry balch a sylweddoli ein bod ar yr un pryd yn perthyn i’r ddynolryw gyffredin ac nad anghydnaws mo’r ddeubeth, y mae’n bosibl hefyd llawenhau yn y ddinas hon heb anghofio pwysigrwydd gweddill Cymru”.

Dywedodd mai’r weledigaeth y tu ôl i gynlluniau adfywio Caerdydd, gyda’i hadeiladau eiconig – y Senedd, Canolfan y Mileniwm, y Ganolfan Griced Ryngwladol ac, yn ddiweddar, ganolfan siopa Dewi Sant – oedd gwneud Caerdydd yn ddinas ag iddi arbenigrwydd rhyngwladol a hyrwyddo economi’r ddinas a’r ardal ac, yn wir, economi Cymru gyfan.
 
“Fe all,” meddai, “y bydd rhai ohonoch sydd yma heddiw o ogledd neu orllewin Cymru yn dweud: ‘Fel yna y mae hi: y de yn rheoli fel erioed’. Yn union fel mai sant o’r de yw ein nawddsant, fe ganolir popeth bellach yn y de, yng Nghaerdydd ... A dyna lle y mae gan arwyddocâd symbolaidd le i’w chwarae. Yn union fel y mae i Ddewi Sant arwyddocâd symbolaidd i Gymru gyfan, cynrychiola’r brifddinas Gymru newydd hyderus a hyder newydd yng Nghymru”.

Canmolodd ymdrechion Caerdydd i wella bywyd ei holl bobl, a chynnwys yn ei chynllun adfywio hostel £3m i’r digartref.

“Mae’r ddinas,” meddai, “wedi ceisio codi urddas bywyd ei holl ddinasyddion trwy greu amgylchedd lle y gall pobl fyw a gweithio mewn diogelwch ... mae wedi sylweddoli os nad oes newyddion da i bawb nad oes newyddion da i neb, ac y bernir pob dinas a chymdeithas yn y pen draw yn ôl sut y maent yn trin eu dinasyddion tlotaf”.

“Yr ydym felly yn llawenhau yn y pethau da hyn a ddigwyddodd yng Nghaerdydd. Ac fel y daeth Dewi Sant i fod yn nawddsant inni, gall y ddinas hon fod yn ganolbwynt i bopeth sy’n dda yn ein bywyd cenedlaethol, heb anghofio gweddill Cymru”.

* Os dych chi`n dod i Gaerdydd ar gyfer yr orymdaith, cofiwch fod croeso i chi ymuno a chymulleidfa Eglwys Dewi Sant ar y Sul cyn Gwyl Dewi, Chwefror 28ain. Yr Esgob Wyn Evans, Esgob Tyddewi, fydd yn gweinyddu ac yn pregethu wrth i ni gadw gwyl nawddsant y plwyf. Am 10.30 mae gwasanaeth y bore, gyda`r Gosber am 6pm.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag:

Entered By Anna Morrell on Monday 01st of March 2010

Anna Morrell, Archbishop’s Media Officer
Church in Wales
39 Cathedral Rd
Cardiff CF11 9XF

Email Address: annamorrell@churchinwales.org.uk
Telephone: Work: 02920 348208 Mobile: 07919 158794